Posts Tagged ‘Archifau’

Datgloi’r Seilam – Lansio’r Catalog

Chwefror 7, 2018

O ganlyniad i’n prosiect Datgloi’r Seilam, sydd wedi ei ariannu gan Wellcome, rydym yn falch o gyhoeddi lansiad catalog dros dro ar gyfer rhan gyntaf casgliad Ysbyty Gogledd Cymru. Mae’r catalog dros dro hwn yn disodli’r rhestr bapur flaenorol. Yn y catalog, sy’n cynnwys dros 500 o eitemau, mae gwell disgrifiadau o’r eitemau a hefyd strwythur newydd a fydd yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr ganfod cofnodion sy’n berthnasol i’w hymchwil. Gellir canfod y catalog dros dro yma (Cliciwch ar Edrych yn ôl Hierarchaeth i agor rhestr y catalog).

Catalog arlein Ysbyty Gogledd Cymru

Mae’r casgliad yn cynnwys cofnodion rheoli fel cofnodion ac adroddiadau blynyddol, cofnodion adeiladu gan gynnwys rhai sy’n ymwneud â sefydlu’r ysbyty, cofnodion ariannol gan gynnwys cyfrifon a chofnodion cleifion gan gynnwys pryd yr aethant i’r ysbyty a phryd y cawsant eu rhyddhau. Hefyd llyfrau achosion, cofnodion staff gan gynnwys llyfrau cyflogau a deunyddiau eraill gan gynnwys lluniau a deunydd wedi ei dorri o bapurau newydd.

Nodwch os gwelwch yn dda fod cofnodion cleifion a staff sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif ar gau am rhwng 75 a 100 mlynedd o ganlyniad i reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae gwaith ar y gweill nawr i gatalogio ac ail-becynnu gweddill y casgliad, a bydd fersiwn derfynol y catalog a fydd yn cynnwys y cofnodion sydd wedi eu derbyn yn ddiweddarach, ar gael erbyn diwedd y prosiect yn 2019. Yn ychwanegol at hyn mae Swyddog Cymorth y Prosiect yn gweithio’n galed i ail-becynnu a gosod y gyfres ddiweddarach o ffeiliau’r claf mewn mynegai ac mae 2,100 eisoes wedi eu cwblhau.

Byddwn yn parhau i bostio diweddariadau rheolaidd ynglŷn â chynnydd y prosiect a manylion digwyddiadau ar ein blog a’n tudalennau Facebook.

Y Goeden Nadolig

Rhagfyr 17, 2014

Mae’r goeden pinwydden fythwyrdd wedi cael eu defnyddio i ddathlu gwyl y gaeaf (paganiaidd a Christnogol) am filoedd o flynyddoedd. Roedd y paganiaid yn defnyddio canghenion i addurno ei cartrefi yn ystod heulsaf y gaeaf. Defnyddiodd y Romaniaid choed pinwydd i addurno eu templau yn ystod gwyl y Satwrnalia. Mae Christnogion yn eu defnyddio fel arwydd o fywyd tragwyddol gyda Duw. Roedd y fythgwyrdd yn dynodi y bydd y gaeaf yn troi, a byddai’r tir eto’n ffrwythlon.

'The Christmas Tree', o'r Denbighshire Free Press, 5 Ionawr 1895

‘The Christmas Tree’, o’r Denbighshire Free Press, 5 Ionawr 1895

Martin Luther dechreuodd y traddodiad, o addurno coed i ddathlu’r Nadolig, yn ol chwedloniant. Un noswaith ddolig oer, o gwmpas y flwyddyn 1500, pan yr oedd allan yn cerdded drwy’r goedwig, a rheini yn drwm gyda eira, cafodd ei wirioni gan glwstwr o goed fythgwyrdd. Roedd eu brigau wedi ysgeintio gyda eira, ac yn disgleirio yn ngolau’r lleuad. Wedi iddo gyrraedd gartref, gosododd pinwydden fythwyrdd yn y ty, er mwyn cael rhannu ei brofiad gyda’i blant. Addurnodd y goeden gyda chanwyllau, ai goleuo mewn anrhydedd i enedigaeth Crist.

Yn yr Almaen, roedd y traddodiad o ddefnyddio coeden fythgwyrth y tu fewn i’r cartref yn un cryf iawn. Credir i’r Cristniogion cyntaf ei ddatblygu yno. Yn 1841, rhoddodd Tywysog Albert (yn wreiddiol o’r Almaen), gwr y Frenhines Victoria, goeden nadolig yn Nghastell Windsor, Lloegr. Daeth yn arferiad cyflym i’r dosbarthiadau canol gael coed nadolig, yn dilyn y llys brenhinol, ag yn fuan wedyn i weithwyr cyffredin. Roedd yn rhaid i goeden nadolig da, fod yn chwech brigyn tal i’r fictorian, ag wedi ei osod ar fwrdd gyda lliain damasg gwyn. Roeddynt yn cael eu addurno gyda garlantau, fferins a blodau phapur.

Roedd llawer tref a phentref gyda coed nadolig. Ar rhai achosion er enghraifft, maent yn cynrychioli anrhegion coffaol arbennig, fel yn Sgwar Traffalgar yn Llundain, lle mae dinas Oslo, yn Norwy yn cyflwyno coeden i phobol Llundain, fel gwerthfawrogiad o’r gefnogaeth Brydeinig i wrthwynebiad Norwy yn ystod yr ail ryfel byd.

Mae’r darn papur newydd ‘The Christmas Tree’ wedi’i gyhoeddi gyda chaniatâd gan Denbighshire Free Press. Mae ol gopiau o’r Denbighshire Free Press ar gael i’w gweld yn Archifdy Sir Ddinbych, am ragor o wybodaeth ymwelch a’n gwefan

Cau Nadolig 2014

Byddwn ar gau 12.30 ar Ddydd Mercher 24ain o Ragfyr ac yn ail agor am 1.30 ar Ddydd Mercher 7fed Ionawr 2015 gyda’n horiau agor newydd

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gan Archifdy Sir Ddinbych!

Dyddiadur Emily Edwards, Pentre House, Y Waun- 1868. DD/DM/972/1

Dyddiadur Emily Edwards, Pentre House, Y Waun- 1868. DD/DM/972/1

Archifau Sir Ddinbych- Arolwg 2013

Chwefror 3, 2014

Ymchwilwyr ac ymholiadau

Defnyddiodd 1454 o ymchwilwyr ein swyddfa yn ystod 2013, gan ddefnyddio 3836 o ddogfennau gwreiddiol. Hanes lleol yw’r trestun mwyaf poblogaidd i’w ymchwilio gan gynrychioli 47%  o’n hymchwilwyr, ac yna hanes teulu yn cyfrif am 41% o’n hymchwilwyr. Rhesymau eraill ar gyfer ymchwil oedd myfyrwyr coleg ac ysgol, gweithwyr addysg yn gwneud ymchwil ar gyfer gwersi a darlithoedd, ymchwilwyr yn gweithio ar gyhoeddiadau ac ymholiadau cyfreithiol/swyddogol.

Atebwyd 1153 o ymholiadau drwy’r  post, e-bost neu dros y ffôn .

Digwyddiadau a grwpiau

Mynychodd 524 o ymwelwyr digwyddiadau yn ystod 2013, gan gynnwys Drysau agored yn mis Medi, darlith Ysbyty Gogledd Cymru, sesiynau hanes teulu a hyfforddiant palaeograffeg (sut i ddarllen hen lawysgrifen).  Cynhaliwyd cyfanswm 16 o ddigwyddiadau cyhoeddus ar y safle.

Clwyd Wynne yn cyflwyno ar fywyd staff yn Ysbyty Gogledd Cymru, 17eg Medi 2013

Bu nifer o grwpiau yn ymweld â ni ar gyfer sgwrs neu daith gan gynnwys Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC), Sefydliad y Merched Henllan, Grŵp Hanes y Teulu Llansannan a myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr.

Catalogiau a adneuo

Gallwch gadw golwg ar ein adneuon newydd ar arolwg yr Archifau Cenedlaethol yma.

Cofnodwyd 56 o dderbynion newydd yn ystod y flwyddyn gan gynnwys:

  • Cofnodion Plwyf Henllan (PD/38- casgliad ychwanegol)
  • Corwen Community Council minutes (PCD/104 – additional collection)
  • Records of Ysgol Carrog/Carrog Council School (ED/104A)
  • Ruabon Parish Records (PD/89- additional collection)
  • Records of Llangollen Eisteddfod (DD/LE- additional collection)
  • Sales particulars for various properties (DD/DM/1825)
  • Diary of Lt Col A.E. Jerman serving in the Royal Army Medical Corp 1915-1916 (DD/DM/1827)
  • Bryneglwys Parish Council records (PCD/11- additional collection)
  • Scrapbook relating to Denbighshire County Girl Guides (DD/DM/1566-additional collection)
  • Scrapbook relating to Denbigh Infirmary (DD/DM/1838)
  • Selection of photographs of Prestatyn (PPD/120- additional collection)

Cwblhawyd nifer o brosiectau catalogio mawr yn 2013 gan gynnwys casgliad Glyndŵr (DD/G) a chasgliad Castell Rhuthun (DD/RC)

Gwirfoddolwyr

Erbyn hyn mae gennym 19 o wirfoddolwyr rheolaidd yn cynorthwyo gyda nifer o brosiectau megis:

  • Glanhau cofnodion
  • Creu mynegai chwiliadwy o gleifion Ysbyty Gogledd Cymru
  • Gwella a digidio catalogau ar gyfer ein confodion ysgol

Mae’n gwirfoddolwyr wedi cyfrannu dros 263 awr o waith gwirfoddol yn ystod 2013. Rydym wedi cael 4 o fyfyrwyr ar leoliadau profiad gwaith.

Diolch yn fawr i’n holl ymchwilwyr a gwirfoddolwyr, yr ydym wedi cael blwyddyn gynhyrchiol a phrysur iawn!

Ffisyg a iechyd y cyhoedd

Awst 1, 2013

Mae meddyginiaeth modern yn wahanol iawn i’r feddyginiaeth a oedd yn cael ei ddefnyddio gannoedd o flynyddoedd yn ôl.  Mae gennym well syniad erbyn hyn o beth sy’n achosi salwch ac felly syniad gwell o sut i’w drin. Erbyn hyn fe wyddom am germau a pha mor bwysig yw cadw’n lân.  Ond ers i’r Rhufeiniaid a’u syniadau ynghylch iechyd cyhoeddus ein gadael mae pobl wedi byw o dan amodau dychrynllyd, a oedd yn helpu lledaenu afiechyd.

Dechreuodd Deddf Iechyd Cyhoeddus 1848 wella amodau’r trefi ac felly helpu hefyd i rwystro afiechyd rhag lledaenu, ond ni ellid rhwystro afiechydon a’u gwella’n iawn tan i Louis Pasteur ddarganfod germau ddiwedd 1880au. Cyn y darganfyddiad hwn, roedd gan y rhan fwyaf o bobl gredoau ofergoelus ynghylch achos salwch.

Roedd gweithwyr proffesiynol meddygol gyda llawer o ddamcaniaethau ynghylch a sut roedd clefyd yn lledaenu. Y dderbyniaeth gyffredinol oedd y Ddamcaniaeth Ddrycsawrus.  Honnwyd fod clefyd yn lledaenu drwy gyfrwng a elwir yn awyr  nos, neu awyr ddrwg; credant fod awyr gwenwynig yn cael eu creu trwy ddadelfennu mater organig fel gwastraff dynol.

Colera yn Wrecsam

Methodd i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd, gael effaith fawr ar iechyd y cyhoedd yn Wrecsam.   Hyd yn oed cyn 1848, roedd gan Wrecsam bwyllgor iechyd eu hunain.  Dan arweiniad y ficer, Canon George Cunliffe, creodd mewn ymateb i epidemig o golera yn 1830, a llwyddodd i achub y dre o’r pla.  Llwyddodd y Pwyllgor Iechyd hefyd i atal epidemig o golera yn 1866 (NCD/164- ‘Notes on Wrexham’s escape from the plague, 1977’)

Yn 1866 cynghorwyd Bwrdd Iechyd Wrecsam (NCD/934):

  • “To remove and guard against accumulations of filth and refuse matter.”
  • “Change bed linen frequently.”
  • “To avoid drinking alcohol.”

Diwygiad yn Wrecsam

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd diwygiad iechyd cyhoeddus yn lledaenu drwy Brydain.  Dechreuodd gyda gweithwyr meddygol proffesiynol, yn casglu tystiolaeth ai gyflwyno i’r Bwrdd Iechyd Cyffredinol, ar ffurf adroddiadau meddygol. Darllenwch isod darn o’r ‘Report to the General Board of Health 1849′, wedi eu llofnodi gan weithwyr proffesiynol, gan gynnwys llawfeddygon o Glafdy Wrecsam, G.Lewis, William Rowland a Thomas T. Griffeth (DD/DM/228/59).

“The undersigned medical men who have resided in this town for various periods, from 5 to upwards of 31 years, have always observed that certain parts of Wrexham had been in an unhealthy state, frequently visited by epidemic and endemic diseases’ often of a fatal character, and generally severe, especially as compared with other parts of the town more favourably-circumstanced with respect to the character of houses, cleanliness of inhabitants, air and water.”

Llyfr Presgripsiwn

Llyfr Presgripsiwn
Uchod mae llyfr presgripsiwn gan I. J. Edisbury o 3 Stryd Fawr,
Wrecsam, 1888 (cyf: DD/DM/801/1).

Edrychwch ar y dudalen o lyfr presgripsiwn fferyllydd o’r 19eg ganrif. Tybed a allwch chi ddarllen y cynhwysion ar gyfer y meddyginiaeth (a’r hyn a ddefnyddid gartref).  Oes unrhyw rai o’r cynhwysion yn ymddangos yn od? Pam ydych chi’n meddwl fod sebon a thriog yn gynhwysion mewn ‘Cheap pills for Quacks’ (roedd ‘quack’ yn berson a oedd yn esgus fod yn feddyg)? Allwch chi ganfod ‘Gwaed y Ddraig’? Beth ydych chi’n feddwl yw hynny? Ac a ydi’r staen yn rhywfaint ohono a gafodd ei dywallt ar y llyfr?!

Darllenwch trawsgrifiad yma.

Mae gennym nifer o gofnodion yn ymwneud ac iechyd y cyhoedd.  Gellir eu gweld mewn gwahanol gasgliadau gan gynnwys:

Cofnodion Bwrdeistref (Dinbych, Rhuthun, Wrecsam, Colwyn Bay, Cyf: BD) Cofnodion Cyngor Ardal Gwledig (Cyf: RDD), Cofnodion Cyngor Ardal Trefol (Cyf: UDD), Cofnodion Adran Iechyd Cyngor Sir Ddinbych (Cyf: CD/H), Awdurdod Glanweithdra Gwledig Wrecsam (Cyf: GD/C), Awdurdod Glanweithdra Wledig Undeb Conwy (Cyf: GD/D), Cofnodion Ysbytu amrywiol (Cyf: HD)

Creuwyd y post blog yma gan Rachel Thomas (Ysgol Uwchradd Prestatyn), a Miles Catania (Ysgol Brynhyfryd), myfyrwyr profiad gwaith Gorffenaf 2013

Cofnodion Edward Hughes, Wrexham- “Casgliad Glyndwr”

Gorffennaf 4, 2013

Mae gwaith wedi ei gwblhau ymhellach, ar gasgliad o ddogfannau a phapurau yn Archifdy Sir Ddinbych, a gymerwyd o gartref Miss Edna Hughes yn Ffordd y Bers, Wrecsam.  Fe brynodd y teulu Hughes 4 Bersham Road yn 1895, gan ei enwi’n Glyndŵr oherwydd cysylltiad y perchennog, Edward Hughes, â theulu Owain Glyndŵr.

DD/G/2 - Arfbais y Teulu Hughes

DD/G/2 – Arfbais y Teulu Hughes

Fe anwyd Edward Hughes yng Nghroesoswallt yn 1862 er mai o Lansilin y daethai eu deulu.  Yn ddiweddarach daeth yn berchen bwthyn yno o’r enw Ffrydlyn ac fe ddaeth yn ail gartref y teulu ac fe dreuliwyd hafau lawer yno.

Roedd yn gyfrifydd yn ôl ei alwedigaeth ac roedd ganddo nifer fawr o ddiddordebau busnes ac roedd hefyd yn hanesydd lleol ac yn achydd.  Daeth i fod yn un o’r bobl mwyaf dylanwadol ac amlwg yn Wrecsam.  Roedd yn ynad, yn gynghorydd bwrdeistref, yn henadur ac yn Rhyddfreiniwr Wrecsan, Cynghorydd Sir Sir Ddinbych, landlord a datblygwr eiddo.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu’n gwasanaethu fel swyddog cyflenwi i Gatrawd Gwirfoddolwyr Sir Ddinbych (2il Fataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig) â gradd lefftenant.  Fe wasanaethodd hefyd ar dribiwnlys milwrol Sir Ddinbych, a byddai’n teithio ledled Gogledd Cymru’n dymryd llwon recriwtiaid yn Gymraeg.  Fe’i dyfarnwyd ag MBE (Member of the Order of the British Empire) am ei waith yn 1918.

Fe briododd â Margaret Armstrong yn 1888 ac roedd ganddyn nhw dair merch – Gwendoline (1889-1970), Dorothy (1890-1954) ac Edna (1894-1982).  Bu’r tair yn byw yng Nglyndŵr gydol eu bywyd a marw’n ddi-briod.

This slideshow requires JavaScript.

Bu farw Edward Hughes ar Ddygwyl Nadolig 1938 yn 76 a bu ei wraig Margaret farw ar Orffennaf 8fed 1947 yn 85 oed.

Mae casgliad Glyndŵr (gyda thros 4,000 o eitemau) yn gofnod o gyfraniad un teulu rhyfeddol i fywyd Wrecsam, yn pontio bron i ganrif.  Mae’r casgliad ar gael i’w weld yn Archifdy Sir Ddinbych, mae rhagor o fanylion am ein gwasanaeth, ar gael ar ein gwefan http://www.denbighshire.gov.uk/cy-gb/dnap-6zqktq?opendocument&lang=cy-gb

Darlith- ‘Gwneud argraff: Seliau fel adnodd ar gyfer Ymchwil Hanesyddol’

Mai 7, 2013

Ym Mhrydain ganoloesol, meddai ddynion a merched trwy gymdeithas ar seliau; goroesa filoedd ohonynt mewn archifau, amgueddfeydd a chasgliadau preifat. Er bod y mwyafrif ohonynt yn fychan, ac yn aml wedi eu difrodi, datgelant wybodaeth am eu perchnogion, yn unigolion neu sefydliadau, gan gynnig cipolwg ar fywydau a fuasai fel arall yn guddiedig.

 Wynnstay seal

Noddir prosiect Archwilio Seliau’r Oesoedd Canol, ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Amcan y prosiect yw rhannu ymchwil uwch ac arbenigedd gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys athrawon a phlant ysgol, archifwyr a churaduriaid, gweithwyr treftadaeth proffesiynol a haneswyr lleol, ac yn wir unrhyw un sydd â diddordeb brwd yn yr Oesoedd Canol. Dymunwn archwilio, gyda’r rhai sydd â diddordeb, sut y gall ein hymchwil gynorthwyo wrth ddatblygu agendâu newydd mewn addysg, ymchwil ac wrth gyflwyno’r gorffennol i’r gynulleidfa ehangaf posibl.

Dydd Llun 3 Mehefin, 2pm-3pm (Fe’ch cynghorir i fwcio)

Lleoliad- Gwasanaeth Archifau Sir Ddinbych yng Ngharchar Rhuthun

Ffôn: 01824 708250

E-bost: archifau@sirddinbych.gov.uk

Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych

Ebrill 2, 2013

Cedwir cofnodion Ysbyty Gogledd Cymru gan Wasanaeth Archifau Sir Ddinbych.  Mae’r casgliad yn un o’r enghreifftiau mwyaf cynhwysfawr o gofnodion gwallgofdy yn y wlad.  Roedd yr ysbyty’n hysbys dan wahanol enwau yn ystod ei fodolaeth –  ‘The North Wales Lunatic Asylum’,’ The North Wales Counties Lunatic Asylum’, ‘The North Wales Counties Mental Hospital’ a ‘The North Wales Mental Hospital’.

Mae’r casgliad yn cynnwys cofnodion gweinyddol fel cofnodion ac adroddiadau blynyddol ynghyd â chasgliad ffantastig o gofnodion cleifion, o 1848 pan agorwyd yr ysbyty tan sefydlu’r GIG yn 1948, ac fe’u defnyddid i ymchwilio gofal a thriniaeth cleifion ac agweddau tuag at salwch meddwl.

Mae nifer fawr o orchmynion derbyn sydd wedi eu bwndelu mewn trefn gronolegol, wedi eu cynnwys yng nghofnodion y cleifion.  Mae gorchmynion derbyn yn darparu tystiolaeth bod y claf wedi ei ardystio’n wallgof (‘certified insane’) ac yn cynnwys manylion o ymddygiad claf cyn ei dderbyn.  Roedd ardystiad yn gofyn am lofnod dau ynad a barn feddygol meddyg cymeradwy.

Claf rhif 5070: Gorchymyn derbyn ar gyfer Samuel Parry dyddiedig Mawrth 7fed 1896

[Cliciwch ar ddelweddau i’w chwyddo]

Isod mae sylwadau’r meddyg sy’n disgrifio ymddygiad Samuel Parry –

“He is much depressed and cries almost continually. He was crying when I visited him today and also yesterday. When he was asked what he was crying for he gave a very silly and incoherent answer, something about buying a penny paper and he had not paid for it. All his conversation is incoherent.”

Sylwadau'r Meddyg

Sylwadau’r Meddyg

Gallwn weld oddi wrth y gorchymyn derbyn fod Samuel Parry’n byw ym Mrychdyn a daeth i’r ysbyty fel tlotyn wedi ei ariannu gan Undeb Cyfraith Tlodion Wrecsam.  Dim ond 19 oed oedd o ac roedd wedi gweithio fel labrwr i löwr.  Fe ddaeth i Ysbyty Gogledd Cymru ar Fawrth 7fed, 1896 a bu yno tan ei ryddhad (wedi ei wella) ar Fehefin 22ain yr un flwyddyn.

Datganiad o fanylion yn dangos gwybodaeth sylfaenol Samuel Parry

Datganiad o fanylion yn dangos gwybodaeth sylfaenol Samuel Parry

Gellir defnyddio gorchmynion derbyn ynghyd â chofnodion eraill fel cofrestrau derbyn a nodiadau achosion i ddarganfod mwy am symptomau a thriniaeth y person.

Yn anffodus, nid yw’r catalog ar gyfer y casgliad yma ar gael ar-lein, a dim ond yn ein swyddfa y gellir ymgynghori ag o.  Mae’r cofnodion hyn i’w gweld am ddim yn ein swyddfa, ond mae cofnodion a grëwyd yn ystod y 100 mlynedd diwethaf yn gaeedig oherwydd rheoliadau cyfrinachedd cleifion y GIG.  Rydyn ni’n gweithio gyda gwirfoddolwyr ar hyn o bryd i greu mynegai cynhwysfawr o orchmynion derbyn i wneud chwilio’r 16,000 + o gofnodion yn llawer haws i ymchwilwyr.

Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth bellach ar archifau@sirddinbych.gov.uk

Yr wythnos hon yn y wasg – 27 Ebrill 1912

Ebrill 26, 2012

  • YMWELIAD ARCHESGOB  Ymweliad yr Archesgob â Llanelwy a Gogledd Cymru – oherwydd yr ymosodiad a fygythir ar yr Eglwys Gymreig.                            
  • GWARTHEG YN CRWYDRO  Mr Jones, Saron yn cael ei alw i’r llys, am ganiatáu i ddwy fuwch grwydro ar y briffordd yng Ngherrig y Drudion.
  • CALAN  MAI Y RHYL  Manylion Calan Mai y Rhyl, i’w gynnal ar ddydd Iau, Mai 2il.
  • PRIODAS  Manylion priodas Miss E G Williams o Lewesog, â’r Parch. E M Richards BA, rheithor Llangystennin, fel y’i hadroddwyd yn rhifyn yr wythnos diwethaf
  • CROGI YN HENLLAN  Rhoddwyd dyfarniad o ddynladdiad gan y Crwner, yn yr ymchwiliad i farwolaeth ar fferm yn Henllan.
  • ANFON NAFI MEDDW I’R CARCHAR  Mr McCarthy, brodor o Iwerddon a oedd yn gweithio yng ngwaith Dŵr Birkenhead, Cerrig y Drudion yn cael ei anfon i’r carchar am 21 o ddyddiau, am fod yn feddw ac yn afreolus.
  • TÂN LLANBEDR  Bu’r frigâd dân dan reolaeth yr Is-gapten Joyce, yn gwasanaethu mewn tân ysgubor yn Llanbedr.  Fe ddinistriwyd y das wair gyfan.
  • ANGLADD  Manylion angladd Mrs Hughes, Stryd y Dyffryn, Dinbych.  Un o’r angladdau mwyaf a welwyd ers llawer blwyddyn, a gwraig yr oedd parch mawr iddi yn y dref.

 ARBENNIG – YMHOLIAD Y TITANIC

Denbighshire Free Press, Ebrill 27 1912.

Denbighshire Free Press, Ebrill 27 1912. Ar gael i’w weld yn Archifdy Sir Ddinbych.

Denbighshire Free Press, Ebrill 27 1912.

Denbighshire Free Press, Ebrill 27 1912. Ar gael i’w weld yn Archifdy Sir Ddinbych.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwesty’r Castell, Rhuthun

Mawrth 29, 2012

Efallai eich bod wedi sylwi ar y lluniau hanesyddol gwych o’n casgliadau ar waliau Gwesty’r Castell, Rhuthun, yn dilyn ei adnewyddiad diweddar gan y cadwyn dafarn ‘Wetherspoons’.  Efallai y gellid disgrifio Gwesty’r Castell unwiath eto fel y ‘principal hostelry, occupying the most important position in St. Peter’s Square’.

This slideshow requires JavaScript.

Roedd yn adnabyddus fel y White Lion, a dywedir ei fod yn dyddio o ddechrau i ganol y ddeunawfed ganrif.  Efallai iddo gael ei adeiladu ar safle adeilad cynharach ac yn wir, yn y cefn mae yna adeiladau allan o ffrâm bren o’r 16/17g.  Gyda datblygiad y cwmnïau tyrpeg a gwelliant y system ffyrdd, fe ddaeth y White Lion yn dafarn coets fawr ac ebrandy.

Yn dilyn dyfodiad y gwasanaeth rheilffordd i Ruthun, fe anfonid ceir a cheffyl i gyfarfod â phob trên I gludo darpar noddwyr i’r gwesty.  Tua diwedd y 19g fe ddaeth yn fwy adnabyddus fel Gwesty’r Castell.

Ar droad y ganrif diwethaf roedd yn westy mawr, gydag ystafelloedd derbyn, 15 o lofftydd, stablau ar gyfer o leiaf 20 o geffylau a garej.  Cafodd ei adnewyddu yn y 1930au gan y ‘Trust House Group’, ac fe’i gwerthwyd ganddyn nhw fel gwesty unigryw yn 1971; mae wedi parhau I fasnachu fel gwesty byth ers hynny.

Mae gwybodaeth ar ein daliadau ar gael ar http://www.denbighshire.gov.uk/cy-gb/dnap-6zqktq?opendocument&lang=cy-gb

Cadwraeth

Mawrth 15, 2012

Does gennym ni ddim gwarchodwr yn ein gwasanaeth a byddwn yn dibynnu ar grantiau allanol i ariannu’r rhan fwyaf o waith cadwraeth sydd ei angen.  Eleni, rydyn ni wedi derbyn cyllid gan CyMAL a’r NMCT i adfer dwy gyfrol o’n Casgliad Heddlu Sir Ddinbych.

This slideshow requires JavaScript.

Mae’r grant yma wedi ein galluogi i ariannu gwaith cadwraeth ar ddau lyfr prin o ddisgrifiadau troseddol, yn cynnwys dwy gyfrol fechan mewn rhwymiad lledr.  Mae’r cyfrolau hyn yn cynnwys ffotograffau ‘carte de visite’, gyda disgrifiadau llawysgrif ychwanegol o wahanol ffeloniaid a oedd wedi eu rhyddhau o garchardai yn Lloegr a Chymru, ac a oedd â chysylltiadau ag ardal Sir Ddinbych. 

Mae’r disgrifiadau o’r unigolion a bortreadir yn cynnwys manylion byr o’u hymddangosiad corfforol, eu cofnod troseddol, eu heuogfarn, a’r ddedfryd. Mae ffotograffau cynnar o droseddwyr yn anarferol ac mae’r albymau hyn yn cynnwys ffotograffau sy’n dyddio o’r 1860au i’r 1880au.  Mae’r albymau’n bwysig ac yn arwyddocaol i hanes cymdeithasol Prydain, a hanes plismona’n arbennig.