Archwiliwch Ein Straeon: Podlediad newydd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru

Mae’n Wythnos Archwiliwch Eich Archif yr wythnos hon. Gydol yr wythnos anogir pawb i ymweld ag archifau yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon, eu defnyddio, eu clodfori a dwyn ysbrydoliaeth ohonynt.

Eleni rydym wrth ein boddau i lansio Heb Asid, ein podlediad newydd sbon a chyfres o straeon digidol sy’n bwrw golwg ar themâu a phrofiadau go iawn o’n casgliadau. Ymunwch â’n harchifwyr a’u gwesteion arbennig wrth inni graffu’n fanylach ar y bobl a’r hanesion yn ein casgliadau a dod â rhai o’r straeon anhygoel yn fyw.

Yn ein podlediad cyntaf rydym yn canolbwyntio ar Oriel y Dihirod: Troseddwyr Gogledd Ddwyrain Cymru yn Oes Fictoria ac yn ymuno â ni fydd Richard Ireland, awdur a darlithydd sy’n arbenigwr ar hanes trosedd a chosb, wrth ymchwilio i fywydau troseddwyr Oes Fictoria, trafod y ffotograffau’r oedd yr heddlu’n eu defnyddio, y cosbau a roddwyd i bobl a chyflwr carchardai ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwrandewch ar y podlediad yma;

Mae’r gyfres newydd hefyd yn cynnwys straeon digidol sydd wedi’u creu ar y cyd ag ymchwilwyr gwirfoddol o Brifysgol Glyndŵr. Eleni buom yn ymchwilio i fywydau a throseddau David Francis a George Walters. Mae Francis a Walters ill dau’n ymddangos yn ein “Llyfrau Lladron”, dwy o gyfrolau clawr lledr digon cyffredin yr olwg yn ein casgliadau, sy’n llawn lluniau o ddrwgweithredwyr wedi’u dal ynghyd â disgrifiadau corfforol ohonynt a manylion am eu troseddau. Rydym yn trafod y llyfrau hynny yn ein podlediad ac rydym yn eich annog i wrando a gwylio’r tri ohonynt i gyd. Gallwch wylio’r straeon digidol ar YouTube isod:

Diolch i bawb a fu wrthi’n recordio ein deunydd digidol newydd a gwneud yr holl waith ymchwil, a diolch arbennig i Richard Ireland, ein gwestai cyntaf, a Neil Johnson, ein hymchwilydd-fyfyriwr. Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn hebddoch chi. Cadwch olwg ar ein blog i gael clywed am benodau newydd o’r podlediad.

Tagiau: ,

Gadael sylw