Ar drywydd goroeswr Rhuthr y Frigâd Ysgafn

Y llynedd cysylltodd Clive a Barbara Petty o Gaerwys â’r swyddfa, a hoffai weld y cofnodion sy’n gysylltiedig â Phlas Dolben, ger Llanelwy. Ymddengys fod hwn yn ymchwiliad hanes tŷ i ddechrau, ond ar ôl trafodaeth bellach datgelwyd bod eu hymchwil wedi’i gysylltu â goroeswr Rhuthr y Frigâd Ysgafn.

Y Capten Thomas Everard Hutton o'r 4ydd Dragŵn Ysgafn (Y Frenhines).

Y Capten Thomas Everard Hutton o’r 4ydd Dragŵn Ysgafn (Y Frenhines). Trwy garedigrwydd Cyngor Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin.

Cafodd eu diddordeb yn y milwr arbennig hwn ei sbarduno gan daflen ar gyfer digwyddiad Drysau Agored yn Eglwys San Siôr, Llandrillo-yn-Rhos, a ddatgelodd ei fod yn cynnwys arysgrif yn coffáu milwr a gymerodd ran yn y rhuthr ceffylau enwog ym 1854.Y milwr hwnnw oedd y Capten Thomas Hutton o’r 4ydd Dragŵn Ysgafn. Yn ystod y rhuthr cafodd Hutton ei saethu yn ei goes dde ar y ffordd yna ac yn y goes chwith ar y ffordd adref. Yn anffodus, cafodd ei geffyl ei daro un ar ddeg o weithiau a bu’n rhaid ei ddinistrio.

Ar ôl ymweld â’r eglwys, aeth Clive a Barbara ati i ddysgu mwy am y Capten Hutton, a aned yn Swydd Efrog yn 1821, a cheisio sefydlu ei gysylltiadau ag eglwys ar arfordir Gogledd Cymru, a pham y bu i’w ferch, Violet, ddylunio tu mewn i’r eglwys.

Cynorthwywyd eu hymchwil gychwynnol gan nodiadau a luniwyd gan yr ymchwilydd lleol, Alan S Nipper, a ddywedodd wrthynt, ar ôl gadael y fyddin, y bu i Hutton briodi Maria Georgina Everard o Middleton ger Kings Lynn, Swydd Norfolk yn 1865 ac ychwanegu ei chyfenw’i hun iddo i roi’r enw Thomas Everard Hutton.

Datgelodd ymweliad ag Archifdy Sir y Fflint fod Hutton a’i deulu wedi byw yn yr ardal unwaith, gan i gofrestri plwyfi ddatgelu rhwng 1860 a 1867 i bedwar o’i blant, gan gynnwys Violet, gael eu bedyddio yn Henllan, a bod eu cyfeiriad cartref wedi’i roi fel Dolben Llanefydd. Mae eu hymchwil hefyd yn awgrymu bod Hutton, yn ystod eu cyfnod yn Sir Ddinbych, wedi cyfarfod â llawer o deuluoedd â thir yr ardal gan gynnwys y rheiny o Fodelwyddan, Pengwern, Cefn, Plas Heaton a Chinmel.

Yna, fe wnaethant gysylltu ag Archifau Sir Ddinbych, lle awgrymodd eu hymchwiliad cychwynnol bod gennym lythyr y nein meddiant a ysgrifennwyd gan Hutton at ei wraig. Eto i gyd, er mawr siom i ni, pan ddaeth Clive a Barbara i’r swyddfa i weld y llythyr, gwelsom fod y llythyr wedi’i dynnu’n ôl gan yr adneuwr. Tra roeddent yn yr archifdy, cawsant fynediad i gofnodion y Cyfrifiad a oedd yn eu galluogi i gynyddu eu gwybodaeth am y teulu.

Ar ôl eu cyfnod yng Ngogledd Cymru, symudodd mwyafrif y teulu i Gaerfaddon, lle bu Hutton farw ym 1896. Yn rhan o’u hymchwil, gwnaeth Clive a Barbara y daith i fedd Hutton ym Mynwent Locksbrook. Maent hefyd wedi ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin, sydd â chleddyf a chyfrwy Hutton, a’r Llyfrgell Gelf Genedlaethol yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain. Yma y daethant o hyd i’r llythyr oddi wrth Hutton at ei wraig yr oeddent wedi gobeithio ei weld yn wreiddiol yn Archifau Sir Ddinbych.

Ymddengys nad oedd cysylltiad y teulu â Gogledd Cymru wedi dod i ben yno wrth i gyfrifiad 1891 ddatgelu bod Violet a’i gŵr, Enoch Evans, yn byw yn y Ficerdy yn Llanelwy. Bu iddynt aros yn yr ardal nes iddynt farw. Mae’r cysylltiad teuluol ag Eglwys Sant Siôr yn mynd ymhellach wrth i’r eglwys goffáu meibion ​​Enoch a Violet hefyd. Bu farw Noel Everard Evans yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wrth wasanaethu gyda’r Magnelau Brenhinol, a diolchir am ddychwelyd Morgan Paget Evans yn ddiogel a wasanaethodd gyda Byddin Alldeithiol Prydain yn Mons, Marne, Aisne ac Ypres.

Mae Clive a Barbara yn amlwg wedi gweld eu hymchwil yn fuddiol iawn ac yn werth chweil, gan ddweud bod eu chwilfrydedd cychwynnol i oroeswr Rhuthr y Frigâd Ysgafn wedi arwain at gipolwg diddorol iawn ar hanes ehangach yr oes honno, a’i fod hefyd wedi dangos pwysigrwydd archifau a’r rôl sylweddol y gallant ei chwarae o ran cael ‘gwell dealltwriaeth o gymdeithas yn yr oes a fu’.

Kerry Evans, Archifydd

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s


%d bloggers like this: