Posts Tagged ‘Ysbyty Gogledd Cymru’

Y Cynlluniau ar gyfer Ysbyty Gogledd Cymru

Awst 7, 2018

O’r holl gofnodion yng nghasgliad Ysbyty Gogledd Cymru, nid oes unrhyw rai yn rhoi darlun gwell o ddatblygiad yr ysbyty na chyfres o dros 200 o gynlluniau. Fel rhan o’n prosiect Datgloi’r Seilam a ariennir gan Wellcome, mae’r rhain ar hyn o bryd yn cael eu catalogio a’u hail-becynnu.

Ehangwyd safle’r ysbyty sawl gwaith yn ystod ei oes, adeiladwyd eiddo newydd ac ailddatblygwyd y rhai oedd eisoes yn bodoli. Mae’r cynlluniau yn rhoi darlun clir o’r math o waith oedd yn digwydd. Mae amrywiaeth o fathau gwahanol o gynlluniau, yn cynnwys cynlluniau adeiladu, cynlluniau trydanol, cynlluniau draenio, cynlluniau cyflenwad dŵr, cynlluniau peirianneg, cynlluniau llawr a chynlluniau gardd.

Ym 1844, dechreuodd y gwaith o adeiladu’r ysbyty. Er nad oes unrhyw un o’r adeiladau gwreiddiol wedi goroesi, mae adroddiad gan y Pensaer Thomas Fulljames yn darparu cofnod ysgrifenedig o’i gynlluniau. Erbyn 1876, roedd yr ysbyty yn llawn, a phenderfynwyd adeiladu adain newydd i letya 130 o gleifion newydd. Mae un o’r cynlluniau cynharaf yn y casgliad sy’n dyddio yn ôl i Ionawr 1879, yn cynnwys dyluniad arfaethedig tu allan yr adeilad yn ystod y gwaith o ehangu llety’r cleifion.

Dyluniad ar gyfer cynyddu’r llety gan Bensaer R. Lloyd Williams, dyddiedig 1879.

Ar ôl i sawl estyniad llai brofi’n annigonol i ymdopi â’r niferoedd cynyddol o gleifion, dechreuwyd ar gynllun ailddatblygu ar raddfa fawr yn y 1890au. Roedd hyn yn cynnwys gwella draenio a glanweithdra, bloc lletya enfawr ar gyfer cleifion benywaidd, ceginau newydd, neuadd fwyta, a chyfleusterau glanhau newydd. Dengys un o’r cynlluniau ar gyfer yr ailddatblygiad hwn drefniant arfaethedig golchdy stêm, a oedd yn cynnwys ystafelloedd smwddio a glanhau ar wahân i staff a chleifion, a thŷ boeler cysylltiedig.

Cynllun o’r trefniant arfaethedig ar gyfer golchdy stêm gan W. Summerscales and Sons Limited Engineers, dyddiedig 1898.

Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer datblygiadau diweddarach i brif adeilad yr ysbyty ac eiddo eraill, yn cynnwys cynlluniau draenio a thrydanol ar gyfer ysbyty derbyn Gwynfryn yn y 1930au, a chynlluniau adeiladu a lluniau technegol o’r ysgol hyfforddi nyrsys, a adeiladwyd yn y 1960au.

Mae’r cynlluniau o fewn casgliad Ysbyty Gogledd Cymru yn unigryw ac yn adnodd pwysig. Nid yn unig y maent yn darparu hanes datblygu’r ysbyty, maent hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer hanes pensaernïol ac yn adnodd buddiol ar gyfer datblygiadau posibl y dyfodol ar gyfer adeilad a safle hen Ysbyty Gogledd Cymru.

I ddarganfod mwy am y gwaith yr ydym yn ei wneud i gadw ac ail-becynnu’r cynlluniau, gweler ein blogbost blaenorol ar Ddatgloi’r Seilam: Datgelu’r Archif yma.

 

Lindsey Sutton

Archifydd Prosiect (Datgloi’r Seilam)

Ysbyty Gogledd Cymru o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Gorffennaf 4, 2018

Mae 5 Gorffennaf yn nodi 70 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru a Lloegr. Lansiwyd y GIG yn 1948 a’i nod, fel y gosodwyd allan yn Neddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1946, oedd hyrwyddo ‘gwasanaeth iechyd cynhwysfawr wedi’i lunio i sicrhau gwellhad yn iechyd corfforol a meddyliol pobl Cymru a Lloegr ac atal, rhoi diagnosis a thrin salwch’.

Trwy sefydlu’r GIG gwelwyd newidiadau mawr mewn systemau gofal iechyd. Mae’r cofnodion a gadwyd yng nghasgliad Ysbyty Gogledd Cymru yn dogfennu’r broses o drosglwyddo’r ysbyty i’r GIG ac yn dangos yr effaith a gafodd y gwasanaeth newydd ar yr ysbyty.

Yr ysbyty o’r tu allan yn 1948, ffotograff gan Ronald Thompson.

Ar ôl ei agor yn 1848, roedd Ysbyty Gogledd Cymru yn cael ei reoli gan Bwyllgor Ymwelwyr sef cynrychiolwyr o bob un o’r pum sir a oedd yn ariannu’r ysbyty. Yn 1948 cafodd y Pwyllgor Ymwelwyr ei chwalu a chafodd y cyfrifoldeb dros reoli’r ysbysty ei drosglwyddo i Bwyllgor Rheoli Ysbyty a grëwyd o’r newydd gyda’r aelodau’n cael eu penodi gan Fwrdd Ysbytai Rhanbarthol Cymru.

Yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Ymwelwyr ar 21 Mehefin 1948, dywedodd y Cadeirydd Mr Alfred Hughes “gall y pwyllgor lawenhau yn y ffaith eu bod yn trosglwyddo ysbyty yr oeddent mor falch ohono – ysbyty a ddisgrifiwyd yr wythnos gynt fel un o’r gorau o’i fath gan y Gweinidog Iechyd”.

Etholwyd wyth o aelodau’r hen Bwyllgor Ymwelwyr i wasanaethu ar y pwyllgor newydd er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a chysondeb yn ystod cyfnod o newid. Yn ogystal ag Ysbyty Gogledd Cymru cafodd y Pwyllgor Rheoli Ysbyty newydd y cyfrifoldeb o reoli sefydliadau ‘Diffyg Meddyliol’ yng Nghoed Du, Brychdyn, Llwyn View yn Nolgellau, Fronfraith ac yn ddiweddarach Garth Angharad ac Oakwood Park.

Adroddiad blynyddol cyntaf Pwyllgor Rheoli newydd yr ysbyty, dyddiedig 1948 i 1949.

Trwy sefydlu’r GIG cafodd y cyfrifoldeb dros reoli’r ysbyty ei wneud yn ganolog. Er bod y Pwyllgor Rheoli Ysbyty newydd yn cael ymreolaeth i ryw raddau, roedd yn destun rheoliadau’r Gweinidog Iechyd a’r Bwrdd Ysbytai Rhanbarthol a byddai cyllidebau ariannol bellach yn cael eu pennu gan lywodraeth ganolog.

Am fwy o wybodaeth am hanes y GIG yng Nghymru, edrychwch ar:

http://www.wales.nhs.uk/nhswalesaboutus/historycontext

 

Lindsey Sutton

Archifydd y Prosiect (Datgloi’r Seilam)

Diweddariad Mynegai Cleifion Ysbyty Gogledd Cymru

Mai 22, 2018

Rydym yn falch o gyhoeddi diweddariad i’n mynegai cleifion ar-lein ar gyfer Ysbyty Gogledd Cymru.

Mae’r diweddariad yn cynnwys manylion dros 800 o gleifion preifat a dderbyniwyd i’r ysbyty rhwng 1849 ac 1914. Mae’r mynegai wedi ei greu gan ddefnyddio gorchmynion derbyn cleifion ac mae’n adeiladu ar y mynegai cleifion tlawd a ryddhawyd ar-lein yn 2015. Cafodd y gronfa ddata ei chreu gan waith caled ac ymrwymiad gwirfoddolwyr, a hoffem ddiolch yn fawr iawn iddynt am yr ychwanegiad hwn i’r adnodd ar-lein.

079DC6AF-EA00-4174-851B-8E07A619A89F

Enghraifft o un o orchmynion derbyn y cleifion preifat, tynnwyd y wybodaeth ar gyfer y mynegai oddi ar y gorchmynion.

Mae’r gronfa ddata yn cynnwys manylion rhif ac enw claf, dyddiad derbyn, oedran pan y’i derbyniwyd, dyddiad rhyddhau neu farwolaeth, swydd, ac enw tref. Yr oedd Undeb Deddf y Tlodion yn talu am arhosiad cleifion tlawd yn yr ysbyty, ond yn wahanol iddyn nhw, roedd cleifion preifat a’u teuluoedd yn talu am eu harhosiad eu hunain. Er nad oedd y driniaeth feddygol a roddwyd i gleifion preifat yn wahanol i’r driniaeth i gleifion tlawd, roedd rhai manteision i fod yn glaf preifat. Roedd bwydlen y cleifion preifat yr un fath â bwydlen y staff, ac yn aml roedd mwy o le yn wardiau ac ystafelloedd dydd y cleifion preifat, gyda rhai cleifion preifat yn cael eu hystafell eu hunain.

O’r 829 o orchmynion derbyn cleifion preifat mae 45 ar goll o’r gyfres hyd at fis Rhagfyr 1914 (5.42%).  Nid yw’n amlwg pam na chafodd y cofnodion hyn eu trosglwyddo gyda’r archifau; mae’n bosib bod rhai wedi eu colli neu mae’n bosib iddynt gael eu trosglwyddo gyda’r claf i ysbytai meddwl eraill ar draws y wlad.

Er y cymerwyd gofal i osgoi gwneud unrhyw gamgymeriadau, mae’n anorfod bod rhai camgymeriadau fel gwallau teipio neu drawsgrifio. Byddem yn argymell yn gryf y dylech edrych ar y cofnod gwreiddiol un ai drwy holi am gopi neu drwy ymweld â’n hystafell chwilio i gadarnhau bod y manylion yn gywir.

Gellir dod o hyd i’r mynegai, yn ogystal â chanllawiau pellach, ar wefan Archifau Sir Ddinbych.

Parlys Cyffredinol y Gorffwyll yn Ysbyty Gogledd Cymru

Ebrill 4, 2018

Ar 31 Awst 1917, cafodd Samuel Morris ei dderbyn i Ysbyty Gogledd Cymru. Roedd yn gyn-filwr a ryddhawyd o’r fyddin ar 9 Chwefror 1917 ar y sail nad oedd mwyach yn gorfforol gymwys i wasanaethu. Mae cofnodion yr ysbyty amdano’n dweud fod ganddo “no idea of time or place, incoherent speech, tremor of tongue, face and limbs” pan gafodd ei dderbyn. Bu farw ar 29 Ionawr 1918 yn 41 mlwydd oed, gan adael gwraig a phump o blant ar ei ôl.

Wrth gael ei dderbyn, cafodd Samuel ddiagnosis o barlys cyffredinol y gorffwyll (general paralysis of the insane), sef anhwylder niwroiseiciatrig sy’n achosi newidiadau dirywiol yn yr ymennydd. Erbyn 1917, roedd yn hysbys bod y math hwn o barlys yn deillio o siffilis heb ei drin a’i fod fel arfer yn digwydd o fewn deng mlynedd i’r haint siffilis yn y lle cyntaf. Mae cofnodion Samuel o’r fyddin yn dangos ei fod wedi’i ddiagnosio â siffilis yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu yn Ne Affrica.

Bu cynnydd yn nifer y cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty gyda pharlys cyffredinol y gorffwyll yn y degawd ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf gan fod y dynion yn dal siffilis yn ystod eu gwasanaeth milwrol. Yn ei adroddiad ym 1928, dywedodd Frank G. Jones, yr Uwch-arolygydd Meddygol:

“Cases of general paralysis is being now definitely regarded as due to venereal disease and also that it sets about 10 years after primary infection and it is now ten years since the war ceased, it is of course natural that we can now expect the annual increase to abate and hope that the figures become less again”.

Ni fu cymaint o gynnydd yn y niferoedd a dderbyniwyd gyda pharlys cyffredinol y gorffwyll i Ysbyty Gogledd Cymru o gymharu â rhai ysbytai, gan fod poblogaeth yr ardal yn gymharol ddisymud. Yn wir, roedd y broblem yn llawer gwaeth mewn dinasoedd, yn enwedig mewn rhai â phorthladdoedd. Fodd bynnag, mae adroddiad blynyddol yr Uwch-arolygydd Meddygol o 1931 yn dal i ddangos y cynnydd a fu yn niferoedd y rhai a dderbyniwyd gyda’r parlys yn y ddeng mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel, cyn gostwng eto ar ôl 1928.

 


Nifer yr achosion o barlys cyffredinol y gorffwyll a dderbyniwyd
1924 3
1925 3
1926 6
1927 8
1928 12
1929 7
1930 8
1931 2

 

Roedd dulliau o drin y clefyd yn cael eu datblygu yn y 1910au ac ym 1922, Ysbyty Meddwl Whittingham yn Swydd Gaerhirfryn oedd y cyntaf ym Mhrydain i drin cleifion gan ddefnyddio therapi malarïaidd a oedd yn cynnwys heintio’r cleifion â malaria i achosi clefyd gwres, a oedd yn aml yn atal parlys cyffredinol y gorffwyll rhag datblygu. Gan fod diffyg cyfleusterau ar gyfer y math hwn o driniaeth yn Ysbyty Gogledd Cymru, roedd cleifion yn cael eu hanfon i Ysbyty Meddwl Caer o 1926 ymlaen.

“On January 19th1926, I transferred a male patient to Chester Mental Hospital. He received inoculations, and has been discharged recovered to his home. It is my opinion that in early and suitable cases of G.P.I. the disease can be arrested by this malarial treatment”.

Ymhen amser, cyflwynwyd dulliau newydd o drin yr anhwylder, gan gynnwys pigiadau sylffwr y gellid eu rhoi yn Ysbyty Gogledd Cymru. Yn y 1940au, roedd dyfodiad penisilin i bob pwrpas yn ddiwedd ar y problemau a oedd yn gysylltiedig â siffilis ac fe ostyngodd niferoedd y rhai a dderbyniwyd i ysbytai meddwl gyda pharlys cyffredinol y gorffwyll yn sylweddol.

 

Lindsey Sutton

Archifydd y Prosiect (Datgloi’r Seilam)

Mae cofnod Samuel Morris o’r fyddin yn cael ei gadw yn yr Archifau Gwladol, cyfeirnod WO 363, a gallwch eu gweld ar https://www.findmypast.co.uk/.

Mynegai cleifion Ysbyty Gogledd Cymru

Ionawr 30, 2015

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod gennym bellach mynegai cleifion ar-lein ar gyfer Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych (1848-1914) sy’n golygu, am y tro cyntaf, gall ymchwilwyr chwilio’r casgliad yn ôl enw’r claf.

Ysbytu Gogledd Cymru

HD/1/422 – Argraff pensaer o Ysbytu Gogledd Cymru, 1847

Mae’r mynegai wedi ei creu gan ddefnyddio’r gorchmynion derbyn cleifion sydd wedi goroesi ar gyfer cleifion tlodion. Rydym yn gobeithio cael mynegai tebyg ar gael ar gyfer cleifion preifat yn fuan.

Nod y prosiect hwn oedd creu mynegai cleifion yn nhrefn yr wyddor ar gyfer Ysbyty Gogledd Cymru (Seilam Dinbych) i alluogi ymchwilwyr i chwilio am gleifion ar-lein. Mae gorchmynion derbyn wedi eu bwndelu mewn trefn gronolegol ac nid ydym erioed wedi gallu chwilio’r casgliad yn ôl enw o’r blaen. Mae’r gronfa ddata hon yn awr yn ein galluogi i chwilio cofnodion sydd wedi goroesi ar gyfer cleifion a dderbyniwyd rhwng 1848 a 1914 yn ôl enw a chanfod yn hawdd os oedd claf wedi’i dderbyn i’r ysbyty droeon.

Mae’r mynegai cleifion ar gyfer Ysbyty Gogledd Cymru wedi ei cwblhau, diolch i waith gwirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi rhestru’r gorchmynion derbyn cleifion rhwng 1848 a 1914. Mae’r prosiect hwn wedi cymryd dwy flynedd i’w gwblhau (2013-2014) ac mae wedi cynnwys dros 15 o wirfoddolwyr yn edrych ar dros 8,000 o gofnodion i greu cronfa ddata o wybodaeth sylfaenol sy’n cynnwys enw’r claf, dyddiad derbyn, oedran wrth gael eu derbyn, dyddiad rhyddhau neu farwolaeth, galwedigaeth ac undeb (h.y. yr undeb a oedd yn talu am eu triniaeth) neu gyfeiriad yn achos cleifion preifat. Mae’r gorchymyn derbyn yn cynnwys llawer mwy o wybodaeth am y claf nad oedd o fewn cwmpas y prosiect hwn yn cynnwys y sylwadau a wnaed gan ymarferydd meddygol ac yn aml arsylwadau gan aelod o’r teulu.

Oherwydd rheolau’r GIG, mae cofnodion ysbyty ar gau i’r cyhoedd eu harchwilio am 100 mlynedd. Rydym yn bwriadu ychwanegu at y gronfa ddata yn flynyddol wrth i gofnodion ddod ar gael.

Hepgoriadau a bylchau yn y cofnodion

Rydym yn ymwybodol bod rhai gorchmynion derbyn ar goll cyn i’r prosiect ddechrau a gallaf gadarnhau bod 228 o 8,373 o gofnodion ar goll o’r gyfres hyd at fis Rhagfyr 1914 (2.72%). Nid yw’n glir pam na chafodd y cofnodion hyn eu trosglwyddo i’r archifau; gall rhai yn syml, fod wedi eu colli neu efallai fod y gwaith papur wedi ei drosglwyddo gyda’r claf i seilamau eraill ar draws y wlad.

Efallai nad yw rhywfaint o wybodaeth ar gael yn y daenlen am nifer o resymau-

• Efallai nad yw’r gorchymyn derbyn gwreiddiol yn cynnwys y wybodaeth am nad oedd yn hysbys ar yr adeg y cafodd ei gwblhau. Er enghraifft, efallai nad oedd y claf ei hun yn gwybod ei union oedran, neu efallai fod sillafiad enw anarferol wedi bod yn aneglur.

• Efallai fod y gorchymyn derbyn gwreiddiol yn annarllenadwy. Er enghraifft, mewn rhai achosion, mae’n anodd gwahaniaethu rhwng rhif 3 a 5.

Er bod gofal wedi ei gymryd i osgoi unrhyw gamgymeriadau, mae’n anochel y bydd rhai camgymeriadau o bosibl fel gwallau teipio neu drawsgrifio. Byddem yn argymell yn gryf eich bod yn edrych ar y cofnod gwreiddiol naill ai drwy ofyn am gopi neu ymweld â’n hystafell chwilio i gadarnhau bod yr holl fanylion yn gywir.

Gellir chwilio’r mynegai a gwybod mwy yma

Sir Ddinbych yn ystod Y Rhyfel Mawr

Awst 6, 2014

Yma yn Sir Ddinbych, fel llawer o swyddfeydd cofnodion lleol eraill, ychydig iawn o gofnodion milwrol sydd gennym. Ond, mae gennym nifer o gofnodion sy’n datgelu bywydau’r rhai a adawyd ar ôl. Ysgrifennwyd y darn hwn ar gyfer Daily Post Gogledd Cymru ym mis Mai 2014 gan ddefnyddio ein casgliadau-

Poster propaganda- DD/G/1210

Poster propaganda- DD/G/1210

Rhagwelwyd y byddai’r Rhyfel Byd Cyntaf yn rhyfel byr a rhagwelwyd y byddai wedi gorffen erbyn Nadolig 1914. Mewn gwirionedd, bu i’r rhyfel bara pedair blynedd, gan gael effaith enfawr ar bobl Prydain – y rheiny oedd yn gwasanaethu a’r rhai oedd gartref. Mewn rhyfeloedd blaenorol, roedd sifiliaid i raddau helaeth heb eu cyffwrdd gan ryfel, ond yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cawsant eu heffeithio fwy nag y gallai unrhyw un fod wedi’i ragweld.

Roedd Sir Ddinbych yn 1914 yn sylweddol fwy nag y mae heddiw. Cyn ffurfio Clwyd yn 1974, roedd Sir Ddinbych yn cynnwys yr hyn a elwir bellach yn Wrecsam a chyfran fawr o Gonwy. Gyda llawer o ddynion Sir Ddinbych i ffwrdd yn y rhyfel, roedd y boblogaeth yn cael trafferth ymdopi â bywyd bob dydd. Gadawyd teuluoedd heb gefnogaeth eu gwyr a’u meibion ​​ac mae papurau pwyllgor pensiwn rhyfel Sir Ddinbych yn aml yn datgelu straeon trasig o fywydau’r rhai oedd ar ôl.

Ceisiodd merched a theuluoedd gael cymorth ariannol gan ‘Gronfa Dibynyddion y Milwyr’ i dalu costau byw gan gynnwys taliadau rhent, dillad, bwyd a chostau gofal iechyd. Mae Papurau Pwyllgor Pensiwn Rhyfel yn darparu tystiolaeth o wragedd mewn ôl-ddyledion gyda thaliadau rhent ac mewn rhai achosion, dyledion eu gwŷr. Wrth apelio am ostyngiad yn y cyfraddau, dywedodd J. Porter o Fae Colwyn a oedd yn gwasanaethu ar y pwyllgor “mae’n ymddangos yn eithaf amhosibl i’r merched hyn ddarparu ar gyfer eu teuluoedd a thalu’r gofyniad trethi”. Roedd achosion o famau yn marw tra roedd eu gwŷr dramor, ac felly yn gadael plant i aelodau o’r teulu ofalu amdanynt, neu roedd rhaid iddynt fynd i’r tloty lleol. Wedi i wŷr a thadau ddychwelyd yn dilyn anaf parhaodd nifer o deuluoedd i’w chael yn anodd oherwydd na allai’r dynion ddychwelyd i’r gwaith.

Aeth rhai merched i’r gwaith am y tro cyntaf er mwyn ymdopi’n ariannol ac anogwyd eraill i gymryd lletywyr i helpu i dalu eu costau. Cyn dechrau’r rhyfel, roedd yn rhaid i ferched adael eu gwaith ar ôl priodi a’u rôl naturiol oedd yn y cartref. Amcangyfrifir bod o leiaf un miliwn o ferched wedi ymuno â gweithlu Prydain rhwng 1914 a 1918 ac wedi cael cyfle i weithio mewn meysydd fel trafnidiaeth, amaethyddiaeth, bancio a’r gwasanaeth sifil. Dim ots a oedd hyn oherwydd anghenraid i ddarparu ar gyfer eu teuluoedd neu’n gyfle i gael mwy o annibyniaeth, roedd yn newid enfawr i fywydau cartref Prydain.

Nid goblygiadau ariannol oedd unig effaith y gwahanu ar y rhai oedd gartref. Roedd rhaid i deuluoedd milwyr hefyd ymdrin â’r cythrwfl emosiynol o gael eu gwahanu oddi wrth eu hanwyliaid. Mae pobl yn tueddu i fod yn gyfarwydd â’r anhwylder pryder sef anhwylder straen ôl-drawmatig neu “shell shock” a arweiniodd at nifer yn dychwelyd o’r rheng flaen yn arddangos symptomau o salwch meddwl. Ond, prin y mae’r modd yr effeithiodd y rhyfel ar gyflwr meddyliol y rhai oedd gartref yn cael ei ystyried. Yn ôl adroddiadau blynyddol Ysbyty Gogledd Cymru (Ysbyty Dinbych), erbyn 1916 roedd tri deg o bobl wedi cael eu derbyn i’r ysbyty ers ddechrau’r rhyfel oherwydd y rhyfel, a’r rheiny heb wasanaethu yn uniongyrchol.

Roedd merched yn cael eu targedu gan bropaganda i annog eu cariadon, gwŷr a meibion ​​i ymrestru ac mae cofnodion o wragedd a mamau yn cael eu derbyn i Ysbyty Dinbych oherwydd galar a phoeni am deulu coll neu farw. Roedd rhai o’r achosion tybiedig o wallgofrwydd a nodwyd mewn cofnodion cleifion newydd yn yr ysbyty yn cynnwys “colli brawd yn y rhyfel” a “phoeni am fab sy’n gwasanaethu”. Gallwn weld o’r cofnodion hyn bod y pryder a’r straen a ddioddefwyd gan y rhai gartref yn ganlyniad arall o ryfel sydd, efallai, heb gael sylw yn y gorffennol. Roedd cyfanswm y nifer o achosion sy’n cydnabod rhyfel fel achos gwallgofrwydd wedi codi i 148 erbyn 1919, gan gynnwys cleifion milwrol a sifil.

Roedd ysbytai fel Ysbyty Gogledd Cymru hefyd yn delio â cholli nifer o staff gwrywaidd wrth iddynt adael ar gyfer gwasanaeth yn y rhyfel. Yn adroddiad blynyddol yr ysbyty yn 1914-1915, nodwyd bod 19 o staff gwrywaidd (dros 20%) yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog a bod hyn yn dylanwadu ar drefniadau gweinyddol ac ariannol y sefydliad. O ganlyniad, galwyd ar nifer o staff oedd wedi ymddeol i wneud gwaith dros dro. Cododd hyn i 33 aelod o staff erbyn 1915/16.

Adroddiad Blynyddol, Ysbyty Gogledd Cymru- HD/1/8

Adroddiad Blynyddol, Ysbyty Gogledd Cymru- HD/1/8

Mae archifau yn hynod bwysig ar gyfer ymchwil i’r Rhyfel Byd Cyntaf a heb y cofnodion sydd wedi goroesi, byddai ein gwybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod 1914-1918 yn gyfyngedig iawn. Mae pob un o’r archifau a ddefnyddiwyd yn yr erthygl hon ar gael i’w gweld, am ddim, yn Archifdy Sir Ddinbych yn Rhuthun. Mae archifau yn llawn o eitemau diddorol y gallwch chi eu darllen, eu cyffwrdd neu eu harchwilio. Ac nid yw’r rhan fwyaf ar gael ar Google.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein casgliadau, chwiliwch yn ein mynegai o dan y pwnc “rhyfel”.

Os oes gennych ddiddordeb mewn edrych ar gofnodion ar gyfer y rhai a fu’n gwasanaethu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf neu’r Ail Ryfel Byd, mae gwefan yr Archifau Cenedlaethol yn lle da i ddechrau.

 

 

 

Darlith Gyhoeddus – Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych

Medi 19, 2013

Dydd Iau 17 Hydref 2013, 6pm-7.30pm

Mae Staff Archifdy Sir Ddinbych yn cynnal noson o sgyrsiau ar hanes Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych. Mae’r prif gasgliad o gofnodion yr ysbyty ar gael a chadw yn y swyddfa gofnodion yng Ngharchar Rhuthun. Mae’r casgliad yma ymhlith y casgliadau gorau yn y wlad o gofnodion gwallgofdai o’r bedwaredd ganrif a’r pymtheg a’r ugeinfed ganrif. Maen nhw’n adlewyrchu’r newidiadau a’r datblygiadau o ran triniaethau ac agweddau tuag at salwch meddwl.

Bydd Dr Pamela Michael, Darlithydd Astudiaethau Iechyd a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, yn siarad am hanes yr ysbyty gan ganolbwyntio ar rôl merched – yn staff ac yn gleifion. Ei meysydd diddordeb ydi hanes merched Cymru, hanes polisi cymdeithasol ac iechyd a salwch meddwl yng Nghymru. Yn 2003 cyhoeddodd astudiaeth ar ofal a thriniaeth pobl â salwch meddyliol yng ngogledd Cymru – Care and Treatment of the Mentally Ill in North Wales, 1800-2000 (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2003).

Bydd Clwyd Wynne, a fu’n gweithio yn yr ysbyty am ddeng mlynedd ar hugain, yn sgwrsio am ei fywyd fel aelod o staff ac am waith Cymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru o ran rhoi atgofion cyn-aelodau o staff a chleifion yr ysbyty ar gof a chadw.

Bydd Jane Brunning, yr Uwch Archifydd, yn rhoi trosolwg o’r cofnodion sydd yn yr archifdy – bydd rhai ohonyn nhw wedi eu harddangos ar y noson.

Archifau Sir Ddinbych, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1HP

Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly ffoniwch neu e-bostiwch rŵan i archebu’ch lle. (01824 708250 neu archifau@sirddinbych.gov.uk)