Ymweliadau grŵp yn yr archifau

Ebrill 25, 2018

Yn y 12 mis diwethaf rydym wedi cynnal digwyddiadau yn yr archifau sydd wedi denu bron i 400 o bobl drwy ein drysau, i ddysgu mwy am ein hadeilad a beth rydym yn ei wneud.

Y mis hwn rydym wedi croesawu aelodau Cymdeithas Hanes Rhuthun i’n swyddfa am ymweliadau grŵp. Roedd gan yr aelodau’r cyfle i weld dewis o gofnodion yn ymwneud â Rhuthun a gweddill y sir, a gwrando ar sgwrs staff am beth rydym yn ei wneud fel gwasanaeth archifau a pha gyfleoedd sydd yna ar gyfer ymchwil a gwirfoddoli.

Diolch i Gymdeithas Hanes Rhuthun, rydym yn gobeithio gweld eich aelodau eto’n fuan!

IMG_5342

IMG_1031

A fyddai eich grŵp hanes lleol yn hoffi dod i’n gweld am daith a sgwrs grŵp?  Os felly, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffôn i drafod. Cysylltwch â ni yma.

Parlys Cyffredinol y Gorffwyll yn Ysbyty Gogledd Cymru

Ebrill 4, 2018

Ar 31 Awst 1917, cafodd Samuel Morris ei dderbyn i Ysbyty Gogledd Cymru. Roedd yn gyn-filwr a ryddhawyd o’r fyddin ar 9 Chwefror 1917 ar y sail nad oedd mwyach yn gorfforol gymwys i wasanaethu. Mae cofnodion yr ysbyty amdano’n dweud fod ganddo “no idea of time or place, incoherent speech, tremor of tongue, face and limbs” pan gafodd ei dderbyn. Bu farw ar 29 Ionawr 1918 yn 41 mlwydd oed, gan adael gwraig a phump o blant ar ei ôl.

Wrth gael ei dderbyn, cafodd Samuel ddiagnosis o barlys cyffredinol y gorffwyll (general paralysis of the insane), sef anhwylder niwroiseiciatrig sy’n achosi newidiadau dirywiol yn yr ymennydd. Erbyn 1917, roedd yn hysbys bod y math hwn o barlys yn deillio o siffilis heb ei drin a’i fod fel arfer yn digwydd o fewn deng mlynedd i’r haint siffilis yn y lle cyntaf. Mae cofnodion Samuel o’r fyddin yn dangos ei fod wedi’i ddiagnosio â siffilis yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu yn Ne Affrica.

Bu cynnydd yn nifer y cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty gyda pharlys cyffredinol y gorffwyll yn y degawd ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf gan fod y dynion yn dal siffilis yn ystod eu gwasanaeth milwrol. Yn ei adroddiad ym 1928, dywedodd Frank G. Jones, yr Uwch-arolygydd Meddygol:

“Cases of general paralysis is being now definitely regarded as due to venereal disease and also that it sets about 10 years after primary infection and it is now ten years since the war ceased, it is of course natural that we can now expect the annual increase to abate and hope that the figures become less again”.

Ni fu cymaint o gynnydd yn y niferoedd a dderbyniwyd gyda pharlys cyffredinol y gorffwyll i Ysbyty Gogledd Cymru o gymharu â rhai ysbytai, gan fod poblogaeth yr ardal yn gymharol ddisymud. Yn wir, roedd y broblem yn llawer gwaeth mewn dinasoedd, yn enwedig mewn rhai â phorthladdoedd. Fodd bynnag, mae adroddiad blynyddol yr Uwch-arolygydd Meddygol o 1931 yn dal i ddangos y cynnydd a fu yn niferoedd y rhai a dderbyniwyd gyda’r parlys yn y ddeng mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel, cyn gostwng eto ar ôl 1928.

 


Nifer yr achosion o barlys cyffredinol y gorffwyll a dderbyniwyd
1924 3
1925 3
1926 6
1927 8
1928 12
1929 7
1930 8
1931 2

 

Roedd dulliau o drin y clefyd yn cael eu datblygu yn y 1910au ac ym 1922, Ysbyty Meddwl Whittingham yn Swydd Gaerhirfryn oedd y cyntaf ym Mhrydain i drin cleifion gan ddefnyddio therapi malarïaidd a oedd yn cynnwys heintio’r cleifion â malaria i achosi clefyd gwres, a oedd yn aml yn atal parlys cyffredinol y gorffwyll rhag datblygu. Gan fod diffyg cyfleusterau ar gyfer y math hwn o driniaeth yn Ysbyty Gogledd Cymru, roedd cleifion yn cael eu hanfon i Ysbyty Meddwl Caer o 1926 ymlaen.

“On January 19th1926, I transferred a male patient to Chester Mental Hospital. He received inoculations, and has been discharged recovered to his home. It is my opinion that in early and suitable cases of G.P.I. the disease can be arrested by this malarial treatment”.

Ymhen amser, cyflwynwyd dulliau newydd o drin yr anhwylder, gan gynnwys pigiadau sylffwr y gellid eu rhoi yn Ysbyty Gogledd Cymru. Yn y 1940au, roedd dyfodiad penisilin i bob pwrpas yn ddiwedd ar y problemau a oedd yn gysylltiedig â siffilis ac fe ostyngodd niferoedd y rhai a dderbyniwyd i ysbytai meddwl gyda pharlys cyffredinol y gorffwyll yn sylweddol.

 

Lindsey Sutton

Archifydd y Prosiect (Datgloi’r Seilam)

Mae cofnod Samuel Morris o’r fyddin yn cael ei gadw yn yr Archifau Gwladol, cyfeirnod WO 363, a gallwch eu gweld ar https://www.findmypast.co.uk/.

Cofrestrau Mynediad Cleifion Gwallgof, 1849-1912

Mawrth 12, 2018

Oeddech chi’n gwybod fod Cofrestrau Mynediad Cleifion Gwallgof ar gael i’w gweld ar ancestry.co.uk? Gallwch ddefnyddio’r mynegai hwn i chwilio am gleifion oedd yn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych rhwng 1846 a 1912.

Roedd y cofrestrau hyn, sy’n rhoi manylion cleifion oedd mewn seilam, rhai cyhoeddus a phreifat, yn cael eu cadw gan y Comisiwn Gwallgofrwydd. Yn 1845 roedd y Ddeddf Gwallgofrwydd a’r Ddeddf Seilam Sirol yn gorfodi siroedd i adeiladu seilams sirol ar gyfer y rhai oedd yn wallgof yn droseddol a thlawd ac o dan y ddeddf sefydlwyd y Comisiwn Gwallgofrwydd i oruchwylio seilams preifat a chyhoeddus.

O dan Ddeddf Diffygion Meddyliol 1913 disodlwyd y Comisiwn Gwallgofrwydd gan y Bwrdd Rheoli Diffyg Meddyliol a Gwallgofrwydd; yn 1948 trosglwyddwyd swyddogaethau’r Bwrdd i’r Gweinidog Iechyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1946.

Gellir canfod cofnodion yn ymwneud â’r Comisiwn Gwallgofrwydd yng nghasgliad Ysbyty Gogledd Cymru; roedd y Comisiwn yn ymweld â’r ysbyty yn flynyddol, ac mae adroddiadau yn ymwneud â’u hymweliadau wedi eu cynnwys yn Adroddiadau Blynyddol yr ysbyty.

Roedd y cofrestrau mynediad eu hunain yn cofnodi enw a rhyw y claf; enw’r ysbyty, y seilam neu’r tŷ trwyddedig; a’r dyddiad yr aeth y cleifion i mewn a’r dyddiad y cawsant eu rhyddhau neu y buont farw. Mae’r mynegai, yn ogystal â chofnodion y claf a oroesodd o’r ysbyty, yn adnoddau gwych ar gyfer ymchwil hanes teuluol, hanes lleol ac ymchwil academaidd. Nodwch fodd bynnag os gwelwch yn dda fod mynediad i gofnodion ysbytai ar gau am 100 mlynedd o ganlyniad i gyfyngiadau preifatrwydd.

Mae Archifau Sir Ddinbych yn darparu mynediad am ddim i wefan Ancestry, i archebu lle ac am fanylion pellach ewch i’n gwefan os gwelwch yn dda.

Gellir canfod manylion ynglŷn â phrosiect ‘Datgloi’r Seilam’ yma.

Datgloi’r Seilam – Lansio’r Catalog

Chwefror 7, 2018

O ganlyniad i’n prosiect Datgloi’r Seilam, sydd wedi ei ariannu gan Wellcome, rydym yn falch o gyhoeddi lansiad catalog dros dro ar gyfer rhan gyntaf casgliad Ysbyty Gogledd Cymru. Mae’r catalog dros dro hwn yn disodli’r rhestr bapur flaenorol. Yn y catalog, sy’n cynnwys dros 500 o eitemau, mae gwell disgrifiadau o’r eitemau a hefyd strwythur newydd a fydd yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr ganfod cofnodion sy’n berthnasol i’w hymchwil. Gellir canfod y catalog dros dro yma (Cliciwch ar Edrych yn ôl Hierarchaeth i agor rhestr y catalog).

Catalog arlein Ysbyty Gogledd Cymru

Mae’r casgliad yn cynnwys cofnodion rheoli fel cofnodion ac adroddiadau blynyddol, cofnodion adeiladu gan gynnwys rhai sy’n ymwneud â sefydlu’r ysbyty, cofnodion ariannol gan gynnwys cyfrifon a chofnodion cleifion gan gynnwys pryd yr aethant i’r ysbyty a phryd y cawsant eu rhyddhau. Hefyd llyfrau achosion, cofnodion staff gan gynnwys llyfrau cyflogau a deunyddiau eraill gan gynnwys lluniau a deunydd wedi ei dorri o bapurau newydd.

Nodwch os gwelwch yn dda fod cofnodion cleifion a staff sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif ar gau am rhwng 75 a 100 mlynedd o ganlyniad i reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae gwaith ar y gweill nawr i gatalogio ac ail-becynnu gweddill y casgliad, a bydd fersiwn derfynol y catalog a fydd yn cynnwys y cofnodion sydd wedi eu derbyn yn ddiweddarach, ar gael erbyn diwedd y prosiect yn 2019. Yn ychwanegol at hyn mae Swyddog Cymorth y Prosiect yn gweithio’n galed i ail-becynnu a gosod y gyfres ddiweddarach o ffeiliau’r claf mewn mynegai ac mae 2,100 eisoes wedi eu cwblhau.

Byddwn yn parhau i bostio diweddariadau rheolaidd ynglŷn â chynnydd y prosiect a manylion digwyddiadau ar ein blog a’n tudalennau Facebook.

Mae Mapiau Degwm ar gael nawr ar ein gwefan!

Ionawr 25, 2018

Efallai y bydd rhai o’n hymwelwyr rheolaidd â’n gwefan wedi sylwi ar ychwanegiad newydd at ein syllwr map ar-lein – Haen Map Degwm newydd wedi’i chreu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod Prosiect Cynefin. Tydi hi erioed wedi bod mor hawdd i ddod o hyd i fan o ddiddordeb ar fap degwm!

Gallwch gael mynediad at Haen Map y Degwm drwy ddilyn y camau syml hyn-

  1. Ewch i’n prif wefan a dewiswch Mapiau o’r ddewislen uchaf

welsh homepage

  1. Bydd y syllwr map yn agor fel y gwelir isod

screenshot 2

  1. Rhowch eich cyrchwr dros gongl uchaf ochr dde eich sgrin nes bod y ddewislen haenau’n ymddangos, ac yna ewch i Mapiau Degwm, symudwch y llithrydd i’r dde i ddewis yr haen hon

screenshot 3.png

  1. Bydd y syllwr yn newid i fod yn droshaen dros fapiau degwm Cymru, fel y gwelir isod. Gallwch yna chwyddo’r ardal y mae gennych ddiddordeb ynddi.

screenshot 4.png

  1. Neu gallwch ddod o hyd i fan o ddiddordeb wrth edrych arni fel lloeren fodern yn gyntaf, ac yna newid yr haen. Gallwch ddefnyddio’r offeryn pylu i symud o’r map lloeren fodern i’r map degwm i ddangos newid dros amser.

This slideshow requires JavaScript.

Nid yw’r Haen Map Degwm yn cynnwys manylion y rhaniad ar ein gwefan, ond gallwch weld y rhain drwy fynd i wefan Lleoedd.Llyfrgell.Cymru y Llyfrgell Genedlaethol, neu drwy ddefnyddio’r copi microffilm yn ein swyddfa.

Rhowch gynnig arni a dywedwch beth rydych yn ei feddwl wrthym!

Gwasanaeth Archifau Sir Ddinbych – Adolygiad 2017

Ionawr 4, 2018

Mae blwyddyn arall wedi mynd heibio, blwyddyn brysur a chynhyrchiol iawn i staff y swyddfa. Uchafbwynt y flwyddyn oedd derbyn statws achrededig. Mae hwn yn gyflawniad ardderchog sy’n golygu ein bod ni wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol ac yn cyrraedd y safonau presennol.

Roedd 2017 hefyd yn flwyddyn o drafod y posibiliadau o gydweithio gyda gwasanaethau archifau eraill yng ngogledd Cymru, ac rydym ni’n gobeithio edrych i mewn i hyn yn fanylach y flwyddyn nesaf. Byddwn yn edrych ar ffyrdd y gallwn ni ddechrau cydweithio a mynd i’r afael â heriau cyffredin fel diffyg gofod storio, anghenion cadwraeth a chadwraeth ddigidol.

map

Staff

Rydym ni wedi croesawu aelodau o staff newydd yn ystod 2017.

Mae gennym ni staff prosiect newydd yn gweithio ar gasgliad Ysbyty Gogledd Cymru. Mae Joanna bellach wedi ein gadael, ar ôl i’w chontract ddod i ben ym mis Rhagfyr. Yn ystod ei swydd tri mis cwblhaodd Joanna amryw o dasgau ymarferol fel paratoi ac archebu deunyddiau ail-becynnu yn ogystal â chynnal arolwg cadwraeth a chynnig cyngor gwerthfawr i ni ar gyfer y prosiect.

Bydd y staff yn gweld colled ar ôl Joanna, ac roedd cael cadwraethwr ar y safle yn wych. Rydym ni’n dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol.

Bydd ein hymchwilwyr rheolaidd wedi sylwi ar yr wyneb newydd yn yr ystafell chwilio, sef Jackie ein cymhorthydd archifau. Croeso cynnes i ti Jackie, a gobeithio y byddi di’n mwynhau dy hun yma!

Gwefan

Mae nifer o gatalogau stadau mawr a busnesau wedi eu hychwanegu at ein gwefan eleni, gan gynnwys cofnodion stadau Wynnstay a Galltfaenan. Erbyn hyn mae 75% o’n catalogau ar gael yn llawn ar-lein.

Mae ein casgliadau ffotograffig hefyd ar gael ar-lein ac mae rhai o’r lluniau ar gael fel cryno-luniau y gallwch chi eu lawrlwytho.

Rydym ni wedi gwella eich syllwr mapiau drwy ychwanegu Mapiau Degwm, sydd wedi eu cynnwys o ganlyniad i Brosiect Cynefin a gwefan genedlaethol lleoedd.llyfrgell.cymru.

tithemapsonline

Mae mwy na 750 o bobl wedi cofrestru ar y wefan ac mae ein tudalennau wedi derbyn dros 97,000 o ymweliadau.

Ymchwilwyr ac Ymholiadau

Defnyddiodd 741 o ymchwilwyr ein swyddfa yn ystod 2017 gan edrych ar gyfanswm o 3184 o ddogfennau gwreiddiol. Hanes lleol yw’r testun mwyaf poblogaidd i’w ymchwilio gyda 49% o’n hymchwilwyr yn ymchwilio iddo, ac yna hanes y teulu yn cyfrif am 39% o’n hymchwilwyr.

Atebwyd i 943 o ymholiadau drwy’r post, e-bost neu dros y ffôn. Mae gennym ni bellach 679 o ddilynwyr ar Facebook.

Grantiau

Rydym ni wedi derbyn nifer o grantiau eleni, gan gynnwys;

  • Grant Wellcome i gatalogio ac ail-becynnu Casgliad Ysbyty Gogledd Cymru
  • Grant Academi’r Colegau Brenhinol yng Nghymru i allfudo ein catalogau i’r ‘Archives Hub’
  • Grant New Burdens yr Archifau Gwladol i gwrdd â chost silffoedd ychwanegol

New shelving

Digwyddiadau a Grwpiau

Daeth 360 o bobl i’n digwyddiadau yn 2017, gan gynnwys ein Ffair Hen Bethau ym mis Medi, Lansiad Prosiect Datgloi’r Seilam ym mis Tachwedd a’n digwyddiad blynyddol i fyfyrwyr hanes Prifysgol Glyndŵr.

Catalogio a Derbyniadau

Gallwch gadw golwg ar ein derbyniadau newydd ar arolwg Yr Archifau Gwladol yma.

Cofnodwyd 37 o dderbyniadau newydd yn ystod y flwyddyn gan gynnwys:

Gwirfoddolwyr

Mae gennym ni bellach 11 o wirfoddolwyr ar y safle a 15 o wirfoddolwyr rhith sydd yn ein helpu ni â nifer o brosiectau parhaus fel:

  • Trosi catalogau stadau, busnesau a chynghorau
  • Rhestru’r casgliad mawr o bapurau clerc
  • Gwella a digideiddio catalogau cofnodion ysgolion
  • Trawsgrifio ein llyfrau o wepluniau heddlu
  • Archwilio ac ail-becynnu casgliadau

Mae ein gwirfoddolwyr wedi cyfrannu dros 1150 awr o amser gwirfoddol yn ystod 2017.

Unwaith eto, hoffem ddiolch yn fawr iawn i’n holl ymchwilwyr a gwirfoddolwyr, rydym ni wedi cael blwyddyn gynhyrchiol a phrysur dros ben!

Mae ein horiau agor yn cynyddu!

Rhagfyr 7, 2017

O 3 Ionawr 2018, bydd ein horiau agor yn cynyddu o 17 awr yr wythnos i 21 awr yr wythnos.

Mae ein horiau agor newydd fel a ganlyn:

Dydd Llun AR GAU
Dydd Mawrth AR GAU
Dydd Mercher 9.30 – 16:30
Dydd Iau 9.30 – 16:30
Dydd Gwener 9.30 – 16:30

Bydd yr oriau agor newydd yn rhoi diwedd ar agor yn ystod y prynhawn yn unig ar ddydd Mercher, gan olygu y gall ymchwilwyr dreulio’r diwrnod cyfan yn edrych ar y cofnodion.

Mae’r gwasanaeth wedi ei drawsnewid yn sylweddol dros y 3 blynedd diwethaf ers y newid diwethaf i’r oriau agor, ac mae gwelliant wedi bod i’r mynediad ar-lein i ymchwilwyr.

Mae’r newidiadau dros y 3 blynedd diwethaf yn cynnwys-

Rydym yn falch iawn gyda’n cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf a hoffem ddiolch i’n hymchwilwyr a gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth a’u hamynedd yn ystod y cyfnod hwn o newid.

Rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu ymchwilwyr hen a newydd, beth bynnag fo’ch maes diddordeb. I gael y newyddion diweddaraf am ein horiau agor, ewch i’n gwefan. 

Datgloi’r Seilam: Dadorchuddio’r Archif

Tachwedd 25, 2017

Cafodd eitemau heb eu catalogio yng nghasgliad Ysbyty Gogledd Cymru eu pacio wrth i’r Ysbyty yn Ninbych gau, ac nid oeddent wedi cael eu trin tan y bu nawdd priodol ar gael. Nawr ar ddechrau’r prosiect Croeso a ariannwyd, dyma fi fel Cadwraethydd Prosiect yn barod i ddechrau arolwg cadwraeth ar y casgliad. Mae’r arolwg yn cynnwys edrych ar gyflwr presennol pob eitem ac argymell triniaeth cadwraeth a llefydd cadw gwell i atal dirywiad pellach o’r casgliad unwaith mae’n cael ei agor i’r cyhoedd.

Mae eitemau hanesyddol yn dirywio dros amser, ac fel gwarchodwr, nid oes modd atal y dirywiad, ond fe allwn arafu’r broses, gan gadw’r eitem yn ei gyflwr defnyddiol am gyfnod hirach. Un o’r prif ffyrdd o gadw casgliad yw sicrhau ei fod wedi cael ei gadw’n briodol mewn bocs. Mapiau a chynlluniau yw rhai o’r eitemau mwyaf anodd eu cadw mewn casgliadau oherwydd eu maint. Mae gan Archifau Sir Ddinbych focsys map hir fel pecyn cynradd sy’n diogelu’r dogfennau mawr rhag niwed amgylcheddol a achosir gan lwch, golau a newid mewn tymheredd.

Ym mhob bocs, mae’r mapiau a’r cynlluniau wedi’i rholio’n llac ar hyn o bryd, ond oherwydd nifer y dogfennau, mae rhai wedi cael eu plygu neu grychu. Ymylon y dogfennau sydd mewn perygl fwyaf ac mae llawer o’r mapiau a’r cynlluniau yn y casgliad hwn yn fregus iawn oherwydd rhwygiadau o gwmpas yr ochrau. I ddarparu lle sefydlog i gadw’r dogfennau nes bod gwaith cadwraeth pellach yn gallu cael ei wneud, rydw i wedi dylunio dull ailgartrefu a fydd yn diogelu ymylon y dogfennau mawr a’u hatal rhag dirywio’n bellach.

A5 M4 mapiau cyn ailgartrefu

A5 M4 mapiau cyn ailgartrefu

Mae’r dull ailgartrefu hwn yn cynnwys rholio mapiau a chynlluniau o gwmpas tiwb o safon cadwraeth. Mae’r rhain yn cynnal y ddogfen wedi’i rholio rhag plygu a chrychu. Bydd pob bwndel wedi’u rholio yn cael eu lapio mewn haen Melinex® a’u clymu’n llac gyda thâp cotwm i’w diogelu. Mae’r haenen Melinex®yn ymestyn i hyd y ddogfen ac felly’n diogelu’r ymylon brau.

A5 M4 mapiau ar ôl ailgartrefu

A5 M4 mapiau ar ôl ailgartrefu

Gall y mapiau a’r cynlluniau yn y casgliad hwn gynnwys sawl dyluniad ar gyfer estyniadau a newidiadau i’r adeilad dros y blynyddoedd yn cynnwys cynlluniau lliwgar o safle golchdy’r ysbyty.

Joanna Shuker, Cadwraethydd Prosiect

Archwilio’r Seilam: Llyfrau Achosion Cleifion

Tachwedd 18, 2017

Mae casgliad o gofnodion o Ysbyty Gogledd Cymru a gedwir yn Archifau Sir Ddinbych yn un o’r enghreifftiau mwyaf cynhwysfawr o gofnodion seilam y wlad. Mae’r casgliad yn cynnwys cofnodion gweinyddol megis adroddiadau blynyddol a chofnodion cyfarfodydd, cofnodion ariannol megis cyfrifon blynyddol a chyfriflyfrau, a chasgliad rhyfeddol o gofnodion cleifion. Ymysg y cofnodion cleifion, un o’r ffynonellau gwybodaeth mwyaf manwl yw llyfrau achosion cleifion sy’n rhoi cyfoeth o fanylion am unigolion cyn ac yn ystod eu arhosiad yn yr ysbyty.

Nodiadau Achos

Nodiadau Achos

O dan y Ddeddf dros Reoleiddio Gofal a Thriniaeth i Wallgofiaid 1845, daeth yn orfodol cadw llyfrau achosion cleifion. Cafodd rheolau a gorchmynion yn rhagnodi fformat y cofnodion hyn eu gosod allan gan y Comisiynwyr Gwallgofrwydd. Hyd 1875 roedd y llyfrau achosion a ddefnyddiwyd yn Ysbyty Gogledd Cymru yn amrywio o ran lefel y manylion yr oeddent yn eu cynnwys am bob claf, ac ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael am gyflwr y claf cyn iddo/iddi gyrraedd yr ysbyty.

Yn dilyn hunanladdiad claf benywaidd, mae adroddiad blynyddol 1873 yn datgelu fod Pwyllgor Ymwelwyr y seilam wedi sylweddoli pa mor bwysig oedd cofnodi hanes blaenorol pob claf a “gorchmynnodd fod Swyddog Meddygol yn rhoi holl ffeithiau a manylion achos pob un claf mewn llyfr” (cyfeirnod HD-1/4). Cymeradwyodd y Comisiynwyr Gwallgofrwydd fath newydd o lyfr achosion a ddaeth i rym yn y seilam yn 1875 a sicrhaodd hynny fod gwybodaeth gefndirol fanwl yn cael ei chasglu am bob claf.

O 1875 tan i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gael ei ffurfio yn 1948, parhawyd i gynnwys yr un math o wybodaeth yn llyfrau achosion y cleifion. Roedd pob cofnod yn y llyfrau achosion yn cael eu rhannu’n ddwy ran. Roedd y cyntaf yn cynnwys gwybodaeth bersonol a chefndirol am bob claf ac asesiad o gyflwr meddyliol y claf pan gyrhaeddodd.

Os edrychwn ar un o’r nodiadau achos (cyfeirnod HD-1/337) fel enghraifft, o’r rhan hon gallwn weld fod Margery Baynton yn byw yn Ninbych. Roedd yn arfer cadw tafarn a dim ond 24 oed oedd hi pan ddaeth i’r seilam ar 16 Awst 1889 yn dioddef o’r hyn a ddisgrifiwyd fel gwallgofrwydd enbyd. Datgelodd y nodiadau fod Margery wedi ceisio lladd ei hun ac mewn asesiad a gynhaliwyd ar y pryd gwelwyd ei bod yn “dweud ei bod yn cael ei dilyn gan bobl sydd eisiau ei thorri’n ddarnau, cafodd ei meddiannu gan y Diafol a’i gorfododd i dorri ei gwddf y bore ‘ma”. Mae’r wybodaeth gefndirol a gasglwyd yn datgelu fod Margery wedi cael ei gadael yn weddw yn ddiweddar a bod ganddi ddau o blant. Disgrifiwyd ei bod wedi “datblygu arferion meddwdod” a bod y trawiad hwn wedi digwydd o ganlyniad i adroddiadau drwg amdani gan deulu ei gŵr o gamdriniaeth, a’u bod wedi ei chyhuddo o achosi marwolaeth ei gŵr”.

Mae rhan gyntaf y nodiadau achos yn dangos manylion personol a gwybodaeth gefndirol y cleifion.

Mae rhan gyntaf y nodiadau achos yn dangos manylion personol a gwybodaeth gefndirol y cleifion

Mae ail ran y nodiadau achos yn adrodd am gynnydd y cleifion a ysgrifennir ar adegau amrywiol yn ystod eu arhosiad. Yn ystod ei dyddiau cyntaf yn y seilam, ceisiodd Margery anafu ei hun ac “ni fyddai’n cymryd unrhyw fwyd gan ei fod yn wenwynig ac mae’n datgan ei bod yn dymuno marw er mwyn cael ymuno â’i gŵr”. Ar 10 Chwefror 1890 disgrifir fod Margery yn “gweithio yn y ceginau ac yn gwella’n barhaus. Yn eithaf rhesymegol ym mhob ffordd ac yn edrych ymlaen at gael ei rhyddhau o’r ysbyty”. Mae’r nodiadau’n datgelu fod Margery yn bwriadu mynd i Lerpwl i fyw gyda’i modryb. Ar ôl ychydig dros chwe mis yn y seilam cafodd Margery ei rhyddhau.

Mae ail ran y nodiadau achos yn cynnwys adroddiadau am gynnydd y claf

Mae ail ran y nodiadau achos yn cynnwys adroddiadau am gynnydd y claf

Yn ogystal â chyfoeth o wybodaeth a geir yn y ddwy ran, mae rhai nodiadau achosion hefyd yn cynnwys atodiadau fel rhybudd o farwolaeth a gohebiaeth gan berthnasau ac ymarferwyr meddygol.

Er mwyn diogelu’r wybodaeth bersonol a roddir yn y llyfrau achosion hyn, mae cofnodion sy’n llai na 100 oed yn gaeedig oherwydd rheoliadau cyfrinachedd cleifion y GIG.

Ymunwch ag Archifau Sir Ddinbych ar gyfer lansiad prosiect ‘Datgloi’r Seilam’.

Hydref 12, 2017

Dewch i ddysgu mwy am Archif Ysbyty Gogledd Cymru, y casgliad ysbyty mwyaf i’w gadw yn Archifau Sir Ddinbych, ac amcanion y prosiect pwysig hwn. Bydd y noson yn cynnwys sgwrs gan Dr Pamela Michael a fydd yn archwilio’r pwnc o ddefnyddio gwaith fel math o therapi.

Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi’r cyfle i chi weld rhai o gofnodion Archif Ysbyty Gogledd Cymru, edrych ar rai o wrthrychau diddorol Amgueddfa Dinbych, dysgu mwy am y prosiect a chyfarfod staff y prosiect a fydd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau. Parcio anabl yn unig sydd ar gael ar y safle. Mae’r digwyddiad am ddim ond mae angen archebu lle- ARCHEBWCH YMA