Er cof y Capten Blake

Dyma fy nghyfraniad diweddaraf at yr hyn sy’n prysur ddod yn gyfres o negeseuon blog am gofebion!

Image 1

Hawlfraint Ffotograff: Nicola Samuel (2019)

Gallwch ddod o hyd i’r plac coffa hwn y tu mewn i Eglwys San Silyn a Sant Mael yng Nghorwen, Sir Ddinbych.
Egyr y gofeb:

SACRED TO THE BELOVED MEMORY OF
CAPTAIN WILLIAM HANS BLAKE, ROYAL NAVY,
YOUNGEST SON OF THE LATE COMMANDER GEORGE HANS BLAKE, R.N.

Bu farw Capten Blake yn 41 oed ar 7 Ionawr 1874 yng Nghastell Cape Coast ar arfordir gorllewinol Affrica o ganlyniad i flinder dwys ac oerfel ac ar ôl dioddef o dwymyn Affricanaidd wyllt.

Mae’r gofeb yn un anarferol oherwydd ei bod yn rhoi disgrifiad manwl o yrfa Capten Blake heb sôn yr un gair am ei wraig na’i blant, ac eithrio “This tablet was erected to the best of husbands and fathers, by his sorrowing widow.” Hefyd, yn rhyfedd iawn, mae plac unfath i’w weld yn Eglwys Sant Mathew, Windsor yn Ne Cymru Newydd, Awstralia. Mae geiriad y gofeb a’r drafferth i greu cofeb unfath a’i hanfon i Awstralia yn dangos bod gwraig alarus Capten Blake wedi gwario llawer o arian i osod y ddau blac.

Daeth Capten Blake o deulu â thraddodiad o wasanaeth llyngesol ac ymunodd â’r llynges fel cadét pan oedd yn oddeutu 14 mlwydd oed. Cafodd ei aseinio yn wreiddiol i HMS Hound a oedd, ar y pryd, wedi ei lleoli oddi ar arfordir gorllewinol Affrica i ryng-gipio llongau fel rhan o Sgwadron Gorllewin Affrica’r Llynges Frenhinol. Gweithiodd y Sgwadron o 1807 i 1867 i atal y fasnach mewn caethweision drwy ryng-gipio llongau caethweision a rhyddhau caethweision.

Roedd ei yrfa diweddarach yn y llynges, fel y disgrifir yn fanwl iawn ar y plac, yn crynhoi gwasanaeth milwrol yn ystod oes aur yr Ymerodraeth Brydeinig i’r dim, gan fynd ag o i bob cwr o’r byd i ymladd mewn nifer o frwydrau rhanbarthol. Bu’n gwasanaethu yn India’r Gorllewin, ardal Môr y Canoldir, y Môr Baltig, Tsieina, Seland Newydd, De America, Awstralia a’r Môr Tawel. Roedd yn bresennol yn ystod bombardiad Sveaborg, caer yn harbwr Helsinki yn ystod Rhyfel y Crimea. Yna, bu’n ymladd yn yr Ail Ryfel Opiwm yn Tsieina ac oddi yno fe aeth i Seland Newydd i ymladd yn y Rhyfel Taranaki Cyntaf. Yn y rhyfel hwn cafodd ei anafu’n ddifrifol, yn ôl y gofeb, “by a gun-shot wound in the breast, which up to the time of his lamented death caused him much suffering, the bullet lodged near his heart, and being only extracted at the post-mortem examination held on his remains at Cape Coast Castle.”

Daeth ei yrfa i ben yn y man lle dechreuodd, yn gwasanaethu yng Ngorllewin Affrica. Y tro hwn, fodd bynnag, nid rhyddhau caethweision yr oedd ond, yn hytrach, yn cymryd rhan yn y Drydedd Ryfel Anglo-Ashanti (brwydr yn erbyn llwyth brodorol yr Ashanti dros dir yn y drefedigaeth Brydeinig newydd ar yr Arfordir Aur). Bu’n dioddef o dwymyn Affricanaidd gwyllt yn ystod yr ymgyrch a chafodd ei gludo yn ôl i gastell Cape Coast a bu farw ar fwrdd yr HMS Victor Emanuel. Yn ôl y South Wales Daily News, cafodd ei gladdu ar y lan ar 27 Ionawr 1874.

Image 2

Ni cheir unrhyw gyfeiriad ar y plac at gysylltiad Capten Blake â Chorwen na Windsor, De Cymru Newydd. Felly, pam bod y llefydd hyn yn ddigon arwyddocaol i weddw Capten Blake wario ei harian a mynd i’r drafferth o drefnu’r placiau?

Cafodd gwraig Capten Blake, Henrietta Fitzgerald, ei geni yn Ne Cymru Newydd yn 1846 a’i bedyddio yn Eglwys Sant Mathew. Mae’n bur debyg mai hon oedd yr eglwys y byddai Henrietta yn ei mynychu pan oedd yn blentyn. Bu i’r ddau gyfarfod tra’r oedd Capten Blake yn Awstralia yn gwasanaethu ar HMS Falcon. Priododd y ddau yn Awstralia, ond nid yn yr eglwys hon. Priododd y ddau ar 4 Ionawr 1868 yn Eglwys Sant Ioan, Darlinghurst (yng nghanol Sydney). Ar ôl gadael am Loegr gyda Blake ni ddychwelodd Henrietta i Awstralia fyth eto, ac mae’n aneglur os oedd gan yr eglwys yn Windsor unrhyw arwyddocâd i Gapten Blake ei hun. Gan nad yw Henrietta yn cael ei henwi yn y gofeb, mae’n beth rhyfedd iawn i Gapten Blake gael ei goffau yn yr eglwys yn Windsor gyda phlac nad yw’n cynnwys unrhyw gliw i’w gysylltiad â’r lle.

Felly, beth am ei gysylltiad â Chorwen? Cafodd Blake ei ddyrchafu’n gapten yn 1867 a gadawodd gyda’i wraig am Brydain yn 1868. Mae’r gofeb yn nodi na chafodd ei benodi i long arall tan fis Ebrill 1873 felly, am bum mlynedd, cafodd y cwpl gyfle i fyw fel teulu normal ar dir sych. Cafodd eu plentyn cyntaf, George Hans Sotheby, ei eni yn Llundain yn 1868, a’u hail blentyn, Henrietta Rosa, yn Nyfnaint yn 1870. Yn ôl y cyfrifiad 1871 roedd y teulu yn byw yn Nyfnaint ond, erbyn geni eu trydydd plentyn ar ddydd calan 1872, roeddynt yn byw yng Nghorwen.

Image 3

Rhan o Gofrestr Plwyf Corwen a gymerwyd o gopi microffilm a gedwir gan Archifau Sir Ddinbych (MF191). [Cedwir y gwreiddiol gan Archifau Gwynedd yn Nolgellau dan gyfeirnod Z/PE/19/6]

Mae’r llun uchod yn dangos cofnod o fedydd William Lascelles Fitzgerald Blake yng Nghorwen yn 1872. Fel y dengys yn y cofnod, roedd y teulu yn byw yng Nglanalwen ar y pryd, sef fferm y tu allan i Gorwen. Roedd Henrietta a’r plant yn byw yng Nglanalwen pan fu farw Capten Blake. Dyma lun o adfeilion yr adeiladau fferm.

Image 4

Hawlfraint Ffotograff: C. M. Brennan (2019)

 

Cafodd y plac ei osod yn 1875 a chafodd hynny sylw yn y wasg leol, daw’r toriad isod o’r Wrexham Guardian ar 25 Medi.

Image 5

Nid yw’n amlwg beth yn union a ddenodd y teulu i Gorwen, nid yw’n ymddangos bod ganddynt unrhyw deulu yn yr ardal er enghraifft. Ar ôl marwolaeth Capten Blake symudodd Henrietta a’r plant o Gorwen i ardal Norwood yn ne Llundain. Arhosodd Henrietta yn yr ardal hon tan ddiwedd ei hoes. Bu farw yn 1913, heb ailbriodi.

Elisabeth A. Parfitt

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s


%d bloggers like this: