‘The Enemy Within’, Rhan 3

Yr wythnos diwethaf fe wnaethom ddysgu am hanes Thomas and Lilian Fox a’r wythnos hon y mae’r stori olaf yn ein cyfres, sef achos Arthur a Mary Jones yn Y Rhyl….

The Prestatyn Weekly, MF/840 (1944)
AGDdC, Penarlâg

Digwyddodd yr achos olaf yn y gyfres tuag at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn Victoria Road, Y Rhyl.   Roedd Rhif 78 yn gartref i friciwr Albert Jones, ei wraig Mary a’u tri o blant, ond ar 23 Awst 1944, daeth y tŷ yn safle llofruddiaeth waedlyd.  Tra’i bod yn ei gardd, yn fuan ar ôl 7pm, clywodd y cymydog Mrs Sarah Noble sŵn gwydr yn torri a sylwodd ar fraich waedlyd yn estyn allan trwy ffenestr gegin gefn yng nghefn tŷ teulu Jones. Gofynnodd i’w chymydog, Mr Mortimer, i ymchwilio a dychwelodd ar unwaith gan ddweud wrthi ei fod am ffonio doctor.  Cafodd nyrs forwrol leol, Miss Rona Craddock ei hysbysu, ac fe aeth i’r lleoliad.  Ar ôl edrych drwy ffenestr y gegin, dywedodd Rona y gallai weld Mr a Mrs Jones yn gwaedu ac yn plygu dros sinc y gegin gefn.  Gan nad oedd yn gallu mynd i mewn i’r tŷ drwy’r drws ffrynt na chefn, torrodd Rona ffenestr yr ystafell fwyta a llusgodd Mrs Jones allan ac i mewn i’r ardd gefn.  Ar y pwynt hwn, dywedodd Mary wrth Rona, ‘fo wnaeth, nid fi’. ‘Dydw i ddim eisiau ei weld o eto ar ôl hyn, mae o wedi bod yn rhyfedd drwy’r dydd’.  Cyrhaeddodd yr Arolygydd Roberts y tŷ a darganfyddodd cyllell gerfio naw modfedd a hanner yn sinc y gegin gefn ac nid oedd yna dystiolaeth o ymladd.       

Victoria Road, Y Rhyl
gan H. Wardman & D. Jones

Cafodd Albert ei symud o’r gegin gefn i’r ardd gan ei ffrind Richard a ddywedodd, er gwaethaf ei anafiadau, roedd Albert wedi ymladd ag o’n dreisgar.  Daeth Doctoriaid Day a Macqueen i’r lleoliad gan ffonio am ddau ambiwlans i gludo’r cwpl i Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl. Rhoddwyd gwaed iddynt, a gwnaed ymdrechion i’w helpu gyda’u hanadlu ond yn anffodus roedd anafiadau i yddfau’r cwpl yn rhai angheuol, ac awr yn ddiweddarach, cyhoeddwyd bod Mary wedi marw, ac yna Albert, dair awr yn ddiweddarach.  Yn yr ysbyty, canfuwyd llythyr hunanladdiad wedi’i guddio yng ngwasgod Albert…

The Prestatyn Weekly, MF/840 (1944), AGDdC, Penarlâg

Cynhaliwyd cwest yr wythnos ganlynol lle dywedodd mab Albert, oedd hefyd yn cael ei alw’n Albert, ei fod wedi clywed ei dad yn bygwth hunanladdiad sawl gwaith yn y bythefnos cyn y digwyddiad.   Daeth i’r amlwg fod Mary wedi bod yn treulio amser gyda Joseph Hughes, ffrind i’r cwpl yr oedd hi wedi dod i’r arfer o fynd i yrfâu chwist gyda o, i’r Clwb Llafur lleol.  Er gwaetha’ rhybuddion gan ei gŵr a’i mab, mynnodd Mary ei bod yn ddieuog a pharhaodd â’i pherthynas gyda Mr Hughes. Er na awgrymodd y cwest bod Mary yn bwriadu gadael ei gŵr, fe awgrymodd fod ei chyfeillgarwch gyda Mr Hughes wedi bod yn gymhelliad dros weithred lofruddiol Albert.  Penderfynodd y rheithgor bod Mary wedi cael ei lladd gan Albert gan dorri ei gwddf gyda chyllell gerfio a bod ei lythyr hunanladdiad yn nodi nad oedd yna gythrudd i leihau’r ddedfryd o lofruddiaeth i ddynladdiad.  Yn achos Albert, daethpwyd i’r casgliad mai hunanladdiad oedd ei farwolaeth, tra nad oedd yn ei iawn bwyll. 

Ai achos trasig o driongl carwriaeth yn troi’n chwerw yw hyn? Allai’r gyfres o ddigwyddiadau yma fod wedi cael eu hatal pe na bai bygythiadau Albert o gyflawni hunanladdiad fod wedi cael eu hanwybyddu? 

Mae’r tri achos y sonnir amdanynt yn y blog yma’n cynnig cipolwg ar straeon o’n gorffennol y gellir cael gafael arnynt drwy’r casgliadau a gedwir yn AGDdC. Erthyglau papur newydd sy’n canolbwyntio ar achosion o wreigladdiad a hunanladdiad yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif oedd y brif ffynhonnell o wybodaeth ar gyfer y blog hwn.  Os ydych chi’n cynllunio prosiect tebyg cofiwch y cyfnod mynediad cyfyngedig ar gyfer cofnodion Crwner.  Os hoffech chi edrych ar unrhyw droseddau hanesyddol eich hun, neu oes gennych chi ddiddordeb mewn pwnc arall yr hoffech ei ymchwilio, yna mae AGDdC yn edrych ‘mlaen at eich gweld yn y dyfodol. 

Gadael sylw