Gall ymwelwyr â Chae Ddol yn Rhuthun nawr wrando ar straeon o hanes Gogledd-Ddwyrain Cymru mewn ffordd unigryw, drwy fainc sain newydd sy’n cael ei phweru gan ynni’r haul, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Wedi’i lleoli y tu ôl i’r ardal chwarae plant, mae’r fainc newydd yn cynnig cyfle i ddefnyddwyr y parc eistedd, ymlacio a gwrando ar straeon diddorol o gasgliadau Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru. Gyda phanel syml o fotymau a seinyddion wedi’u hymgorffori, mae’r fainc yn galluogi ymwelwyr o bob oed i wrando ar recordiadau a ysbrydolwyd gan ddogfennau hanesyddol go iawn a chyfrifon personol a gedwir yn yr archifau.
Crëwyd y recordiadau mewn partneriaeth â grŵp ysgrifennu Theatr Clwyd, Cwils. Ymwelodd aelodau’r grŵp ag Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru i archwilio’r casgliadau a chael ysbrydoliaeth o’r cofnodion a ddarganfuwyd. Gan ddefnyddio’r deunydd archif yma, datblygwyd cyfres o sgriptiau gwreiddiol yn seiliedig ar bobl a digwyddiadau go iawn o orffennol y rhanbarth.
Mae’r straeon sain yn archwilio themâu cariad a cholled, newid a gwydnwch, gan ddatgelu profiadau pobl gyffredin mewn cyfnodau anghyffredin mewn hanes. Trwy rannu’r lleisiau hyn mewn lleoliad cyhoeddus, mae’r prosiect yn annog trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddarganfod nad yw hanes yn rhywbeth pellennig; mae’n bersonol, yn berthnasol ac yn perthyn i bawb.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae hwn yn enghraifft wych o sut y gallwn ddod â’n treftadaeth leol gyfoethog yn fyw mewn ffordd sy’n hygyrch, yn ddifyr ac yn bleserus i bawb.
“Mae’r fainc sain yn cynnig cyfle unigryw i bobl gymryd saib, ymlacio a gwrando ar straeon wedi’u hysbrydoli gan y bobl, y profiadau a’r digwyddiadau go iawn sydd yng nghasgliadau Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru. Mae’n arbennig o gyffrous gweld ein harchif yn cael eu rhannu mewn ffordd mor arloesol, y tu allan i leoliad archif traddodiadol.
“Mae prosiectau fel hyn yn ein helpu i gysylltu pobl â hanes ein cymunedau ac yn annog cynulleidfaoedd newydd i ddarganfod y straeon sydd wedi siapio ein rhanbarth. Gobeithio y bydd trigolion ac ymwelwyr â Chae Ddol yn manteisio ar y cyfle i aros, gwrando a mwynhau’r lleisiau diddorol hyn o’n gorffennol.”
Mae’r fainc yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Archif Gogledd-Ddwyrain Cymru i wneud treftadaeth y rhanbarth yn fwy hygyrch gan ennyn diddordeb cynulleidfa newydd mewn hanes lleol a sicrhau gellir mwynhau’r casgliadau y tu hwnt i adeiladau archif traddodiadol.
Anogir ymwelwyr i alw heibio’r fainc sain, cymryd sedd a darganfod y straeon rhyfeddol sy’n cael eu cadw yn Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru.
Ynglŷn â Cwils
Mae Cwils yn grŵp cymunedol Theatr Clwyd sy’n rhoi cyfle i bobl archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol. O ddramâu i farddoniaeth, straeon byrion i nofelau, mae’n fan lle gallwch ddysgu, datblygu a meithrin cariad at ysgrifennu. Mae ar gyfer y rhai sy’n cychwyn ar eu taith fel awduron, gyda chefnogaeth ac arbenigedd Theatr Clwyd. Mae manylion llawn ar gael ar wefan Theatr Clwyd o dan yr adran “Cymryd Rhan”.










































