Posts Tagged ‘#Actio’

Ailddarganfod Merched: Miss Harris Jones, Yr Athrawes

Chwefror 1, 2021

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein 4ydd monolog yn y gyfres Ailddarganfod Merched!

Mae’r monolog hwn yn seiliedig ar gofnodion ysgol fabanod a ysgrifennwyd gan Miss Anne Harris Jones yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Bu hi’n dysgu yn Ysgol Fwrdd Abermorddu yn Sir Fflint ac yn Ysgol Cyngor Victoria yn Wrecsam ac mae’r cofnodion yn dangos ei bod wedi ymrwymo ei rôl fel athrawes i’r plant yn ei gofal. Cawn yr argraff ei bod yn ddynes gryf a thosturiol. Ar adeg ei hymddeoliad yn dilyn 29 mlynedd o wasanaeth, mae cofnodion y rheolwr yn nodi ei bod ‘i raddau helaeth, wedi ymrwymo ei hun i addysg, lles a budd y plant yn ei gofal.’

Daethom o hyd i’r wybodaeth hon am Anne Harris Jones drwy bori drwy lyfrau cofnodion yr ysgol a chofnodion y rheolwr. Gallwch ddarganfod mwy am lyfrau cofnodion ysgolion yn y blog diwethaf.

Cyf: ED/MB/101/5, Cofnodion Rheolwr Ysgol Victoria

Ailddarganfod Merched: Y Weddw

Ionawr 25, 2021

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein 3ydd monolog yn y gyfres Ailddarganfod Merched!

Fe ddigwyddodd Trychineb Pwll Glo Gresffordd yn ystod oriau mân y bore ar 22 Medi 1934 pan fu i ffrwydrad a thân tanddaearol ladd 263 o lowyr a thri gweithiwr achub. Roedd yn un o’r trychinebau pyllau glo gwaethaf ym Mhrydain ac fe ysgogodd ymateb cenedlaethol gan bawb a oedd yn dymuno rhoi unrhyw gymorth yr oeddent yn gallu i deuluoedd y dioddefwyr.

Mae’r monolog hwn yn seiliedig ar gofnodion y gronfa gymorth a sefydlwyd i gynorthwyo dibynyddion y dioddefwyr. Yn ogystal â chofnodion a chofnodion gweinyddol eraill, mae’r casgliad yn cynnwys cyfoeth o lythyrau; gan roddwyr, sefydliadau ac unigolion fel ei gilydd, ac ymgeiswyr ar gyfer grantiau. Mae’r llythyrau mwyaf trawiadol gan unigolion tlawd a oedd yn barod i roi’r ychydig geiniogau yr oedd ganddynt, neu eitemau megis dillad i’r “poor souls … that have no hopes of there [sic.] breadwinner to return”.

Galwyd ar y gronfa i dalu biliau meddygol, y gost o addysgu plant a chostau byw cyffredinol. Parhaodd i weithredu hyd at y 1980au pan fu farw’r hawlydd olaf.

Ailddarganfod Merched: Marged verch Ifan, Y Reslwr

Ionawr 18, 2021

Rydym ni’n falch o ddatgeli ein 2il monolog yn ein cyfres Ailddarganfod Merched!

Cafodd monolog Peggy Evans ei ysbrydoli gan gyfeiriad Thomas Pennant ati yn un o’i lyfrau. Yn A Tour in Wales (cyfrol II) mae’n disgrifio Marged uch Ifan yn wraig bwysig a chlodfawr ac yn fenyw eithriadol, ac roedd wedi’i siomi pan nad oedd hi gartref pan ymwelodd â Phenllyn yn ystod ei daith yn Eryri.

Mae casgliad Nantlys yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg) yn cynnwys papurau Thomas Pennant (1726-98), y naturiaethwr a’r awdur topograffig enwog. Thomas Pennant oedd mab hynaf David Pennant ac Arabella Mytton, cafodd ei enwi yn nhŷ Downing ym mhlwyf Chwitffordd ger Treffynnon yn Sir y Fflint ar 14 Mehefin 1726. Roedd yn aelod o hen deulu a oedd yn meddu ar ystadau yn Chwitffordd a Threffynnon ers y 1450au. Mae’r casgliad yn cynnwys eitemau diddorol iawn, fel dyddiadur o’i deithiau i Buxton, Scarborough, Teignmouth a Bryste yn 1786-8 a nodiadur a gadwodd yn ystod taith o gwmpas Ewrop yn 1765-6. Hefyd ar gael a chadw ym Mhenarlag mae copi Thomas Pennant ei hun o History of the Parishes of Whiteford and Holywell 1796. Mae’r gyfrol wych hon yn cynnwys darluniadau ychwanegol ac eitemau rhydd a ychwanegwyd ar ôl ei farwolaeth gan ei fab, David Pennant. Maen nhw’n cynnwys delweddau o adeiladau sydd bellach wedi’u dymchwel, darluniau o offer diwydiannol cynnar, rhestr o felinau Treffynnon (a oedd yn dal yn gweithio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg), herodraeth boneddigion Sir y Fflint a brasluniau o ffosiliau, fflora a ffawna.

Portread o Thomas Pennant (Cyf PR/C/50)

Ailddarganfod Merched: Gwyneth/Ann Owen, Y Mamau

Ionawr 11, 2021

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein 1af monolog yn y gyfres Ailddarganfod Merched!

Mae’r monolog hwn yn seiliedig ar achos go iawn o iselder ôl-enedigol yn llyfrau achosion cleifion Ysbyty Gogledd Cymru, a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Gwallgofdy Siroedd Gogledd Cymru. Penderfynom amlygu achos penodol iawn, sef Ann Owens, a gafodd ei derbyn i Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych ym mis Ionawr 1875. Mae’r achos yn amlygu’r gwahaniaeth o ran dulliau triniaeth a’r ymagwedd tuag at iselder ôl-enedigol.

Roedd Ann yn 39 mlwydd oed pan gafodd ei derbyn i’r ysbyty, roedd ganddi bump o blant, a’r ieuengaf ond yn 1 mlwydd oed pan gafodd ei derbyn. Roedd Ann yn dod o Sir y Fflint, priododd weithiwr glo ac roedd wedi bod yn profi symptomau megis camsyniadau ac iselder difrifol. Roedd hi’n gwrthod bwyta ac roedd ei chyflwr meddyliol a chorfforol yn dirywio. Bu’n byw yn yr ysbyty am 6 mis, lle bu’n rhaid iddi gael ei bwydo drwy diwb, ac yn y pen draw, bu farw o bliwroniwmonia ym mis Gorffennaf 1875, gan adael ei gŵr a’i phlant ar ôl. Daethom o hyd i’r wybodaeth hon am Ann yn y nodiadau achosion a’r gorchmynion derbyn yng nghangen Rhuthun o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.

Gorchymyn derbyn Ann Owen, dyddiedig Ionawr 1872, yng nghangen Rhuthun (Cyf: HD/1/459)

 

Ailddarganfod Merched: Hanesion o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ionawr 11, 2021

Mae hanesion benywaidd ysbrydoledig o’n harchif wedi cael eu trosglwyddo o’r papur i’r sgrin fel rhan o brosiect a ariannwyd gyda Theatr Clwyd.

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, sy’n cynnwys archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, wedi ennill dyfarniad grant gan Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd gyda Theatr Clwyd i greu ffilmiau ar yr arddull monolog, sy’n ailadrodd hanesion cyffrous merched cryf ac ysbrydoledig yn ystod ddeunawfed, y bedwaredd ar bymtheg, a’r ugeinfed ganrif.

Mae’r hanesion yn seiliedig ar ferched go iawn a ganfuwyd yng nghasgliadau’r archif yn Rhuthun a Phenarlâg. Byddant yn canolbwyntio ar bedwar bywyd, gan gynnwys;

Cynhaliwyd y ffilmio yn ystod Wythnos Archwilio eich Archif, ymgyrch a drefnwyd gan Gymdeithas Archifau a Chofnodion y DU, a gefnogwyd yng Nghymru gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru.  Mae’r ymgyrch flynyddol hon sy’n para wythnos, yn annog pobl ar draws Cymru i ganfod rhywbeth newydd a chyffrous o fewn yr archifau cenedlaethol, boed hynny’n ymchwilio i hanes eich teulu neu ddarganfod straeon am y bobl a’r lleoedd sydd wrth galon cymunedau Cymru.

Dywedodd Sarah Roberts, archifydd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru: “Fel arfer, byddwn yn cynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd yn ystod yr adeg hon, ond rydym wedi gorfod meddwl yn fwy creadigol oherwydd cyfyngiadau presennol COVID, ynghylch sut y gallwn ddefnyddio a hyrwyddo ein casgliadau arbennig.”

“Mae wedi bod yn gyffrous i weithio gyda Theatr Clwyd ar rywbeth mor wahanol. Rydym yn edrych ymlaen at lansio’r straeon ar-lein dros yr wythnosau nesaf a diddanu pobl dros y cyfnod cloi. Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli storïwyr a gwneuthurwyr ffilm eraill i seilio eu gwaith ar gasgliadau archif lle bynnag y maent wedi’u lleoli.”

Dywedodd Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol yn y Theatr ‘Mae wedi bod yn hynod ddiddorol gweithio gyda’r archif ar y prosiect hwn. Mae wedi ein galluogi i ddod o hyd i straeon cudd o Ogledd Cymru. Rydyn ni’n gobeithio gweithio mwy mewn partneriaeth â’r archif i ddod â straeon yn fyw ac i rannu ein hanes unigryw gyda’r byd mewn ffordd greadigol. ’

Mae Eleri B. Jones, Cyfarwyddwr Merched a Ailddarganfuwyd a Chyfarwyddwr dan Hyfforddiant yn Theatr Clwyd hefyd wedi gwneud sylwadau “Mae ailddarganfod straeon y menywod hyn mewn partneriaeth ag Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru wedi bod yn agoriad llygad a phrofiad difyr dros ben. Yn rhy aml, mae straeon hanesyddol o’n hardaloedd gwledig, yn cael eu hanghofio neu eu gorchuddio, yn enwedig o ran menywod blaengar, bob dydd fel y rhai yn ein ffilmiau. Mae wedi bod yn fraint i ddychmygu bywyd o’u persbectif a rhoi llais i’r doethineb sy’n dal yn berthnasol heddiw”

Cadwch lygad am #MonologDyddLlun dros yr wythnosau nesaf ar sianel YouTube Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru ac ar ein blog yn ystod yr wythnosau nesaf i weld y straeon hyn yn dod yn fyw!