Mae eich Archif eich Angen chi! Cyfleoedd gwirfoddoli presennol, Awst 2023 ymlaen

Ar hyn o bryd rydym ni’n chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’n grŵp gwirfoddoli yn Rhuthun neu wirfoddolwr unigol ym Mhenarlâg.  Rydym ni’n chwilio am oedolion (18 oed a hŷn) sy’n dymuno dysgu sgil newydd, ychwanegu at eu CV, cael profiad gwaith neu ddysgu gwybodaeth leol.

Gwirfoddoli mewn Grŵp yng Nghangen Rhuthun

Gall gwirfoddoli (a gweithio) mewn archifau fod yn waith unig weithiau o ganlyniad i natur y gwaith. Os nad yw hyn yn addas i chi, neu os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy cymdeithasol, beth am ymuno â’n Grŵp Gwirfoddoli ar ddydd Mawrth?  Ar ambell ddydd Mawrth (2 sesiwn y mis), mae ein grŵp gwirfoddoli ni’n cyfarfod am hyd at dair awr rhwng 9.30am a 12.30pm. Mae ein prosiect presennol ni’n cynnwys gweithio trwy ffeiliau’r cyngor heb eu catalogio sy’n ymdrin â llawer o agweddau ar gyfrifoldeb y cyngor yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif gan gynnwys;

  • gwelliannau a datblygiadau i ffyrdd a rheilffyrdd;
  • adeiladu a chynllunio ysgolion newydd, safleoedd preswyl a thai heddlu;
  • aildrefnu cynghorau sir;
  • darpariaeth rhyfel ac amddiffyn sifil;
  • papurau etholiad lleol;
  • iechyd a lles y cyhoedd;
  • twristiaeth a digwyddiadau.

Bydd gofyn i chi edrych trwy ffeiliau a disgrifio/ysgrifennu cynnwys pob ffeil gan ddefnyddio ffurflen dempled papur. Wrth fynd drwy bob ffeil byddwch chi hefyd yn eu hailbacio i safonau archifol ac yn cael gwared ar unrhyw ddarnau metel sy’n rhydu.

Yn y sesiynau hyn mae cyfle hefyd i gymryd rhan yn ein rhaglen ailbacio gan wneud bocsys pwrpasol gyda’n cadwraethwr.

Bydd cyfarwyddiadau llawn yn cael eu darparu a byddwch chi dan oruchwyliaeth staff drwy’r amser.

Dysgwch ragor am y sgiliau sydd eu hangen a sut mae ein grŵp ni wedi ein cefnogi ni yn y gorffennol ar ein gwefan https://www.agddc.cymru/amdanom-ni/gwirfoddoli/group-volunteering/

Gwirfoddolwr Pecynnau Cadwraeth yng nghangen Rhuthun neu Benarlâg

Mae gennym ni filoedd o gyfrolau heb eu pacio ac mae ein prosiect pacio ni’n cynnwys ailbacio ein heitemau i’w cadw nhw’n ddiogel wrth i ni eu symud nhw a’u diogelu nhw’n hirdymor mewn bocsys archifol safonol. Rydym ni’n dymuno i’n gwirfoddolwyr ni gyfrannu at y prosiect hwn dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’r fideo isod yn dangos y broses bacio, a ddangosir gan wirfoddolwyr ym Mhenarlâg.

Gall amseroedd a dyddiau gwaith fod yn hyblyg o ran ymrwymiadau presennol sydd gan staff. Bydd cyfarwyddiadau llawn yn cael eu darparu a byddwch chi dan oruchwyliaeth staff drwy’r amser.

Dysgwch ragor am y sgiliau sydd eu hangen a sut mae ein grŵp ni wedi ein cefnogi ni yn y gorffennol ar ein gwefan https://www.agddc.cymru/amdanom-ni/gwirfoddoli/gwirfoddolwr-pecynnau-cadwraeth/  

Gadael sylw