Amdanom ni
Mae swyddfa Archifdy Sir Ddinbych, wedi ei leoli yng Ngharchar Rhuthun, ac yn cael ei redeg gan griw brofessiynol bychan. Rydym wedi creu blog er mwyn i chi ddod i adnabod ymhellach y cofnodion sydd ar gael yma. Ein bwriad yw defnyddio’r safle fel ardal arddangosfa ar-lein, safle i staff egluro elfennau o’u gwaith, ond yn bennodol i uchelbwyntio’r agweddau gwych o fewn ein casgliadau.
Ein prif bwriad yw sicrhau diogelwch a chadwraeth ein casgliadau archifol, a sicrhau eu cadwraeth am y tymor hir. Rydym hefyd yn hyrwyddo mynediad i’n cofnodion, a chynnig cymorth i gael gwybodaeth ohonynt. Mae’r Archifdy yn agored i’r cyhoedd, ac mae mynediad yn rhâd ac am ddim.
Ein dyletswyddau dyddiol:
- casglu a chatalogio cofnodion sydd yn ymwneud â Sir Ddinbych
- ateb ymholiadau ynglyn ag ein casgliadau
- cyflawni gwaith ymchwil ar eich rhan
- darparu mynediad i’r cofnodion yn ein ystafell ymchwil
- rhoi cymorth ag arweiniad i ymchwilwyr wrth ddefnyddio dogfennau
- ailbacio dogfennau i bacedi addasol er mwyn eu cadwraeth am y tymor hir
Gwasanaethau pellach:
- gweithio ar brosiectau gydag ysgolion ac addysg
- paratoi arddangosfeydd yn gystylliedig a’n casgliadau
- rhoi cyflwyniadau i grwpiau allanol
Rydym yn annog ein darllenwyr i bostio sylwadau a hel thrafodaeth. Noder os gwelwch yn dda, drwy wneud sylwadau ar ein blog, rydych yn cutuno i rannu eich sylwadau gyda ni a darllenwyr eraill. Mae’r holl ddefnydd sydd yn cael eu gyhoeddi yn y blog, yn cael eu ddefnyddio ar gyfer bwrpasau anfasnachol, ac/neu mae’r hawlfraint yn cael ei gadw gyda Gwasanaeth Archifau Sir Ddinbych.
Rhagfyr 22, 2012 yn 12:06 pm |
Rwy’n aelod o dîm sy’n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel ‘mod i’n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?
Cofion,
Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle
CorpwsCymraeg@gmail.com
Ionawr 3, 2013 yn 10:00 am |
Diolch am eich ymholiad. Os gwelwch yn dda, ebostiwch ni yn archifau@sirddinbych.gov.uk gyda manylion pellach.