Rydyn ni’n parhau gyda’n blogiau ar thema trosedd gyda blogiau gan westeion – dau fyfyriwr wedi’u lleoli yn ein cangen yn Rhuthun eleni. Y cyntaf yw Neil sy’n rhannu ei brofiad o ymchwilio i droseddwyr parhaus o’n llyfrau gwepluniau…
Helo, fy enw i ydi Neil Johnson a dw i’n fyfyriwr yn fy ail flwyddyn yn astudio gradd mewn Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam. Un o’r modiwlau yn yr ail flwyddyn ydi ‘Profi Hanes yn y Gweithle’, ac mae angen i ni wneud lleoliad mewn gweithle sydd ynghlwm â chyflwyno ‘hanes’. Fe wnes i fy lleoliad yn swyddfa Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC) yn Rhuthun, yn y Carchar hanesyddol yno.
Roedd y prosiect roeddwn i ynghlwm ag o tra oeddwn i ar y safle’n ymwneud â llyfrau gwepluniau heddlu Sir Ddinbych sy’n cael eu cadw yn yr archif. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y llyfrau gwepluniau’n ffordd i’r heddlu lleol gadw cofnod o droseddwyr oedd yn dychwelyd i’r ardal ar ôl bod yn y carchar.
Y dasg oedd dewis un gweplun o’r llyfrau (Ffigur 1) a chasglu cymaint â phosib’ o hanes y person hwnnw.
Gwrthrych cyntaf fy ngwaith oedd mân droseddwr o’r enw George Walters; roedd ei wepluniau’n datgelu’r wybodaeth ganlynol:
- Oed: Tri deg pedwar.
- Wedi torri i mewn i dŷ yn Owrtyn.
- Wedi’i ddedfrydu i dair blynedd o benyd-wasanaeth (llafur caled) ar 16 Hydref 1862.
- Wedi’i gadw yng Ngharchar Millbank (Llundain), cafodd ei ryddhau ar 15 Ebrill 1865.
- Cyrchfan: yr Wyddgrug.
- Yna, treuliodd bedwar diwrnod ar ddeg yng Ngharchar Rhuthun am ymddygiad afreolus o 30 Mai 1865.
- Cafodd ei anfon i’r Gwallgofdy yn Ninbych.
Roedd gwefan ‘Papurau Newydd Cymru’ yn darparu erthygl oedd yn cadarnhau manylion ei drosedd. Cafwyd Walters yn euog o ddwyn siaced a gwasgod o gyfeiriad yn Erbistog. Roedd yr erthygl hon yn y North Wales Chronicle ar 13 Medi 1862.
Roedd defnyddio’r wybodaeth yma’n fy ngalluogi i gychwyn ymchwilio ar sawl safle chwilio fel Ancestry UK a Find My Past. Mae toreth o wybodaeth ar gael ar y ddwy wefan yma, ac roedd chwilio am enw George Walters yn ei ddangos ar nifer o adroddiadau’r Cyfrifiad. Yma, fe wnes i hefyd ddod o hyd i ddogfennau am ei ryddhau o Garchar Millbank a oedd yn cadarnhau’r wybodaeth a gefais hyd yma ac yn ychwanegu hyn:
- Gweithiai fel labrwr.
- Roedd yn sengl.
- Roedd darn o’i glust chwith ar goll ar ôl cael ei brathu.
- Roedd yr ewinrhew ar ddau o fysedd ei droed chwith.
- Roedd ei lygad chwith yn groes.
- Roedd yn gyfarwydd iawn i’r rhai yn Wyrcws Wrecsam.
- Bu’n ymddwyn yn dda ym Millbank[2].
Gan ei fod yn wyneb cyfarwydd yn Wyrcws Wrecsam, chwiliais drwy Lyfrau Cofnodion y Wyrcws oedd ar gadw yn Rhuthun[3]: roedd y rhain yn cyfeirio sawl gwaith ato mewn helynt am ymddwyn yn afreolus a gwrthod gweithio. Roedd hawliad costau hefyd yn eu ‘Cofnod Gwallgofion’ gan Feistr y Wyrcws, Luke Ralph, am gludo George Walters i Wallgofdy Dinbych.
Yna, dechreuodd y gwaith chwilio fynd ar ôl ei gyfnod yn y Gwallgofdy drwy gyfeirio at ei ‘Orchymyn Derbyn’ oedd yn darparu rhagor o wybodaeth:
- Cafodd ei dderbyn ar 23 Mehefin 1866.
- Roedd wedi crwydro ar hyd ei oes.
- Bu farw ei fam yn y Gwallgofdy yn flaenorol.
- Roedd wedi dioddef o “ychydig o wendid meddwl” ers pan oedd yn fabi.
- Roedd yn “un heb fod yn ei iawn bwyll”.
Yn ystod ei gyfnod yn y Gwallgofdy, dirywiodd ei gyflwr yn ofnadwy:
- Wrth ei dderbyn, cafodd ei ddisgrifio’n “dawel ond yn dwp iawn”.
- Aeth ymlaen i ddioddef “ffitiau o iselder” gan orwedd yn ei wely drwy’r dydd.
- Fodd bynnag, maes o law, roedd yn cael ei ystyried yn berygl i eraill gan ei fod yn “dreisgar iawn”.
- Yn y pen draw, dechreuodd ddioddef o Dementia.
- Bu farw George tra oedd yn cael ei gadw yn y Gwallgofdy ar 15 Gorffennaf 1905[4].
Fel y gwelwch chi, o’r ychydig wybodaeth a ddatgelwyd yn y llyfr gwepluniau, roedd posib’ olrhain ei fywyd o gychwyn anodd i fywyd o fân droseddau ac, yn y pen draw, ei farwolaeth ar ôl ei gadw am bron i ddeugain mlynedd yng Ngwallgofdy Dinbych.
Mi wnes i wir fwynhau fy lleoliad yn Archifdy Rhuthun ac roedd y broses ymchwil wir yn gwneud i rywun fod eisiau darganfod mwy, ac mae casglu gwybodaeth o sawl ffynhonnell yn rhoi boddhad mawr. Hoffwn ddiolch i’r holl staff yn AGDdC yn Rhuthun am eu help cyfeillgar, proffesiynol a chefnogol i wneud fy mhrofiad yn un braf iawn.
Nodyn bychan: Mae’n rhaid i mi ddweud, fel rhywun sy’n defnyddio cadair olwyn, fod y cyfleusterau yn yr archifdy wir yn arbennig, sy’n ei wneud yn wirioneddol hygyrch i bawb.
Hwyl, Neil.
[1] Cofnodion Heddlu Sir Ddinbych (1849-1971)’ (DPD/1)
[2] Findmypast.com: ‘Home Office and Prison Commission Records’ (PCOM3)
[3] Cofnodion Undeb Cyfraith y Tlodion Wrecsam (1837-1930)’ (GD/C)
Gadael sylw