DIWRNOD RHYNGWLADOL Y MERCHED – Y MERCHED ‘CUDD’ YM MYNEGAI COFFA RHYFEL BYD CYNTAF SIR Y FFLINT

Beatrice Ellis o’r Rheithordy, Ysceifiog a ymunodd â Chorfflu Ategol Byddin y Merched yn 1917

Roedd Beatrice (ei henw llawn oedd Angelina Beatrice) yn ferch i Evan Lodwick Ellis, Rheithor Ysceifiog. Roedd yn un o bedwar o blant oedd yn dal i fyw gartref yng Nghyfrifiad 1911, yn 20 oed. Roedden nhw’n byw yn weddol gefnog yn Ysceifiog ar y pryd, roedd cyflog y rheithor yn £371 y flwyddyn ac roedd naw acer o dir i’w rentu allan.  (Rhyl Journal, 28 Mawrth 1908). Roedd y Rheithordy’n dŷ anferth, mawreddog Sioraidd, oedd yn gartref i’r Parch Ellis, ei wraig Elizabeth, merch Marjorie (23 oed); mab Hugh Lodwic Maldwyn (22 oed); merch Angelina Beatrice (20 oed);  Trithyd Mancel Lodwick (11 oed); a morwyn, Elizabeth Anne Jones (16 oed).

Bu farw brawd ieuengaf Beatrice, Trithyn yn sydyn yn 1915 yn 15 oed, ar ôl cael niwmonia yn yr ysgol fonedd. (‘Funeral of the Rector’s Son’, Flintshire Observer, 8 Gorffennaf 1915).

Roedd ei brawd hynaf, Hugh Lodwick Ellis yn hyfforddi i fod yn offeiriad ond pan ddechreuodd y rhyfel yn 1914, ymunodd â’r fyddin i ymladd dros ei wlad. Ymunodd â Bataliwn 1af y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym mis Awst 1914 gan ddod yn Ail Lefftenant.  Bu farw o’i anafiadau ym mrwydr Bullecourt, Ffrainc ym mis Mai 1917. Mae stori lawn ei yrfa yn y fyddin ar gael ar wefan Flintshire War Memorials: https://www.flintshirewarmemorials.com/memorials/ysceifiog-memorial/ysceifiog-soldiers/ellis-hugh-lodwick-maldwyn/

Fodd bynnag, ychydig wyddom ni am Beatrice Ellis ei hun. Efallai wedi’i hysbrydoli gan farwolaethau trist ei brodyr, ymunodd Beatrice â Chorfflu Ategol Byddin y Merched ar 6 Medi 1917 (yn 26 oed). Roedd gan Mrs Philips o Rhual, ger yr Wyddgrug ran fawr mewn recriwtio ar gyfer y Corfflu (a elwid yn nes ymlaen yn Gorfflu Ategol Byddin y Frenhines Mary) yng Ngogledd Cymru ac yn rhan o’r rheswm pam yr ymunodd Beatrice efallai.  Mae gennym lythyr at Mrs Philips i ddiolch iddi am ei holl waith caled yn recriwtio, yn AGDdC Penarlâg (Cyf: D/WW1/8/2/6).
https://www.newa.wales/collections/getrecord/GB208_D-WW1_8_1_2_6

Llythyr at Mrs Philips, Rhual gan Gadeirydd Pwyllgor Recriwtio Gogledd Cymru, yn diolch iddi am ei holl waith caled yn recriwtio ar gyfer Corfflu Ategol Byddin y Frenhines Mary (AGDdC, Penarlâg, Cyf: D/WW1/8/2/6)

Sefydlwyd Corfflu Byddin y Merched i geisio bodloni galw cynyddol am staff i wasanaethu, gan fod y cyflenwad o ddynion oedd o fewn yr oed gwasanaethu yn prysur brinhau.  Nododd hysbyseb ar gyfer recriwtio i’r Corfflu yn 1917 fod galw mawr am bob math o ferched fel pobyddion, merched storfa, gyrwyr-beirianwyr a garddwyr i ofalu am feddi’r milwyr.  (Barry Dock News, 12 Hydref 1917). Roedd galw hefyd am gannoedd o ferched i fod yn glercod yn Ffrainc, i ryddhau dynion o’u swyddi wrth ddesg i fynd i ymladd.  Cynhaliwyd cyfweliadau recriwtio yng Ngogledd Cymru ym mis Mehefin 1917. (The North Wales Chronicle, 18 Mai 1917).

Llun: Diolch i’r Amgueddfa Ryfel Imperialaidd, defnydd anfasnachol © IWM Art.IWM PST 13171

Erbyn 1918, roedd y galw’n cynyddu i ferched ymuno â Chorfflu Ategol Byddin y Merched ac mewn llythyr at bapur newydd lleol dywedwyd fod angen 20,000 y mis o ferched ar gyfer gwasanaethu Gartref a Thramor nes hysbysir yn wahanol. Gofynnodd yr ysgrifennwr ‘A oes merched yn yr ardal fydd yn dod ymlaen i helpu eu gwlad yn yr argyfwng mawr hwn?’ (Llythyr at y Golygydd, gan L. Lloyd John o Gorwen, Yr Adsain, 19 Mawrth 1918).

Roedd Beatrice yn awyddus i wasanaethu dros ei gwlad ac ymunodd i wneud ei rhan. Yn anffodus, nid yw wedi bod yn bosibl darganfod cofnod o beth yn union oedd ei gwaith, ond gwasanaethodd am 2 flynedd yn y lluoedd arfog a chafodd ei rhyddhau ar 11 Gorffennaf 1919, fisoedd wedi i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben. Dyfarnwyd y Fedal Fuddugoliaeth a’r Fedal Ryfel Brydeinig iddi am wasanaethu dros ei gwlad.

Y Fedal Ryfel Brydeinig a’r Fedal Fuddugoliaeth o gasgliad y Rhyfel Byd Cyntaf yn AGDdC, Penarlâg (Cyf: D/WW1/29/1/4)

Bu farw ei thad yn 1919 a symudodd y teulu o Ysceifiog. Mewn Cofrestr Etholwyr yn 1939, yn dilyn marwolaeth ei mam yn 1937, roedd Beatrice yn byw gyda’i chwaer Olive Augusta Lodwick Ellis yn Fossil Road, Lewisham, Swydd Caint. Yn chwarter mis Rhagfyr 1939, priododd Angeline B. Ellis â Stephen Morgan yn ardal Lewisham (Llundain). Mae’n braf meddwl ei bod efallai wedi bod yn hapus yn hwyrach yn ei bywyd, ar ôl gwasanaethu dros ei gwlad pan oedd ei hangen.

Bu farw Angeline Beatrice Morgan yn 1964 yn 83 oed yn Ysbyty Ashford, Stanwell a gadawyd ei hystâd (oedd werth dros £3,000) i’w chwaer ieuengaf, Emily Matilda Lodwick-Ellis, hen ferch. 

Mae Mynegai Rhyfel Byd Cyntaf Sir y Fflint yn cael ei gadw mewn cabinet pren gyda dros 10,000 o gardiau, fel mynegai cerdyn o ddynion (a llond dwrn o ferched!) Sir y Fflint a wasanaethodd yn rhyfel 1914-1918. Mae’r mynegai ar gardiau arbennig, wedi’u trefnu yn ôl lle, ac yna mewn dau ddilyniant o gyfenwau yn ôl trefn yr wyddor. Mae cardiau â’r pennawd ‘L’ ar gyfer milwyr a oroesodd y rhyfel, a chardiau ‘F’ i rai a gafodd eu lladd neu a fu farw o’u hanafiadau. Rhoddwyd y rhan fwyaf o’r wybodaeth ar y cerdyn gan y dyn ei hun, ac mae wedi’i lofnodi ganddo fel arfer, neu os cafodd ei ladd, gan ei berthynas agosaf.  Bydd cyfeiriad, rhif catrodol, uned, cyfnod y gwasanaeth a rheng ar y cerdyn bob amser. Mewn rhai achosion, bydd adran am sylwadau arbennig am wasanaeth yn rhoi dyddiadau swyddi, brwydrau, anafiadau ac ati ac i’r rhai fu farw, efallai y nodir dyddiad a man eu claddu. Mewn rhai eithriadau, pan oedd rhywun fel rheithor y plwyf yn goruchwylio llenwi’r cerdyn, bydd llawer mwy o wybodaeth ar gefn y cerdyn.

Mae’r cardiau hyn yn cael ei digideiddio a’u catalogio ar hyn o bryd. Mae llawer o’r cardiau coffa eisoes ar gael ar-lein ar ein gwefan, ble gallwch eu gweld am ddim:
https://www.newa.wales/collections/getrecord/GB208_D-DM_181

Gadael sylw