Posts Tagged ‘LHDTC+’

Llinell Amser LHDTC+ Gogledd Ddwyrain Cymru

Mawrth 8, 2024

Yn 2021, comisiynodd Llywodraeth Cymru hyfforddiant Iaith a Hanes LHDTC+ ar gyfer amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol i annog dathlu storïau lleol am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.  Roedd yr hyfforddiant yn cael ei arwain gan Norena Shopland, sy’n hanesydd ac awdur Cymraeg, ac yn arbenigo yn y maes ymchwil a hanes LHDTC+.

Un canlyniad i’r hyfforddiant Iaith a Hanes LHDTC+ yw llunio llinellau amser ar gyfer pob un o 22 sir Cymru. Yr ysgogiad tu ôl creu’r llinellau amser hyn yw annog gwell dealltwriaeth o brofiadau LHDTC+ hanesyddol a chyfoes  , ond hefyd darparu ffordd i bobl leol, cefnogwyr a digwyddiadau ddathlu yn hytrach  na dyblygu naratifau prif ffrwd ac enwogion.

Yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, rydym wedi treulio amser yn archwilio ein casgliadau ar gyfer straeon y gallwn eu hychwanegu i sylfaen o ddigwyddiadau allweddol o fewn hanes LHDTC+. Rydym wedi cynnig cyfeiriadau at ein casgliad Merched Llangollen (AGDdC Rhuthin, DD/LL), cofnodion sy’n ymwneud ag Emlyn Williams yng nghangen Penarlâg, deunyddiau o Gasgliad Ysbyty Gogledd Cymru, (AGDdC Rhuthun, HD/1) yn ogystal â chofnodion eraill o fewn ein casgliadau.

Oherwydd gormes gymdeithasol a chyfreithiol mae’n anodd dod o hyd i dystiolaeth o bobl LHDTC+ a’u hanesion yn ein harchifau, ac mae’r cyfeiriadau sydd ar gael yn aml iawn o natur negyddol, er enghraifft, tystiolaeth a geir o fewn cofnodion troseddol. 

Gobeithir y bydd unigolion a grwpiau LHDTC+ yn cyfrannu at y llinell amser, gan ystyried rhoi cofnodion i ni yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru fel bod graddau llawn profiad LHDTC+ yn yr ardal hon yn cael eu nodi o fewn ein casgliadau.

Mae’r llinell amser ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru (Sir y Fflint a Sir Ddinbych) i’w gweld ar ein gwefan, yma: https://www.agddc.cymru/beth-sydd-ar-lein/llinell-amser-lhdtc-gogledd-ddwyrain-cymru/. Rydym wedi creu fersiwn gryno hefyd, sydd ar gael i’w lawrlwytho.