Heb Asid yw’r gyfres ddigidol a lansiodd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn ddiweddar sy’n edrych ar themâu a phrofiadau bywyd go iawn o’n casgliadau. Mae ein harchifwyr a’n gwesteion arbennig yn craffu’n fanylach ar y bobl a’r hanesion yn ein casgliadau ac yn dod â rhai o’r straeon anhygoel yn fyw. Mae ail bennod Heb Asid yn ymchwilio i’r Casgliad Beiblau Cymraeg sydd wedi dod i law yn ddiweddar.
Yn 2023, fe wnaeth Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gatalogio’r Casgliad Beiblau Cymraeg a dechrau datgelu rhywfaint o’r straeon sy’n gysylltiedig ag eitemau’r casgliad hwn. Dyma’r casgliad mwyaf o Feiblau Cymraeg y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae hefyd yn cynnwys cyfrolau hynod o brin, fel y cyfieithiadau cynharaf gan William Morgan, Testament Newydd William Salesbury o 1567 a’r Beibl roedd Mari Jones yn ei ddefnyddio cyn ei thaith enwog o 25 milltir i brynu ei chopi ei hun.
Yn ymuno â ni yn y bennod hon ar ein podlediad mae Hedd ap Emlyn a Bethan Hughes, sy’n trafod tarddiad y casgliad, y gwahanol ffyrdd y daeth y Beiblau amrywiol i law ac arwyddocâd y casgliad i Ogledd Ddwyrain Cymru. Mae trafodaeth Hedd a Bethan yn Gymraeg ond mae cyfieithiad o’r bennod ar gael ar ein gwefan. Gallwch wrando ar y bennod yma:
I gyd-fynd â phennod y podlediad, rydyn ni hefyd wedi creu stori ddigidol sy’n rhoi cipolwg o’r casgliad. Mae hon ar gael i’w gweld ar YouTube yma:
Diolch i bawb fu ynghlwm â recordio ac ymchwilio i’n cynnwys digidol diweddaraf, a diolch arbennig i Hedd ap Emlyn a Bethan Hughes. Bydd ein pennod nesaf yn canolbwyntio ar y ffatrïoedd Courtalds yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Cadwch lygad am gyhoeddiad ar ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol pan fydd hon ar gael.
Tagiau: cymraeg, cymru, wales, welsh, welsh-language
Mawrth 25, 2024 am 8:05 pm |
Braf iawn darllen yr erthygl yma a deall bod y casgliad beiblau o Gwasanaeth Llyfrgell Sir Clwyd yn eich gofal.
<
div>Ganwyd M