Diddanu Cleifion yn Ysbyty Gogledd Cymru

Ym mlynyddoedd cyntaf Ysbyty Gogledd Cymru, roedd y staff yn cwyno’n aml nad oeddent yn gallu dod o hyd i weithgareddau hamdden addas i ddiddanu’r cleifion. Sut oedd staff yn diddanu cannoedd o gleifion o wahanol gefndiroedd, a sut newidiodd yr adloniant hwn drwy gydol oes yr ysbyty?

Pan adeiladwyd yr ysbyty, nid oeddent wedi ystyried y syniad o ddarparu adloniant i’r cleifion. Dim ond pan ddechreuodd y cleifion cyntaf ddod i’r ysbyty y bu iddyn nhw sylwi ar y mater. Ym 1849, gofynnodd y Swyddog Meddygol i nifer o bethau gael eu creu y tu allan i ddiddanu’r cleifion. Gofynnodd i ddarn o’r tir gael ei neilltuo a’i ddatblygu’n lawnt fowlio. Gyda chymorth llafur y cleifion, agorwyd lawnt fowlio, cae sgitls a gardd flodau i gleifion preifat ym 1851. Roedd y cleifion hefyd yn mynd ar deithiau cerdded i’r wlad o’u hamgylch. Parhaodd yr arfer hon a byddai gweld niferoedd mawr o gleifion yn cerdded trwy’r ardal wedi bod yn beth cyffredin i bobl leol tua diwedd y 19eg ganrif.

Roedd hamdden awyr agored yn rhan bwysig o fywyd yn yr ysbyty trwy gydol ei oes. Roedd gan yr ysbyty ei dimau criced a phêl-droed ei hun, ac roedd cleifion a oedd yn ddynion yn cael mynd i gemau’r gynghrair leol am ddim. Roedd misoedd yr had hefyd yn rhoi cyfleoedd i wneud gweithgareddau awyr agored eraill, fel diwrnod mabolgampau blynyddol, garddwesti a sioeau blodau.

HD-1-1708

Tîm pêl-droed yr ysbyty yn ystod tymor 1919-1920. Hawlfraint Helsby of Denbigh.

Pan oedd y tywydd yn llai ffafriol, roedd yn rhaid i gleifion chwilio am adloniant dan do. Yn dilyn llwyddiant y ddawns Nadolig gyntaf, roedd dawns wythnosol yn cael ei chynnal, a oedd yn boblogaidd ymysg y cleifion. Ym 1902, ychwanegwyd neuadd fwyta ac ystafell hamdden newydd at yr ysbyty. Bellach, yn ychwanegol at y dawnsfeydd, roedd y cleifion yn mwynhau cyngherddau, corau a dramâu. Roedd cyfle i’r cleifion hefyd chwarae gwahanol gemau dan do fel chwist, bingo a gwyddbwyll.

Wrth i dechnoleg ddatblygu, felly hefyd y cyfleoedd am adloniant i’r cleifion. Ym 1914, prynwyd dwy gramoffon a sinematograff. Dywedodd yr Uwch-arolygydd Meddygol yn adroddiad blynyddol 1915, “nineteen cinema shows have taken place during the winter. No other form of entertainment has created such an interest amongst the inmates”. Roedd y sinematograff yn sicr yn boblogaidd iawn ymysg cleifion ac roedd yr ysbyty’n parhau i gynnal dwy sioe sinema pob wythnos. Erbyn 1954, roedd radio a theledu ar bob ward, a fyddai wedi bod yn beth moethus i’r cleifion hynny na fyddai ganddynt deledu gartref.

HD-1-868

Bwletin wythnosol yn dangos y mathau o weithgareddau hamdden dan do ac awyr agored a oedd ar gael i’r cleifion, 1966.

Roedd cyfleoedd hamdden i’r cleifion oddi ar safle’r ysbyty hefyd. Yn y 1950au, yn ogystal â mynd am bicnic i draethau yn y Rhyl a Phensarn, roedd yr ysbyty’n rhan o raglen cyfnewid gwyliau i gleifion gydag ysbytai eraill yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod eu hymweliad, byddai’r cleifion a oedd ar y rhaglen yn mwynhau ystod o weithgareddau fel gemau, ffilmiau a theithiau dydd o amgylch yr ardal. Mae rhestr deithio ar gyfer cleifion a staff o Central Hospital yn Wawrick a ddaeth i ymweld ag Ysbyty Gogledd Cymru ym 1961 yn dangos bod y gweithgareddau’n cynnwys gwylio ffilmiau, cerdded i Gastell Dinbych a thwmpath dawns. Roedd teithiau dydd yn cynnwys ymweliad â Rasys Caer a thaith i Eryri.

Lindsey Sutton

Archifydd y Prosiect (Datgloi’r Seilam)

Mae ein prosiect dwy flynedd o’r enw ‘Datgloi’r Seilam’ bellach wedi dod i ben. Ariannwyd gan ‘Wellcome‘ roedd y prosiect i gatalogio cofnodion cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych. Ewch i’n canllaw pwnciau am ragor o wybodaeth yn ymwneud ag Ysbyty Gogledd Cymru.

Tagiau: ,

Gadael sylw