Posts Tagged ‘Ysbyty Meddwl Gogledd Cymru’

Datgloi’r Seilam: Dadorchuddio’r Archif

Tachwedd 25, 2017

Cafodd eitemau heb eu catalogio yng nghasgliad Ysbyty Gogledd Cymru eu pacio wrth i’r Ysbyty yn Ninbych gau, ac nid oeddent wedi cael eu trin tan y bu nawdd priodol ar gael. Nawr ar ddechrau’r prosiect Croeso a ariannwyd, dyma fi fel Cadwraethydd Prosiect yn barod i ddechrau arolwg cadwraeth ar y casgliad. Mae’r arolwg yn cynnwys edrych ar gyflwr presennol pob eitem ac argymell triniaeth cadwraeth a llefydd cadw gwell i atal dirywiad pellach o’r casgliad unwaith mae’n cael ei agor i’r cyhoedd.

Mae eitemau hanesyddol yn dirywio dros amser, ac fel gwarchodwr, nid oes modd atal y dirywiad, ond fe allwn arafu’r broses, gan gadw’r eitem yn ei gyflwr defnyddiol am gyfnod hirach. Un o’r prif ffyrdd o gadw casgliad yw sicrhau ei fod wedi cael ei gadw’n briodol mewn bocs. Mapiau a chynlluniau yw rhai o’r eitemau mwyaf anodd eu cadw mewn casgliadau oherwydd eu maint. Mae gan Archifau Sir Ddinbych focsys map hir fel pecyn cynradd sy’n diogelu’r dogfennau mawr rhag niwed amgylcheddol a achosir gan lwch, golau a newid mewn tymheredd.

Ym mhob bocs, mae’r mapiau a’r cynlluniau wedi’i rholio’n llac ar hyn o bryd, ond oherwydd nifer y dogfennau, mae rhai wedi cael eu plygu neu grychu. Ymylon y dogfennau sydd mewn perygl fwyaf ac mae llawer o’r mapiau a’r cynlluniau yn y casgliad hwn yn fregus iawn oherwydd rhwygiadau o gwmpas yr ochrau. I ddarparu lle sefydlog i gadw’r dogfennau nes bod gwaith cadwraeth pellach yn gallu cael ei wneud, rydw i wedi dylunio dull ailgartrefu a fydd yn diogelu ymylon y dogfennau mawr a’u hatal rhag dirywio’n bellach.

A5 M4 mapiau cyn ailgartrefu

A5 M4 mapiau cyn ailgartrefu

Mae’r dull ailgartrefu hwn yn cynnwys rholio mapiau a chynlluniau o gwmpas tiwb o safon cadwraeth. Mae’r rhain yn cynnal y ddogfen wedi’i rholio rhag plygu a chrychu. Bydd pob bwndel wedi’u rholio yn cael eu lapio mewn haen Melinex® a’u clymu’n llac gyda thâp cotwm i’w diogelu. Mae’r haenen Melinex®yn ymestyn i hyd y ddogfen ac felly’n diogelu’r ymylon brau.

A5 M4 mapiau ar ôl ailgartrefu

A5 M4 mapiau ar ôl ailgartrefu

Gall y mapiau a’r cynlluniau yn y casgliad hwn gynnwys sawl dyluniad ar gyfer estyniadau a newidiadau i’r adeilad dros y blynyddoedd yn cynnwys cynlluniau lliwgar o safle golchdy’r ysbyty.

Joanna Shuker, Cadwraethydd Prosiect

Archwilio’r Seilam: Llyfrau Achosion Cleifion

Tachwedd 18, 2017

Mae casgliad o gofnodion o Ysbyty Gogledd Cymru a gedwir yn Archifau Sir Ddinbych yn un o’r enghreifftiau mwyaf cynhwysfawr o gofnodion seilam y wlad. Mae’r casgliad yn cynnwys cofnodion gweinyddol megis adroddiadau blynyddol a chofnodion cyfarfodydd, cofnodion ariannol megis cyfrifon blynyddol a chyfriflyfrau, a chasgliad rhyfeddol o gofnodion cleifion. Ymysg y cofnodion cleifion, un o’r ffynonellau gwybodaeth mwyaf manwl yw llyfrau achosion cleifion sy’n rhoi cyfoeth o fanylion am unigolion cyn ac yn ystod eu arhosiad yn yr ysbyty.

Nodiadau Achos

Nodiadau Achos

O dan y Ddeddf dros Reoleiddio Gofal a Thriniaeth i Wallgofiaid 1845, daeth yn orfodol cadw llyfrau achosion cleifion. Cafodd rheolau a gorchmynion yn rhagnodi fformat y cofnodion hyn eu gosod allan gan y Comisiynwyr Gwallgofrwydd. Hyd 1875 roedd y llyfrau achosion a ddefnyddiwyd yn Ysbyty Gogledd Cymru yn amrywio o ran lefel y manylion yr oeddent yn eu cynnwys am bob claf, ac ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael am gyflwr y claf cyn iddo/iddi gyrraedd yr ysbyty.

Yn dilyn hunanladdiad claf benywaidd, mae adroddiad blynyddol 1873 yn datgelu fod Pwyllgor Ymwelwyr y seilam wedi sylweddoli pa mor bwysig oedd cofnodi hanes blaenorol pob claf a “gorchmynnodd fod Swyddog Meddygol yn rhoi holl ffeithiau a manylion achos pob un claf mewn llyfr” (cyfeirnod HD-1/4). Cymeradwyodd y Comisiynwyr Gwallgofrwydd fath newydd o lyfr achosion a ddaeth i rym yn y seilam yn 1875 a sicrhaodd hynny fod gwybodaeth gefndirol fanwl yn cael ei chasglu am bob claf.

O 1875 tan i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gael ei ffurfio yn 1948, parhawyd i gynnwys yr un math o wybodaeth yn llyfrau achosion y cleifion. Roedd pob cofnod yn y llyfrau achosion yn cael eu rhannu’n ddwy ran. Roedd y cyntaf yn cynnwys gwybodaeth bersonol a chefndirol am bob claf ac asesiad o gyflwr meddyliol y claf pan gyrhaeddodd.

Os edrychwn ar un o’r nodiadau achos (cyfeirnod HD-1/337) fel enghraifft, o’r rhan hon gallwn weld fod Margery Baynton yn byw yn Ninbych. Roedd yn arfer cadw tafarn a dim ond 24 oed oedd hi pan ddaeth i’r seilam ar 16 Awst 1889 yn dioddef o’r hyn a ddisgrifiwyd fel gwallgofrwydd enbyd. Datgelodd y nodiadau fod Margery wedi ceisio lladd ei hun ac mewn asesiad a gynhaliwyd ar y pryd gwelwyd ei bod yn “dweud ei bod yn cael ei dilyn gan bobl sydd eisiau ei thorri’n ddarnau, cafodd ei meddiannu gan y Diafol a’i gorfododd i dorri ei gwddf y bore ‘ma”. Mae’r wybodaeth gefndirol a gasglwyd yn datgelu fod Margery wedi cael ei gadael yn weddw yn ddiweddar a bod ganddi ddau o blant. Disgrifiwyd ei bod wedi “datblygu arferion meddwdod” a bod y trawiad hwn wedi digwydd o ganlyniad i adroddiadau drwg amdani gan deulu ei gŵr o gamdriniaeth, a’u bod wedi ei chyhuddo o achosi marwolaeth ei gŵr”.

Mae rhan gyntaf y nodiadau achos yn dangos manylion personol a gwybodaeth gefndirol y cleifion.

Mae rhan gyntaf y nodiadau achos yn dangos manylion personol a gwybodaeth gefndirol y cleifion

Mae ail ran y nodiadau achos yn adrodd am gynnydd y cleifion a ysgrifennir ar adegau amrywiol yn ystod eu arhosiad. Yn ystod ei dyddiau cyntaf yn y seilam, ceisiodd Margery anafu ei hun ac “ni fyddai’n cymryd unrhyw fwyd gan ei fod yn wenwynig ac mae’n datgan ei bod yn dymuno marw er mwyn cael ymuno â’i gŵr”. Ar 10 Chwefror 1890 disgrifir fod Margery yn “gweithio yn y ceginau ac yn gwella’n barhaus. Yn eithaf rhesymegol ym mhob ffordd ac yn edrych ymlaen at gael ei rhyddhau o’r ysbyty”. Mae’r nodiadau’n datgelu fod Margery yn bwriadu mynd i Lerpwl i fyw gyda’i modryb. Ar ôl ychydig dros chwe mis yn y seilam cafodd Margery ei rhyddhau.

Mae ail ran y nodiadau achos yn cynnwys adroddiadau am gynnydd y claf

Mae ail ran y nodiadau achos yn cynnwys adroddiadau am gynnydd y claf

Yn ogystal â chyfoeth o wybodaeth a geir yn y ddwy ran, mae rhai nodiadau achosion hefyd yn cynnwys atodiadau fel rhybudd o farwolaeth a gohebiaeth gan berthnasau ac ymarferwyr meddygol.

Er mwyn diogelu’r wybodaeth bersonol a roddir yn y llyfrau achosion hyn, mae cofnodion sy’n llai na 100 oed yn gaeedig oherwydd rheoliadau cyfrinachedd cleifion y GIG.

Mynegai cleifion Ysbyty Gogledd Cymru

Ionawr 30, 2015

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod gennym bellach mynegai cleifion ar-lein ar gyfer Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych (1848-1914) sy’n golygu, am y tro cyntaf, gall ymchwilwyr chwilio’r casgliad yn ôl enw’r claf.

Ysbytu Gogledd Cymru

HD/1/422 – Argraff pensaer o Ysbytu Gogledd Cymru, 1847

Mae’r mynegai wedi ei creu gan ddefnyddio’r gorchmynion derbyn cleifion sydd wedi goroesi ar gyfer cleifion tlodion. Rydym yn gobeithio cael mynegai tebyg ar gael ar gyfer cleifion preifat yn fuan.

Nod y prosiect hwn oedd creu mynegai cleifion yn nhrefn yr wyddor ar gyfer Ysbyty Gogledd Cymru (Seilam Dinbych) i alluogi ymchwilwyr i chwilio am gleifion ar-lein. Mae gorchmynion derbyn wedi eu bwndelu mewn trefn gronolegol ac nid ydym erioed wedi gallu chwilio’r casgliad yn ôl enw o’r blaen. Mae’r gronfa ddata hon yn awr yn ein galluogi i chwilio cofnodion sydd wedi goroesi ar gyfer cleifion a dderbyniwyd rhwng 1848 a 1914 yn ôl enw a chanfod yn hawdd os oedd claf wedi’i dderbyn i’r ysbyty droeon.

Mae’r mynegai cleifion ar gyfer Ysbyty Gogledd Cymru wedi ei cwblhau, diolch i waith gwirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi rhestru’r gorchmynion derbyn cleifion rhwng 1848 a 1914. Mae’r prosiect hwn wedi cymryd dwy flynedd i’w gwblhau (2013-2014) ac mae wedi cynnwys dros 15 o wirfoddolwyr yn edrych ar dros 8,000 o gofnodion i greu cronfa ddata o wybodaeth sylfaenol sy’n cynnwys enw’r claf, dyddiad derbyn, oedran wrth gael eu derbyn, dyddiad rhyddhau neu farwolaeth, galwedigaeth ac undeb (h.y. yr undeb a oedd yn talu am eu triniaeth) neu gyfeiriad yn achos cleifion preifat. Mae’r gorchymyn derbyn yn cynnwys llawer mwy o wybodaeth am y claf nad oedd o fewn cwmpas y prosiect hwn yn cynnwys y sylwadau a wnaed gan ymarferydd meddygol ac yn aml arsylwadau gan aelod o’r teulu.

Oherwydd rheolau’r GIG, mae cofnodion ysbyty ar gau i’r cyhoedd eu harchwilio am 100 mlynedd. Rydym yn bwriadu ychwanegu at y gronfa ddata yn flynyddol wrth i gofnodion ddod ar gael.

Hepgoriadau a bylchau yn y cofnodion

Rydym yn ymwybodol bod rhai gorchmynion derbyn ar goll cyn i’r prosiect ddechrau a gallaf gadarnhau bod 228 o 8,373 o gofnodion ar goll o’r gyfres hyd at fis Rhagfyr 1914 (2.72%). Nid yw’n glir pam na chafodd y cofnodion hyn eu trosglwyddo i’r archifau; gall rhai yn syml, fod wedi eu colli neu efallai fod y gwaith papur wedi ei drosglwyddo gyda’r claf i seilamau eraill ar draws y wlad.

Efallai nad yw rhywfaint o wybodaeth ar gael yn y daenlen am nifer o resymau-

• Efallai nad yw’r gorchymyn derbyn gwreiddiol yn cynnwys y wybodaeth am nad oedd yn hysbys ar yr adeg y cafodd ei gwblhau. Er enghraifft, efallai nad oedd y claf ei hun yn gwybod ei union oedran, neu efallai fod sillafiad enw anarferol wedi bod yn aneglur.

• Efallai fod y gorchymyn derbyn gwreiddiol yn annarllenadwy. Er enghraifft, mewn rhai achosion, mae’n anodd gwahaniaethu rhwng rhif 3 a 5.

Er bod gofal wedi ei gymryd i osgoi unrhyw gamgymeriadau, mae’n anochel y bydd rhai camgymeriadau o bosibl fel gwallau teipio neu drawsgrifio. Byddem yn argymell yn gryf eich bod yn edrych ar y cofnod gwreiddiol naill ai drwy ofyn am gopi neu ymweld â’n hystafell chwilio i gadarnhau bod yr holl fanylion yn gywir.

Gellir chwilio’r mynegai a gwybod mwy yma

Darlith Gyhoeddus – Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych

Medi 19, 2013

Dydd Iau 17 Hydref 2013, 6pm-7.30pm

Mae Staff Archifdy Sir Ddinbych yn cynnal noson o sgyrsiau ar hanes Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych. Mae’r prif gasgliad o gofnodion yr ysbyty ar gael a chadw yn y swyddfa gofnodion yng Ngharchar Rhuthun. Mae’r casgliad yma ymhlith y casgliadau gorau yn y wlad o gofnodion gwallgofdai o’r bedwaredd ganrif a’r pymtheg a’r ugeinfed ganrif. Maen nhw’n adlewyrchu’r newidiadau a’r datblygiadau o ran triniaethau ac agweddau tuag at salwch meddwl.

Bydd Dr Pamela Michael, Darlithydd Astudiaethau Iechyd a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, yn siarad am hanes yr ysbyty gan ganolbwyntio ar rôl merched – yn staff ac yn gleifion. Ei meysydd diddordeb ydi hanes merched Cymru, hanes polisi cymdeithasol ac iechyd a salwch meddwl yng Nghymru. Yn 2003 cyhoeddodd astudiaeth ar ofal a thriniaeth pobl â salwch meddyliol yng ngogledd Cymru – Care and Treatment of the Mentally Ill in North Wales, 1800-2000 (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2003).

Bydd Clwyd Wynne, a fu’n gweithio yn yr ysbyty am ddeng mlynedd ar hugain, yn sgwrsio am ei fywyd fel aelod o staff ac am waith Cymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru o ran rhoi atgofion cyn-aelodau o staff a chleifion yr ysbyty ar gof a chadw.

Bydd Jane Brunning, yr Uwch Archifydd, yn rhoi trosolwg o’r cofnodion sydd yn yr archifdy – bydd rhai ohonyn nhw wedi eu harddangos ar y noson.

Archifau Sir Ddinbych, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1HP

Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly ffoniwch neu e-bostiwch rŵan i archebu’ch lle. (01824 708250 neu archifau@sirddinbych.gov.uk)