Digwyddiad: Ffotograffau yn yr Archif

Ymunwch â ni yn ystod penwythnos Drysau Agored pan fyddwn ni’n dathlu popeth sy’n ymwneud â ffotograffiaeth yn ystod Drysau Agored CADW 2023, gydag arddangosfa o luniau o’n casgliadau, yn cynnwys portreadau Carte de Visite Fictoraidd.

Dyddiad: Dydd Sadwrn 9 Medi

Amser: 10am-4pm

Lleoliad: Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru ac Amgueddfa Carchar Rhuthun (Stryd Clwyd, Rhuthun, LL15 1HP)

Mae’r diwrnod yn rhad ac am ddim ac mae agor i bawb. Bydd y canlynol i’w gweld ar y dydd;

  • Arddangosfa wadd “Honest Agriculture” gan Jac Williams, ffotograffydd lleol. Mae’r arddangosfa’n tynnu sylw at brosiect oes y ffotograffydd yn tynnu lluniau atgofus o ffermio yng Ngogledd Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar ffermio mynydd traddodiadol.
  • Arddangosfa o luniau o archif y sir, yn cynnwys portreadau carte de visite cynnar, lluniau sy’n disgrifio hanes bywyd amaethyddol a’r diwydiant lleol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
  • Cyfle i roi cynnig ar ‘camera obscura’ (rhagflaenydd y camera modern)
  • Ffotograffydd gwadd gyda’r unig gamera blwch stryd yng Nghymru! Cewch fynd â phortread unigryw wedi’i ddatblygu mewn 5 munud adref gyda chi
  • Cyfleoedd gwych i dynnu lluniau y tu mewn ac o amgylch Amgueddfa Carchar Rhuthun 
  • Printio Syanoteip gyda’r artist lleol, Caroline Hodgson. Gan ddefnyddio’r broses ffotograffiaeth gynnar o’r enw Syanoteip neu britnio gyda’r haul (sun printing), byddwch yn creu delwedd hardd ag arlliw glas gan ddefnyddio ysbrydoliaeth o gasgliadau’r archif (gweithgaredd sy’n addas i’r teulu, rhaid i blant o dan 7 oed fod yng nghwmni oedolyn, digwyddiad galw heibio gyda niferoedd cyfyngedig yn cael cymryd rhan ar unrhyw adeg).

Mae croeso i blant a theuluoedd. Dim tocynnau nac angen archebu

Gadael sylw