Rhoi wyneb i enw: Yr archifau’n caffael portread teulu o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf

Yn ddiweddar derbyniodd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn Rhuthun ffotograff newydd cyffrous i’w casgliad. Yn ddiweddar rhoddodd aelod o’r cyhoedd bortread o deulu’r milwr cyffredin Henry (neu Harry fel yr oedd yn cael ei adnabod) Jones o Stryd Mwrog, Rhuthun, a gollodd ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd gan yr archifau eisoes gasgliad o gardiau post a llythyrau a anfonwyd gan y Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig o’r Ffrynt ac mae’r ymchwilwyr bellach yn gallu rhoi wyneb i enw gyda llun o’i wraig a’i blant.

Mae’r ffotograff yn bortread ffurfiol sydd wedi’i dynnu mewn stiwdio ac ynddo mae Mrs Elizabeth Jones yn gwisgo ffrog dywyll hir a het sy’n cyd-fynd â’i gwisg. O’i hamgylch mae ei phedwar plentyn i gyd dan bedair neu bump oed. Mae’r plant; Mary, Gladys, Isaac a Mons, hefyd yn gwisgo dillad ffurfiol a’r babi’n gwisgo gwisg sy’n edrych fel dillad bedydd. Gellir dyddio’r ffotograff yn ôl oedran y plant a chredir ei fod wedi cael ei dynnu tua mis Rhagfyr 1914 pan fedyddiwyd Mons yn yr eglwys blwyf leol.

Yn eu llythyrau mae Harry’n sôn am ba mor oer yw’r tywydd yn y nos.  Mae hefyd yn dweud ei bod yn wlyb iawn yno.  Mae’n sôn am dderbyn parsel gyda sgarff a baco ynddo ac mae’n dweud y bydd yn help i gadw ei wddf yn gynnes iawn. Roedd y pâr yn trafod enw eu babi newydd yn y llythyrau ac yn ddiweddarach, yn yr un llythyr, mae Harry yn dweud wrth Elizabeth bod Mons yn enw dymunol iawn i fabi ar ôl i Elizabeth ei enwi ar ôl Brwydr Mons.  Yna mae’n dweud ei fod yn gobeithio y cânt Nadolig da, gwell na’r un gaiff o, ac mae’n gobeithio y bydd yn well y tro nesaf os daw o adref o gwbl.

Yn ei lythyr olaf ar 23 Chwefror 1915 mae Harry yn holi am ei dad sy’n wael.  Mae’n gofyn i Elizabeth ei fwydo’n dda gyda chawl ac oxo.  Mae un dyfyniad o’i lythyr fel a ganlyn: “Well my Dear please remember me to father and give him my best love and tell him to cheer up and tell him the war will be over very soon now and I will be able to see him again…”  Yn y llythyr hwn mae’n gofyn i Elizabeth am lun ohoni hi a’r plant, ac mae’n dweud wrthi fod modd eu cael yn rhad iawn ar gerdyn post. Ym mhob un o lythyrau Harry mae’n galw Elizabeth yn ‘ei annwyl wraig’ ac mae’n dymuno’n dda ac iechyd da iddi hi a’r plant. Mae Harry’n arwyddo’r llythyrau gyda “From Your Loving Harry” a llawer o gusanau.

Yn anffodus lladdwyd Harry ar ddydd Gŵyl Dewi yn 1915 yn ddim ond 29 oed, ychydig fisoedd ar ôl i’r portread gael ei dynnu. Nid oedd wedi cyfarfod â’i blentyn ieuengaf, ac mae’n bosibl nad oedd hyd yn oed wedi gweld y llun o’r teulu sydd bellach yn yr archifau.

Mae’r lluniau isod yn dangos detholiad o lythyrau Harry, y portread teulu sydd newydd ei gaffael a chofnod cofrestr bedydd Mons Jones yn Eglwys Llanfwrog.

I weld llythyrau Harry a’r portread teulu, gallwch ymweld â’r archifau yn Rhuthun. Ymwelwch â’n gwefan am ragor o fanylion ar sut i gynllunio eich ymweliad www.agddc.cymru

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yng Ngharchar Rhuthun ac mae’n cynnal digwyddiad Drysau Agored ddydd Sadwrn 9 Medi. Bydd y gwasanaeth yn dathlu hanes ffotograffiaeth gydag arddangosfeydd a gweithgareddau thematig i bawb o bob oed. I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Drysau Agored, edrychwch ar wefan CADW ar https://cadw.gov.wales/visit/whats-on/open-doors.

Gadael sylw