Archif “Lowther College”

Roedd Coleg Lowther yn ysgol fonedd i ferched a sefydlwyd yn 1896 ac roedd wedi’i lleoli’n wreiddiol yn Sir Gaerhirfryn. Fodd bynnag, ar ôl i’r ysgol ehangu’n sylweddol ac ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, symudwyd yr ysgol i Gastell Bodelwyddan yma yng ngogledd Cymru. Yn ddiweddar, mae NEWA wedi caffael casgliad sylweddol o gofnodion ysgol Coleg Lowther sydd wedi’u catalogio â’r cyfeirnod D/DM/796 ac sydd ar gael yn ein cangen ym Mhenarlâg, gan gynnwys cofrestrau derbyn; prosbectysau; cylchgronau ysgol; llyfrau ymwelwyr; llyfrau lloffion; gohebiaeth; cyfrifon a ffotograffau. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal prosiect digido mawr yn ymwneud â’r casgliad hwn, gan ddechrau gyda chylchgronau’r ysgol. Cafodd y cylchgronau hyn eu creu a’u golygu gan staff a myfyrwyr Lowther, ac maent yn cynnwys bob math o wybodaeth am fywydau beunyddiol myfyrwyr, gan gynnwys y perfformiadau y byddent yn eu cynnal, y gwibdeithiau y byddent yn mynd arnynt, y cyrsiau yr oeddent yn eu hastudio, a’r cerddi a’r straeon yr oeddent yn eu creu.

Mae edrych trwy’r cylchgronau hyn yn rhoi cipolwg i’r darllenydd ar fywyd yn ystod cyfnodau amrywiol yn yr 20fed ganrif. Er bod y ffocws yn bennaf ar ddigwyddiadau o ddydd i ddydd yr ysgol, yr hyn sy’n eich taro fwyaf yw’r cyfeiriadau at ddigwyddiadau neu ddatblygiadau sy’n gysylltiedig â newidiadau diwylliannol a byd-eang llawer mwy a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwn, ac sy’n helpu i roi bywyd yng Ngholeg Lowther yn ei gyd-destun.  Mae cylchgrawn 1910 yn cyfeirio at y galar cenedlaethol ynghylch marwolaeth y Brenin Edward VII a’r gobeithion uchel ar gyfer ei olynydd y Brenin Siôr V (D/DM/796/5/1 tud.2); cyn i Lowther symud i Gastell Bodelwyddan ym 1921, mae cylchgrawn arall yn nodi bod “gwres canolog a golau trydan” (D/DM/796/5/25 tud.1) wedi’i osod ym mhob rhan o’r castell – tipyn o gamp ar gyfer y cyfnod hwn; ac ar gyfer rhifyn 1930, mae erthygl am Arddwest 1929 yn cyfeirio at araith ar y bleidlais i ferched fel “the most inspiring speech-day address we remember,” (D/DM/796/6/2 tud.5).

O ddiddordeb arbennig mae Rhifyn 45, y cylchgrawn o Orffennaf 1940 (D/DM/796/8/5). Cafodd ei gyhoeddi yn fuan yn dilyn ymgysylltiad Prydain â’r Ail Ryfel Byd, ac nid yw’n syndod bod llawer o gyfeiriadau at y rhyfel a sut yr effeithiodd ar fywyd yn Lowther. Er gwaethaf y gred bod merched Lowther yn teimlo’n ddiolchgar am gael eu gwarchod “…those aspects of war with which so many schools have been only too familiar,” (Ibid., tud.2), nid oedd bywyd o reidrwydd yn mynd yn ei flaen yn ôl yr arfer. Er nad oedd cynddrwg iddyn nhw ag yr oedd i eraill, bu’n rhaid i’r merched ymdopi â dogni – “margarine to supplement the butter” (Ibid., tud.6) – a byrhau eu cynhyrchiad enwog Tableaux “so that people might attend in spite of black-out restrictions,” (Ibid.). Ysgrifennodd un myfyriwr gerdd am y blacowts hyd yn oed, gan ddweud y gallent ddioddef cleisiau a straen ar eu llygaid ond y byddent yn  brwydro trwodd os oedd hynny’n helpu i ennill y rhyfel (Ibid., tud.36).

Ymddengys bod llawer o’r merched yn helpu gyda’r ymdrech ryfel lle gallent – ​​er enghraifft, daeth aelodau o Verney House at ei gilydd a gwau eitemau ar gyfer y Fyddin, y Llynges, a’r Awyrlu, yn ogystal â blanced clytwaith ar gyfer faciwî (Ibid., tud.12). Nid myfyrwyr yn unig oedd yn chwarae eu rhan – nodwyd yn y cylchgrawn fod staff a chyn-fyfyrwyr (o’r enw Old Girls) yn gwasanaethu’n frwd mewn swyddi amrywiol er mwyn y genedl, megis yn y fyddin, y gwasanaeth ambiwlans, A.R.P., A.T.S., Byddin Merched y Tir, a’r Groes Goch ymhlith eraill (Ibid., tud.31). Yn anffodus, teimlwyd colledion gan gymuned Lowther hefyd – mae adran ‘In Memoriam’ yn nodi marwolaeth cyn ddisgybl o’r enw Jeanne Shepley, yn dilyn adroddiad ei bod wedi mynd ar goll o long teithwyr Yorkshire pan gafodd ei suddo gan long-U oddi ar arfordir Portiwgal ar 17 Hydref, 1939,” (Ibid., tud.26). Roedd Jeanne yn dychwelyd adref o India i ailymuno â’r A.T.S. (Y Fyddin Diriogaethol Ategol), ac fel y dywed ffrind a oroesodd yr ymosodiad, roedd yn dianc mewn bad achub pan geisiodd helpu milwr sâl, ac yn y pen draw cafodd ei sugno i lawr gan y llong a oedd yn suddo (Ibid.).

Er gwaethaf y digwyddiadau tyngedfennol hyn a’r effeithiau sylweddol ar eu bywydau, mae gan ferched ysgol ffordd o beidio â chynhyrfu a dal ymlaen gyda synnwyr digrifwch drwyddi draw. Anfonodd un myfyriwr dienw gyflwyniad doniol hyd yn oed yn gwneud hwyl am ben sensoriaeth mewn gohebiaeth sifil a oedd yn digwydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd (Ibid., tud.38).

Cyflwyniad difyr arall gan fyfyriwr oedd segment Modryb Ofidiau yng nghylchgrawn Hydref 1960 o’r enw ‘Auntie Poppy’s Postbag’, lle mae ‘Aunty Poppy’ yn gwneud argymhelliad chwareus i ferch heb unrhyw ffrindiau ystyried ymolchi mwy (D/DM/796/12/5 tud. 49).

Yn olaf, un o elfennau amlwg y cylchgronau hyn yw’r lluniau a’r graffeg, ac ymddengys bod llawer ohonynt yn cael eu gwneud gan y myfyrwyr. Mae’r rhain nid yn unig yn arddangos creadigrwydd y myfyrwyr a’u diddordebau, ond hefyd yn helpu i ddangos sut fywyd oedd merched Lowther yn ei gael. Bydd detholiad o’r lluniau hyn dros y blynyddoedd yn dilyn isod.

Mai 1930 (D/DM/796/6/2)
Hydref 1950 (D/DM/796/10/5)
Hydref 1950 (D/DM/796/10/5)

Ar adeg ysgrifennu hwn, mae nifer o’r cylchgronau ysgol hyn wedi’u digideiddio a’u hychwanegu at ein gwefan, yn dyddio o tua 1910 i 1982 (heb fod mewn dilyniant). Y grŵp dilynol o gofnodion sydd wedi’u digideiddio yw prosbectysau’r ysgol, ac maent yn y broses o gael eu huwchlwytho a byddant yn cael eu hychwanegu at y wefan dros y misoedd nesaf. Gellir pori drwy’r holl eitemau digidol am ddim ar-lein yma.

Gellir dod o hyd i’r casgliad hwn o dan y cyfeirnod D/DM/796, a gellir ei weld yn ddigidol ar wefan NEWA neu’n bersonol yn ein cangen ym Mhenarlâg. . 

Gadael sylw