Posts Tagged ‘Archifau Sir Ddinbych’

Prosiect ‘Datgloi’r Seilam’- Ffeiliau Cleifion

Mawrth 18, 2019

Fel Swyddog Cymorth Prosiect ‘Datgloi’r Seilam’, mae rhan fawr o fy ngwaith yn ymwneud â rhestru ac ail-becynnu tua 23,000 o ffeiliau cleifion. Mae’r ffeiliau hyn yn cychwyn ym 1948 (pan ffurfiwyd y GIG), ac yn parhau hyd at gau Ysbyty Gogledd Cymru ym 1995.

Ailbecynnu

Cyn y gellir ailbecynnu ffeil claf, rhaid tynnu pob teclyn cau metel (tagiau cysylltu, pinnau, styffylau, clipiau papur, bandiau lastig ac ati), a gosod clipiau papur pres a thagiau cysylltu plastig yn eu lle. Gall teclynnau cau metel achosi difrod na ellir ei drwsio i’r ffeiliau, a bydd eu tynnu’n atal difrod yn y dyfodol. Cedwir y ffeil yn ei threfn wreiddiol ond, yn dibynnu ar hyd yr arhosiad a’r driniaeth a gafodd y claf, gall y ffeil fod mor fychan ag un ddalen o bapur neu lenwi 2 focs. Caiff pob ffeil unigol ei hailbecynnu mewn ffolderi archifol, ei chlymu a’i storio’n ddiogel mewn bocsys archifo.

Rhestru

Caiff y wybodaeth a geir o’r ffeiliau ei rhestru ar gronfa ddata, gan roi manylion rhif y claf, enw’r claf, dyddiad geni, a dyddiadau derbyn a rhyddhau/marwolaeth. Rhestrir hefyd y diagnosis (os oes yna un), ynghyd ag unrhyw fanylion ychwanegol fel y driniaeth a roddwyd, gwybodaeth claf allanol, nodiadau gwaith cymdeithasol seiciatrig, nifer y derbyniadau, gwybodaeth atgyfeirio, nodiadau/barddoniaeth/brasluniau a wnaed gan y claf ac adroddiadau seiciatrig ar gyfer achosion llys.

Mae angen JavaScript ar y sioe sleidiau hon.

Wrth i feddygaeth ddatblygu’n gyflym yn ystod canol yr 20fed Ganrif, cyfeirir at amrywiaeth eang o driniaethau o fewn y ffeiliau; er enghraifft, ceir cofnodion o driniaeth Coma Inswlin, Therapi Electrogynhyrfol, Lewcotomi, triniaeth Malaria, Therapi Atgasedd, Seicotherapi a’r defnydd o Wrth-iselyddion cynnar megis Largactil a Tofranil.

Yn Adroddiadau Blynyddol cyntaf yr ysbyty (1850-1860), dim ond pump ‘math o afiechyd ym mhob achos a dderbynnir’ a restrir, sef gwallgofrwydd, epilepsi, dementia, iselder ac ynfydrwydd. Mewn cymhariaeth, mae’r gronfa ddata (hyd yma) yn cynnwys dros 800 diagnosis gwahanol, yn amrywio o alcoholiaeth dwys i enseffalopathi Wernicke. Mae diagnosis cleifion hirdymor hefyd yn datblygu; ceir un enghraifft o glaf a dderbyniwyd ym 1949 gyda seicosis iselder gorffwyll, a ryddhawyd o’r ysbyty 45 mlynedd yn ddiweddarach ym 1994 gyda diagnosis o Anhwylder Deubegynol.

Caeadau metel wedi'u tynnu o ffeiliau cleifion yn ystod mis Chwefror 2019

Caeadau metel wedi’u tynnu o ffeiliau cleifion yn ystod mis Chwefror 2019

Y driniaeth fwyaf cyffredin a ddefnyddiwyd amlaf rhwng y 1950au a’r 1970au oedd ECT (therapi electrogynhyrfol), ond roedd ei enw drwg yn gwneud i nifer o bobl ei ystyried yn fwy o gosb nag o driniaeth. Er hyn, mae’n amlwg o restru ffeiliau’r cleifion bod ECT yn dal i gael ei ddefnyddio yn yr ysbyty hyd ei gau ym 1995. Mae ECT mewn gwirionedd yn therapi a ddefnyddir hyd heddiw, gyda seiciatryddion a chleifion yn ei ystyried yn driniaeth ddiogel ac effeithiol ar gyfer iselder difrifol ac anhwylder deubegynol. Mae’r dull presennol, a elwir yn ECT wedi’i addasu yn defnyddio ymlacwyr cyhyrol er mwyn osgoi peryglon corfforol cael trawiad (seizure), ac yn cael ei gynnal dan anesthetig i osgoi’r boen a geir o’r trydan.

O ganlyniad i Ddeddf Erthylu 1968, mae cynnydd amlwg i’w weld yn nifer y ffeiliau cleifion sy’n cynnwys atgyfeiriad am asesiadau seiciatrig ar ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au. Roedd bellach yn bosib cael erthyliad dan y GIG os oedd seiciatrydd yn barod i lofnodi argymhelliad oedd yn nodi y gallai mynd ymlaen â’r beichiogrwydd niweidio iechyd meddwl y claf.

Hefyd yn ystod y cyfnod hwn, roedd gofyn i Seiciatryddion gynhyrchu adroddiadau ar gyfer y system gyfiawnder, gan ymateb i geisiadau swyddogion prawf a swyddogion cyfreithiol am dystiolaeth ar gyfer adroddiadau llys. Nid ar gyfer achosion troseddol yn unig yr oedd angen adroddiadau seiciatrig, ond ar gyfer trafodion ysgaru, ceisiadau’r Llys Gwarchod a hawliadau o ganlyniad i anafiadau diwydiannol a gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, gan fod y diwydiant digolledu wedi’i sefydlu ac yn ehangu’n gyflym.

Mae angen JavaScript ar y sioe sleidiau hon.

O’r 22,800 o ffeiliau a restrir, roedd 8,015 yn gleifion allanol neu’n cyfeirio at gleifion allanol wrth iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty. Bu i waith y clinigau cleifion allanol ehangu’n gyflym yn y blynyddoedd yn syth ar ôl y rhyfel. Ym 1947, dywedodd yr uwch-arolygydd meddygol ei fod yn ystyried mai’r clinigau cleifion allanol oedd y gwasanaeth mwyaf hanfodol yr oedd yr ysbyty’n ei ddarparu. Erbyn diwedd y 1950au, roedd yr ysbyty’n cynnal sesiynau cleifion allanol yn y Rhyl, Bangor, Wrecsam a Dolgellau. Roedd nifer o’r ffeiliau’n cynnwys nodiadau gan y gweithiwr cymdeithasol seiciatrig oedd yn cefnogi’r clinigau cleifion allanol drwy dreulio amser yn ymchwilio i amgylchedd cartref y cleifion. Roedd yn amlwg bod gan y gweithiwr cymdeithasol rôl werthfawr i’w chwarae yn ôl-ofal y claf, yn sicrhau eu bod yn dychwelyd at fywyd teulu, gwaith a chymunedol yn ddi-drafferth.

Gwelir anterth sydyn yn amlwg iawn yn ystod diwedd y 70au a dechrau’r 80au yn y niferoedd oedd yn cael eu derbyn oherwydd dibyniaeth ar gyffuriau ac alcoholiaeth. Cafodd derbyn mwyfwy o gleifion gyda phroblemau cysylltiedig â cyffuriau oblygiadau ar reolaeth yr ysbyty. Roedd anghenion y cleifion hyn yn wahanol iawn, gyda rhai ohonynt, rhai eithaf ifanc fel arfer, yn gallu ymddwyn yn aflonyddol, yn enwedig o ran arferion oedd eisoes wedi’u sefydlu ar y wardiau. Erbyn diwedd yr 80au, roedd y galw am adsefydlu mor uchel fel bod yr ysbyty wedi sefydlu ei uned cyffuriau ac alcohol ei hun i drin ac adsefydlu cleifion oedd yn ddibynnol arnynt.

Mae’r ffeiliau hyn yn amlwg yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth, ac mae llawer mwy i’w ddarganfod mewn perthynas â datblygiadau meddygol a thueddiadau cymdeithasol yng nghanol a diwedd yr 20fed ganrif. Oherwydd rheoliadau’r GIG, ni fydd cofnodion cleifion sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif ar gael i’r cyhoedd am 100 mlynedd. Efallai y bydd y cofnodion hyn ar gael i ymchwilwyr sy’n perthyn i sefydliad academaidd ar gais. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio casgliad Ysbyty Gogledd Cymru ar gyfer gwaith ymchwil academaidd, cysylltwch â ni.

Rhian Evans- Swyddog Cefnogi Prosiect ‘Datgloi’r Seilam’

Mae ein prosiect dwy flynedd o’r enw ‘Datgloi’r Seilam’ bellach wedi dod i ben. Ariannwyd gan ‘Wellcome‘ roedd y prosiect i gatalogio cofnodion cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych. Ewch i’n canllaw pwnciau am ragor o wybodaeth yn ymwneud ag Ysbyty Gogledd Cymru.

Gŵyl Gerdded Corwen

Awst 24, 2018

Bydd Gŵyl Gerdded Corwen yn dychwelyd dros benwythnos cyntaf mis Medi. Mae’r digwyddiad poblogaidd hwn yn rhoi cyfle i gerddwyr grwydro pen deheuol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae teithiau cerdded wedi’u trefnu o amgylch y dref, ar hyd yr Afon Dyfrdwy ac i fyny i bwyntiau uchaf y Berwyn. Bydd cyfle hefyd i wella eich sgiliau canfod ffordd, a bydd darlith ar ‘Sgiliau Cwmpas a Map a Chanfod Ffordd Sylfaenol’ ar y nos Sadwrn.

Mae Sir Ddinbych yn lwcus iawn i fod â llawer o ardaloedd perffaith i gerdded. Yn ogystal â Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, mae Coedwig Clocaenog a Mynydd Hiraethog hefyd yn Sir Ddinbych. I’r rheiny sy’n mwynhau mynd i rannau mwy gwyllt yn y sir, efallai y bydd o ddiddordeb i chi bod gan Archifau Sir Ddinbych lawer o bethau fyddai’n gallu cyfoethogi profiad cerdded.

Mae ein mapiau hanesyddol o’r sir yn arbennig o ddefnyddiol oherwydd eu bod yn darparu ffenestr i’r gorffennol. Gallant roi’r cyfle i chi weld a oedd lle neu nodwedd benodol o’r dirwedd yn bodoli ar ddyddiad penodol, a chaniatáu i chi gyferbynnu’r olygfa bresennol â sut yr edrychai yn y gorffennol.

 

Map AO argraffiad cyntaf, Llandyrnog

Y gyfres hynaf o fapiau a gedwir yn Archifau Sir Ddinbych yw’r Mapiau Degwm, sy’n cynrychioli un o’r arolygon mapio systematig, ar raddfa fawr cyntaf yn Lloegr a Chymru. Fe’u cynhyrchwyd rhwng 1838 a 1850 o ganlyniad uniongyrchol i Ddeddf Cymudo’r Degwm 1836, a ddisodlodd y system hynafol o dalu mewn nwyddau â thaliad ariannol. Ynghyd â’r dosbarthiad, sy’n atodiad ysgrifenedig i’r map, maent yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth gan gynnwys manylion yn ymwneud â pherchennog tir, tenantiaid, eiddo neu enwau caeau, aceri o dir a defnydd tir. Caiff bob map ei rannu fesul plwyf. Mapiau Arolwg Ordnans yw cydymaith ffyddlon selogion yr awyr agored yn y wlad hon erbyn hyn. Yma yn yr archifdy, mae gennym y 3 argraffiad cyntaf o Gyfres y Sir, a gynhyrchwyd rhwng y 1870au hwyr a’r 1920au. Mae rhain ar gael ar gais yn yr ystafell chwilio.

Yn ogystal â’n mapiau hanesyddol, mae gennym hefyd sawl llyfr cyhoeddedig ar y silffoedd yn ein hystafell chwilio, sydd hefyd yn gallu darparu gwybodaeth ddefnyddiol i gerddwyr. Yn arbennig, ‘The Drovers’ Roads of Wales’, gan Fay Godwin a Shirley Toulson. Am gannoedd o flynyddoedd cyn cyflwyno’r rheilffyrdd, roedd porthmyn yn gwneud bywoliaeth drwy gerdded gwartheg, defaid, moch a gwyddau o gadarnleoedd cefn gwlad Cymru i farchnadoedd mawr Lloegr. Mae’r llyfr hynod ddiddorol hwn yn ganllaw modern i’r llwybrau hanesyddol hyn, ac yn darparu mapiau a disgrifiadau manwl, gan eich galluogi i gerdded yn olion traed y werin bobl wydn hyn.

Roedd dau lwybr yn pasio drwy Sir Ddinbych. Roedd un llwybr tua’r gogledd yn anelu at Wrecsam a Chaer yn pasio drwy Ruthun, Llanarmon-Yn-Iâl a Llandegla. Roedd y llwybr arall yn teithio drwy ran ddeheuol y sir, yn mynd i mewn i Gorwen o’r Bala, a thrwy Fynyddoedd y Berwyn tua Llangollen.

Mae Shirley Toulson yn amlygu pwysigrwydd Corwen i’r Porthmyn, gan nodi mai dyma’r pwynt lle’r oedd llawer o lwybrau gogleddol y porthmyn yn cyfarfod wrth iddynt deithio tua’r dwyrain. Roedd y dref hefyd yn strategol bwysig i lwybr hanesyddol yr A5 o Lundain i Ddulyn, a oedd yn mynd drwy’r dref ar ei ffordd i Gaergybi. Mae tystiolaeth o hyn mewn Cyfeirlyfrau Masnach amrywiol sydd ar gael yn ein hystafell chwilio. Mae’r cofnodion Ffyrdd Tollborth (QSD/DT) sydd wedi’u cynnwys o fewn ein cofnodion Llysoedd Chwarter, yn dangos datblygiad y ffordd hon a llawer o ffyrdd eraill.

 

Datgloi’r Seilam – Lansio’r Catalog

Chwefror 7, 2018

O ganlyniad i’n prosiect Datgloi’r Seilam, sydd wedi ei ariannu gan Wellcome, rydym yn falch o gyhoeddi lansiad catalog dros dro ar gyfer rhan gyntaf casgliad Ysbyty Gogledd Cymru. Mae’r catalog dros dro hwn yn disodli’r rhestr bapur flaenorol. Yn y catalog, sy’n cynnwys dros 500 o eitemau, mae gwell disgrifiadau o’r eitemau a hefyd strwythur newydd a fydd yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr ganfod cofnodion sy’n berthnasol i’w hymchwil. Gellir canfod y catalog dros dro yma (Cliciwch ar Edrych yn ôl Hierarchaeth i agor rhestr y catalog).

Catalog arlein Ysbyty Gogledd Cymru

Mae’r casgliad yn cynnwys cofnodion rheoli fel cofnodion ac adroddiadau blynyddol, cofnodion adeiladu gan gynnwys rhai sy’n ymwneud â sefydlu’r ysbyty, cofnodion ariannol gan gynnwys cyfrifon a chofnodion cleifion gan gynnwys pryd yr aethant i’r ysbyty a phryd y cawsant eu rhyddhau. Hefyd llyfrau achosion, cofnodion staff gan gynnwys llyfrau cyflogau a deunyddiau eraill gan gynnwys lluniau a deunydd wedi ei dorri o bapurau newydd.

Nodwch os gwelwch yn dda fod cofnodion cleifion a staff sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif ar gau am rhwng 75 a 100 mlynedd o ganlyniad i reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae gwaith ar y gweill nawr i gatalogio ac ail-becynnu gweddill y casgliad, a bydd fersiwn derfynol y catalog a fydd yn cynnwys y cofnodion sydd wedi eu derbyn yn ddiweddarach, ar gael erbyn diwedd y prosiect yn 2019. Yn ychwanegol at hyn mae Swyddog Cymorth y Prosiect yn gweithio’n galed i ail-becynnu a gosod y gyfres ddiweddarach o ffeiliau’r claf mewn mynegai ac mae 2,100 eisoes wedi eu cwblhau.

Byddwn yn parhau i bostio diweddariadau rheolaidd ynglŷn â chynnydd y prosiect a manylion digwyddiadau ar ein blog a’n tudalennau Facebook.

Mae ein prosiect dwy flynedd o’r enw ‘Datgloi’r Seilam’ bellach wedi dod i ben. Ariannwyd gan ‘Wellcome‘ roedd y prosiect i gatalogio cofnodion cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych. Ewch i’n canllaw pwnciau am ragor o wybodaeth yn ymwneud ag Ysbyty Gogledd Cymru.

Digwyddiadau yn Archifau Sir Ddinbych

Medi 26, 2012

Rydyn ni wedi cynnal sesiynau rhagarweiniol yn ddiweddar ar balaeograffeg, deall hen weithredoedd eiddo a hanes teuluol.  Cafwyd cynulliad da yn y sesiynau hyn ac roedd yr adborth a’r sylwadau a dderbyniwyd yn wirioneddol bositif.  Dyma beth oedd rhai o’n cyfranogwyr yn meddwl-

‘An excellent insight into a facinating subject. More please!’ (Cyflwyniad i ddeall hen wiethredoedd eiddo)

‘Very well presented, informative and interesting. More sessions please’ (Cyflwyniad i balaeograffeg)

‘Very helpful presentation! Clarified many questions I had about how to begin research’ (Hanes teuluol i ddechreuwyr)

Diolch i bawb a ddaeth yno a’r gobaith yw y byddwn yn cynnal mwy o’r digwyddiadau hyn yn y dyfodol.  Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod i weithdy neu drafodaeth fel hyn, cysylltwch â ni i roi gwybod, os gwelwch yn dda.  Mae manylion cyswllt ar gael ar y ddolen i’r ‘Gwasanaeth Archifau’ ar y dde >