Posts Tagged ‘Hanes Lleol’

Ffisyg a iechyd y cyhoedd

Awst 1, 2013

Mae meddyginiaeth modern yn wahanol iawn i’r feddyginiaeth a oedd yn cael ei ddefnyddio gannoedd o flynyddoedd yn ôl.  Mae gennym well syniad erbyn hyn o beth sy’n achosi salwch ac felly syniad gwell o sut i’w drin. Erbyn hyn fe wyddom am germau a pha mor bwysig yw cadw’n lân.  Ond ers i’r Rhufeiniaid a’u syniadau ynghylch iechyd cyhoeddus ein gadael mae pobl wedi byw o dan amodau dychrynllyd, a oedd yn helpu lledaenu afiechyd.

Dechreuodd Deddf Iechyd Cyhoeddus 1848 wella amodau’r trefi ac felly helpu hefyd i rwystro afiechyd rhag lledaenu, ond ni ellid rhwystro afiechydon a’u gwella’n iawn tan i Louis Pasteur ddarganfod germau ddiwedd 1880au. Cyn y darganfyddiad hwn, roedd gan y rhan fwyaf o bobl gredoau ofergoelus ynghylch achos salwch.

Roedd gweithwyr proffesiynol meddygol gyda llawer o ddamcaniaethau ynghylch a sut roedd clefyd yn lledaenu. Y dderbyniaeth gyffredinol oedd y Ddamcaniaeth Ddrycsawrus.  Honnwyd fod clefyd yn lledaenu drwy gyfrwng a elwir yn awyr  nos, neu awyr ddrwg; credant fod awyr gwenwynig yn cael eu creu trwy ddadelfennu mater organig fel gwastraff dynol.

Colera yn Wrecsam

Methodd i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd, gael effaith fawr ar iechyd y cyhoedd yn Wrecsam.   Hyd yn oed cyn 1848, roedd gan Wrecsam bwyllgor iechyd eu hunain.  Dan arweiniad y ficer, Canon George Cunliffe, creodd mewn ymateb i epidemig o golera yn 1830, a llwyddodd i achub y dre o’r pla.  Llwyddodd y Pwyllgor Iechyd hefyd i atal epidemig o golera yn 1866 (NCD/164- ‘Notes on Wrexham’s escape from the plague, 1977’)

Yn 1866 cynghorwyd Bwrdd Iechyd Wrecsam (NCD/934):

  • “To remove and guard against accumulations of filth and refuse matter.”
  • “Change bed linen frequently.”
  • “To avoid drinking alcohol.”

Diwygiad yn Wrecsam

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd diwygiad iechyd cyhoeddus yn lledaenu drwy Brydain.  Dechreuodd gyda gweithwyr meddygol proffesiynol, yn casglu tystiolaeth ai gyflwyno i’r Bwrdd Iechyd Cyffredinol, ar ffurf adroddiadau meddygol. Darllenwch isod darn o’r ‘Report to the General Board of Health 1849′, wedi eu llofnodi gan weithwyr proffesiynol, gan gynnwys llawfeddygon o Glafdy Wrecsam, G.Lewis, William Rowland a Thomas T. Griffeth (DD/DM/228/59).

“The undersigned medical men who have resided in this town for various periods, from 5 to upwards of 31 years, have always observed that certain parts of Wrexham had been in an unhealthy state, frequently visited by epidemic and endemic diseases’ often of a fatal character, and generally severe, especially as compared with other parts of the town more favourably-circumstanced with respect to the character of houses, cleanliness of inhabitants, air and water.”

Llyfr Presgripsiwn

Llyfr Presgripsiwn
Uchod mae llyfr presgripsiwn gan I. J. Edisbury o 3 Stryd Fawr,
Wrecsam, 1888 (cyf: DD/DM/801/1).

Edrychwch ar y dudalen o lyfr presgripsiwn fferyllydd o’r 19eg ganrif. Tybed a allwch chi ddarllen y cynhwysion ar gyfer y meddyginiaeth (a’r hyn a ddefnyddid gartref).  Oes unrhyw rai o’r cynhwysion yn ymddangos yn od? Pam ydych chi’n meddwl fod sebon a thriog yn gynhwysion mewn ‘Cheap pills for Quacks’ (roedd ‘quack’ yn berson a oedd yn esgus fod yn feddyg)? Allwch chi ganfod ‘Gwaed y Ddraig’? Beth ydych chi’n feddwl yw hynny? Ac a ydi’r staen yn rhywfaint ohono a gafodd ei dywallt ar y llyfr?!

Darllenwch trawsgrifiad yma.

Mae gennym nifer o gofnodion yn ymwneud ac iechyd y cyhoedd.  Gellir eu gweld mewn gwahanol gasgliadau gan gynnwys:

Cofnodion Bwrdeistref (Dinbych, Rhuthun, Wrecsam, Colwyn Bay, Cyf: BD) Cofnodion Cyngor Ardal Gwledig (Cyf: RDD), Cofnodion Cyngor Ardal Trefol (Cyf: UDD), Cofnodion Adran Iechyd Cyngor Sir Ddinbych (Cyf: CD/H), Awdurdod Glanweithdra Gwledig Wrecsam (Cyf: GD/C), Awdurdod Glanweithdra Wledig Undeb Conwy (Cyf: GD/D), Cofnodion Ysbytu amrywiol (Cyf: HD)

Creuwyd y post blog yma gan Rachel Thomas (Ysgol Uwchradd Prestatyn), a Miles Catania (Ysgol Brynhyfryd), myfyrwyr profiad gwaith Gorffenaf 2013

Gwesty’r Castell, Rhuthun

Mawrth 29, 2012

Efallai eich bod wedi sylwi ar y lluniau hanesyddol gwych o’n casgliadau ar waliau Gwesty’r Castell, Rhuthun, yn dilyn ei adnewyddiad diweddar gan y cadwyn dafarn ‘Wetherspoons’.  Efallai y gellid disgrifio Gwesty’r Castell unwiath eto fel y ‘principal hostelry, occupying the most important position in St. Peter’s Square’.

This slideshow requires JavaScript.

Roedd yn adnabyddus fel y White Lion, a dywedir ei fod yn dyddio o ddechrau i ganol y ddeunawfed ganrif.  Efallai iddo gael ei adeiladu ar safle adeilad cynharach ac yn wir, yn y cefn mae yna adeiladau allan o ffrâm bren o’r 16/17g.  Gyda datblygiad y cwmnïau tyrpeg a gwelliant y system ffyrdd, fe ddaeth y White Lion yn dafarn coets fawr ac ebrandy.

Yn dilyn dyfodiad y gwasanaeth rheilffordd i Ruthun, fe anfonid ceir a cheffyl i gyfarfod â phob trên I gludo darpar noddwyr i’r gwesty.  Tua diwedd y 19g fe ddaeth yn fwy adnabyddus fel Gwesty’r Castell.

Ar droad y ganrif diwethaf roedd yn westy mawr, gydag ystafelloedd derbyn, 15 o lofftydd, stablau ar gyfer o leiaf 20 o geffylau a garej.  Cafodd ei adnewyddu yn y 1930au gan y ‘Trust House Group’, ac fe’i gwerthwyd ganddyn nhw fel gwesty unigryw yn 1971; mae wedi parhau I fasnachu fel gwesty byth ers hynny.

Mae gwybodaeth ar ein daliadau ar gael ar http://www.denbighshire.gov.uk/cy-gb/dnap-6zqktq?opendocument&lang=cy-gb

Cadwraeth

Mawrth 15, 2012

Does gennym ni ddim gwarchodwr yn ein gwasanaeth a byddwn yn dibynnu ar grantiau allanol i ariannu’r rhan fwyaf o waith cadwraeth sydd ei angen.  Eleni, rydyn ni wedi derbyn cyllid gan CyMAL a’r NMCT i adfer dwy gyfrol o’n Casgliad Heddlu Sir Ddinbych.

This slideshow requires JavaScript.

Mae’r grant yma wedi ein galluogi i ariannu gwaith cadwraeth ar ddau lyfr prin o ddisgrifiadau troseddol, yn cynnwys dwy gyfrol fechan mewn rhwymiad lledr.  Mae’r cyfrolau hyn yn cynnwys ffotograffau ‘carte de visite’, gyda disgrifiadau llawysgrif ychwanegol o wahanol ffeloniaid a oedd wedi eu rhyddhau o garchardai yn Lloegr a Chymru, ac a oedd â chysylltiadau ag ardal Sir Ddinbych. 

Mae’r disgrifiadau o’r unigolion a bortreadir yn cynnwys manylion byr o’u hymddangosiad corfforol, eu cofnod troseddol, eu heuogfarn, a’r ddedfryd. Mae ffotograffau cynnar o droseddwyr yn anarferol ac mae’r albymau hyn yn cynnwys ffotograffau sy’n dyddio o’r 1860au i’r 1880au.  Mae’r albymau’n bwysig ac yn arwyddocaol i hanes cymdeithasol Prydain, a hanes plismona’n arbennig.

Ychydig o’n hoff bethau!

Chwefror 8, 2012

Mae Gwasanaeth Archifau Sir Ddinbych yn cynnig cyfle i chi gael golwg ar gyfoeth o ddogfennau a chofnodion, ar gael yn Archifdy Rhuthun.  Ceir Archifau o bob siap a ffurf yn cynnwys mapiau a chynlluniau, cofrestrau, rholiau o bapur, ffeiliau a bwndeli a gallant fod yn ddeunydd wedi ei argraffu neu menw llawysgrifen, o archifau personol neu swyddogol.  Yn y post yma, rydym yn uchelbwyntio ar ein hoff gofnodion.

This slideshow requires JavaScript.

Siartr Dinbych

Yr eitem hynaf o Sir Ddinbych ydi un o Siartiau Bwrdeistref Dinbych, sy’n ddyddiedig oddeutu 1290.  Mae’n anarferol oherwydd dyma’r unig ddogfen sydd gennym ni sydd wedi ei hysgrifennu mewn Ffrangeg Normanaidd.  Mae’r rhan fwyaf o gofnodion un ai mewn Lladin, cyn canol yr 16g, neu mewn Saesneg.

Rholiau’r Sesiwn Chwarter

Mae rholiau’r Sesiwn Chwarter o’r 18g yn cynnwys swm enfawr o wybodaeth am fywyd, trosedd yn arbennig, yn Sir Ddinbych bryd hynny, a hynny’n datgelu fod yr ynadon yn delio â llawer o’r un problemau ag sy’n ein poeni ni’n awr, yn cynnwys cam-drim plant, trais domestig, tadau absennol, yfed mewn pyliau a’r trais o ganlyniad gan ddynion a marched twyllwyr, fandaliaeth a difrodi eiddo.

Ysbytu Gogledd Cymru

Mae cofnodion Ysbytu Gogledd Cymru yn Ninbych yn gyflawn, fwy neu lai, o amser ei hagor yn 1848 hyd ei chau yn 1995.  Y casgliad yma yw’r gorau yn Ngymru, ac un o’r goreuon ym Mhrydain gyfan, am ymchwil i hanes meddyginiaeth seiciatrig.  Mae cofnodion y cleifion yn arbennig yn llawn o wybodaeth hudol a thrasig yn aml.

‘The Painted Book’

Mae’r ‘Painted Book’ yn gyfrol o dariannau herodol teuluoedd lleol, wedi eu paentio â llaw, ac wedi eu casglu yng nghanol yr 17g gan John Salisbury o Erbistog, a oedd yn achydd adnabyddus yr adeg honno.  Mae’n un o’r eitemau mwyaf lliwgar, deniadol a nodedig sydd gennym ni.

Mae gwybodaeth ar ein daliadau ar gael ar
http://www.denbighshire.gov.uk/cy-gb/dnap-6zqktq?opendocument&lang=cy-gb
 
Mae amrywiaeth o’n cofnodion hefyd ar gael ar wefan’Casglu’r tlysau’
http://www.gtj.org.uk/

Swyddfa ar gau dros dro

Chwefror 2, 2012

Yr wythnos yma mae ein swyddfa wedi bod ar gau ar gyfer gwaith adeiladu hanfodol.  Fel y gwelwch o’n llun, rydym yn defnyddio ein ystafell ymchwil fel stordy dros dro, tra mae’n ffenestri yn ein ystafelli diogel yn cael ei inswleiddio.  Mae’r staff yn brysyr yn gwario’r wythnos yn symud ac ail leoi ein casgliadau.  Rydym yn gobeithio gan insiwleiddio’r ffenestri, fydd y cyflwr amgylcheddol yn fwy sefydlog.  Ymddiheurwn i’n ymchwilwyr am unrhyw anghyfleuster, mi fyddwn ar agor fel arfer Dydd Mawrth nesaf y 7fed o Chwefror.

Ystafell ymchwil

 

Gwirfoddoli yn Archifdy Sir Ddinbych

Ionawr 12, 2012

Yma yng Ngwasanaeth Archifau Sir Ddinbych mae gennym ni nifer o wirfoddolwyr yn ein helpu ag amrywiaeth o dasgau na fyddem yn gallu eu gwneud hebddyn nhw!

Ein grŵp o wirfoddolwyr (grŵp y bore) yn gweithio ar gofnodion cofrestri plwyf y Waun, a chasgliad sydd yn cynnwys amrywiaeth o gofnodion yn ymwneud a bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau.

Y llynedd, cafodd ein gwasanaeth grant CyMAL i’n galluogi i brynu cyflenwadau cadwraeth arbenigol, yn cynnwys amrywiaeth o frwshys, papur blotio a sbyngau.  Mae’r offer newydd yma wedi golygu ein bod yn gallu defnyddio grŵp o wirfoddolwyr i helpu i lanhau eitemau yn ein casgliadau.  Bydd y grŵp yn cyfarfod ddwywaith y mis ac maen nhw wedi glanhau 245 o gyfrolau hyd yma ac wedi bod wrthi am gyfanswm cyfunol o 238 o oriau o amser gwirfoddoli.  Mae angen person amyneddgar a gofalus iawn sydd â dwylo pwyllog i lanhau dogfennau ac mae’n golygu glanhau arwyneb  y dogfennau’n ofalus â brwshys arbenigol.  Mae’r gwirfoddolwyr wedi dod atom ni gydag angerdd tuag at hanes a hanes lleol yn arbennig, a brwdfrydedd i weithio ag archifau gwreiddiol.

This slideshow requires JavaScript.

Mae yna nifer o wirfoddolwyr eraill wedi bod yn gweithio â ni hefyd, yn cynnwys disgyblion ysgol ar brofiad gwaith, myfyrwyr prifysgol, y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn archifau a phobl sydd wedi ymddeol sydd â diddordeb mewn archifau a’u hanes lleol.

Mae’r staff yn Archifau Sir Ddinbych yn ddiolchgar iawn am yr amser y mae ein gwirfoddolwyr yn ei gyfrannu a gobeithio y bydd ein prosiectau gwirfoddoli’n parhau i fod yn llwyddiannus yn y dyfodol.

Os hoffech chi wirfoddoli yma, cysylltwch â ni ar y ffôn neu ar e-bost.  Mae ein manylion cyswllt ar gael drwy’r ddolen i’r ‘gwasanaeth archifau’ ar yr ochr dde i’ch sgrin.

Golygfeydd Gaeafol

Ionawr 3, 2012

Pob 6 i 8 wythnos mae’r staff yng Ngwasaneth Archifau Sir Ddinbych, yn llunio arddangosfa fewnol newydd.  Rydym yn gobeithio’i ddarpau i’n cynilleidfa ar-lein, rhai o’n hoff agweddau o’r arddangosfeydd hyn.  Mae’r post hwn i gyd-fynd gyda’n arddangosfa bresennol ‘Golygfeydd Gaeafol’. 

Trefor Hall yn yr eira, tua 1890

DD/DM/146/19 - Trefor Hall, ger Llangollen, tua 1890

 
Gweithwyr yn clirio eira ger Coedwig Clawddnewydd, tua 1936/37

PPD/25/14 - Gweithwyr yn clirio eira ger Coedwig Clawddnewydd, tua 1936/37

 

Nadolig Edwardaidd

Rhagfyr 1, 2011

Roedd yn amser cyn y teledu, teganau plastig ac archfarchnadoedd, ac eto dyma’r math o Nadolig sydd wedi ei ddarlunio’n aml iawn ar ein cardiau Nadolig.

DD/G/647 - Cerdyn Nadolig, tua 1905
DD/DG/647 – Cerdyn Nadolig o’n casgliad Glyndwr, tua 1905

Byddai teuluoedd Edwardaidd cyfoethog yn ystod degawd gyntaf y ganrif ddiwethaf yn mwynhau tymor llawen coeth yn llawn o lawer o’r traddodiadau y byddwn ni’n eu mwynhau heddiw.  Roedd John Sainsbury newydd agor ei siop gyntaf, ond doedd yna ddim trip i’r archfarchnad am fwyd ar gyfer yr ŵyl; yn lle hynny fe ddefnyddid llu o siopau: cigyddion, groseriaid, pobyddion, masnachwyr sbeis; ni fyddai’r bobl oludog wedi ymostwng i gydio mewn basged siopa ond yn lle hynny fe fydden nhw wedi anfon staff y tŷ i’w hôl neu fe fyddai’r nwyddau wedi eu danfon i’r tŷ.

Roedd danteithion bwrdd yr Edwardiaid yn cynnwys pen baedd a thafodau defaid; roedd gŵydd yn llawer mwy cyffredin na thwrci.  Byddai’r gacen Nadolig a’r pwdin plwm wedi eu gwneud sawl wythnos ymlaen llaw, ac yna wedi eu storio i aeddfedu yn ôl argymhelliad yr awdur coginio adnabyddus Mrs Beeton.

Roedd coed Nadolig yn boblogaidd, wedi eu cyflwyno i Loegr gan ŵr Almaenaidd y Frenhines Fictoria, y Tywysog Albert.  Fe gyflwynwyd y post ceiniog hefyd yn yr oes Fictoraidd, ac roedd anfon a derbyn cardiau’n boblogaidd.

Byddai llawer o anrhegion wedi eu gwneud â llaw, hancesi a sampleri wedi’u brodio, melysion mint cartref neu siwgwr-almonau wedi eu lapio mewn papur fyddai wedi ei addurno â llaw.  Byddai’r plant mwyaf lwcus yn cael doli Iseldiraidd, tŷ doli, neu anrheg newydd a oedd yn dod yn boblogaidd iawn yr adeg honno, tedi bêr.  Byddai eirth poblogaidd yn cael eu gwneud gan y cwmni Almaenaidd Steiff, ac maen nhw’n bethau gwerth eu casglu heddiw.  Yn hosan Nadolig plentyn tlawd fe fyddai yna afal, oren a rhai cnau fel rheol.

Yn absenoldeb teledu  neu gemau cyfrifiadur, byddai ffrindiau a theulu’n ymgasglu yn y parlwr i chwarae gemau fel siaradau a mwgwd yr ieir, neu i ganu carolau a chaneuon poblogaidd o gwmpas y piano.

Pam na ddewch chi draw heddiw, i weld ein arddangosfa presennol ‘Nadolig Edwardaidd’!

Mae gwybodaeth ar ein daliadau ar gael ar http://www.denbighshire.gov.uk/cy-gb/dnap-6zqktq?opendocument&lang=cy-gb

Diwedd y daith…

Tachwedd 17, 2011

Fe hoffai Staff Archifdy Sir Ddinbych ddiolch i bob un o’n dilynwyr yn ystod ein taith o 250 o filltiroedd drwy Ogledd Cymru yn 1890. Gobeithio i chi fwynhau darllen y dyddiadur cymaint ag y gwnaethom ni fwynhau ei roi at ei gilydd!  Mae’r prosiect yma wedi pwysleisio o ddifri’r ystod eang o ddeunydd sy’n cael ei ddal yn ein swyddfa, fel papurau personol, papurau newydd, ffotograffau a phrintiau, cofnodion busnes a mapiau.  O’r pwynt hwn ymlaen, fe fyddwn yn defnyddio’r Blog yma fel ardal arddangosfa ar-lein i amlygu mwy fyth o’n deunydd a rhoi gwybod i’n defnyddwyr a’n dilynwyr ar-lein am newyddion o’n swyddfa.  Gobeithio y gwnewch chi barhau i’n dilyn ac, fel erioed, rydyn ni’n eich annog i danysgrifio, ‘Hoffi’ a rhoi sylwadau ar ein post!

Diolch

Tîm yr Archifdy

Dau Gant a Hanner o Filltiroedd trwy Gogledd Cymru: Diwrnod 10

Tachwedd 10, 2011

Mae nhw’n mynd i weld golygfeydd Caer, yn nodi’r Olion Rhufeinig, yr Eglwys Gadeiriol, yr Eglwysi, y Castell a’r ‘Rows’.  Mae nhw’n treulio ychydig oriau’n pysgota ar afon Dyfrdwy, ac yn ymadael ar y trên o Gaer drwodd i Longsight am 6.25.  Mae nhw’n mynegi eu diolchgarwch i Mr a Mrs Ryley, ac fel yr oedd y siwrnai yn ‘llwyddiant ym mhob ffordd’.

Map o'r daith

Map yn dangos y daith, o'r dyddiadur gwreiddiol 'Dau gant a hanner o filltiroedd o drwy Gogledd Cymru'

Tenth Day

Wednesday 24th September 1890

Chester to Longsight

Awake pretty early, looking round the old ancient city of Chester.  I visited a place known as Gods providence, this house has the motto carved upon the beam “Gods providence is mine inheritance 1652”, alluding to a time when the plague devastated the city, the inhabitants of this house being the only ones who escaped the city walls.  The Roman remains, the Cathedral, the Churches, the Castle and old houses are all noteworthy, but the chief attraction of the place which entitles it to rank as the most remarkable city in Great Britain is the peculiar construction of the buildings, forming the four main streets called the Rows, relics of olden times, little is known of its history prior to the Norman Conquest.  In 603 Ethelred devastated the city and slew the King of Powis.  It was destroyed by the Danes in 864 and rebuilt by the Earl of Mercia.  Since these stirring times it would fill a volume writing the important parts it has played in the Countrys history.

I spent a few hours fishing in the Dee with Ellis, result nothing.  After dinner Ellis’s recent purchase a black horse “Doctor” arrived, he was put in the dog cart for a trial and we had a pleasant drive through Dicksons Nursery Gardens.  After tea our time was limited so we had to pack up ready for the train to Lonsight.  Finale, mutual shakings of hands etc etc etc.  In the Landau for the station, off by the 6.25 train, change at Crewe andStockport and home again safe and sound about 8 o’clock.

We cannot sufficiently express in words how much we feel indebted to both Mr and Mrs Ryley for the many kindnesses shewn to us during our trip, they were more than kind, we feel we can never repay them, and if they have only enjoyed the out as much as we have, it must have been a success in every way.  We shall remember so long as we live the lovely scenery we passed through, the pleasant company we met, and the agreeable manner in which each one of us tried to amuse each other.

So now Mr and Mrs Ryley accept our very best thanks for your kindness and hospitality, and when we meet at Chester may we have another little drive into the wilds of Wales and sit down near some pretty little Welsh Church where there is no bellman, and in his place may we hear poor taffy ringing out from his throttle,

“Shon Morgan, Shon Shones,

  Shon Morgan, Shon Shones,

  Shon Shenkin, Shon Morgan,

  Shon Shenkin, Shon Shones.”

Again thanking you for your kindness, we have pleasure in subscribing ourselves.

Most respectfully yours

Edwin John Reynolds

Emma M Reynolds

October 1890

Mae cofnodion sy’n ymwneud a Caer yn cael eu dal gan Wasanaeth Archifau Swydd Gaer.  Mae mwy o wybodaeth am eu daliadau ar gael ar

http://archive.cheshire.gov.uk/dserve/DServe.exe?dsqApp=Archive&dsqCmd=Index.tcl