Posts Tagged ‘Rhyfel Byd Cyntaf’

Etifeddiaeth milwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn byw ymlaen

Medi 1, 2014

Yn 2012, gwnaethom uchel bwyntio stori drasig Pte Harry Jones o Stryd Mwrog yn Rhuthun ai laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, heb erioed wedi cwrdd â’i drydydd blentyn. Y mis diwethaf, denodd ei gasgliad o lythyrau a chardiau post o’r ffrynt (DD/DM/1163), rhai ymwelwyr arbennig iawn i’n swyddfa

The Jones Family 21Aug2014

Daeth pedwar cenhedlaeth o’r teulu Jones i ddarllen y llythyrau a’i hysgrifennwyd gan eu perthynas at ei wraig yn ystod saith mis cyntaf y rhyfel. Roedd yr ymwelwyr yn cynnwys nai Harry, Bernard Jones, sydd bellach yn 102 mlwydd oed, ei fab, wyresau a chôr ŵyr.

Sir Ddinbych yn ystod Y Rhyfel Mawr

Awst 6, 2014

Yma yn Sir Ddinbych, fel llawer o swyddfeydd cofnodion lleol eraill, ychydig iawn o gofnodion milwrol sydd gennym. Ond, mae gennym nifer o gofnodion sy’n datgelu bywydau’r rhai a adawyd ar ôl. Ysgrifennwyd y darn hwn ar gyfer Daily Post Gogledd Cymru ym mis Mai 2014 gan ddefnyddio ein casgliadau-

Poster propaganda- DD/G/1210

Poster propaganda- DD/G/1210

Rhagwelwyd y byddai’r Rhyfel Byd Cyntaf yn rhyfel byr a rhagwelwyd y byddai wedi gorffen erbyn Nadolig 1914. Mewn gwirionedd, bu i’r rhyfel bara pedair blynedd, gan gael effaith enfawr ar bobl Prydain – y rheiny oedd yn gwasanaethu a’r rhai oedd gartref. Mewn rhyfeloedd blaenorol, roedd sifiliaid i raddau helaeth heb eu cyffwrdd gan ryfel, ond yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cawsant eu heffeithio fwy nag y gallai unrhyw un fod wedi’i ragweld.

Roedd Sir Ddinbych yn 1914 yn sylweddol fwy nag y mae heddiw. Cyn ffurfio Clwyd yn 1974, roedd Sir Ddinbych yn cynnwys yr hyn a elwir bellach yn Wrecsam a chyfran fawr o Gonwy. Gyda llawer o ddynion Sir Ddinbych i ffwrdd yn y rhyfel, roedd y boblogaeth yn cael trafferth ymdopi â bywyd bob dydd. Gadawyd teuluoedd heb gefnogaeth eu gwyr a’u meibion ​​ac mae papurau pwyllgor pensiwn rhyfel Sir Ddinbych yn aml yn datgelu straeon trasig o fywydau’r rhai oedd ar ôl.

Ceisiodd merched a theuluoedd gael cymorth ariannol gan ‘Gronfa Dibynyddion y Milwyr’ i dalu costau byw gan gynnwys taliadau rhent, dillad, bwyd a chostau gofal iechyd. Mae Papurau Pwyllgor Pensiwn Rhyfel yn darparu tystiolaeth o wragedd mewn ôl-ddyledion gyda thaliadau rhent ac mewn rhai achosion, dyledion eu gwŷr. Wrth apelio am ostyngiad yn y cyfraddau, dywedodd J. Porter o Fae Colwyn a oedd yn gwasanaethu ar y pwyllgor “mae’n ymddangos yn eithaf amhosibl i’r merched hyn ddarparu ar gyfer eu teuluoedd a thalu’r gofyniad trethi”. Roedd achosion o famau yn marw tra roedd eu gwŷr dramor, ac felly yn gadael plant i aelodau o’r teulu ofalu amdanynt, neu roedd rhaid iddynt fynd i’r tloty lleol. Wedi i wŷr a thadau ddychwelyd yn dilyn anaf parhaodd nifer o deuluoedd i’w chael yn anodd oherwydd na allai’r dynion ddychwelyd i’r gwaith.

Aeth rhai merched i’r gwaith am y tro cyntaf er mwyn ymdopi’n ariannol ac anogwyd eraill i gymryd lletywyr i helpu i dalu eu costau. Cyn dechrau’r rhyfel, roedd yn rhaid i ferched adael eu gwaith ar ôl priodi a’u rôl naturiol oedd yn y cartref. Amcangyfrifir bod o leiaf un miliwn o ferched wedi ymuno â gweithlu Prydain rhwng 1914 a 1918 ac wedi cael cyfle i weithio mewn meysydd fel trafnidiaeth, amaethyddiaeth, bancio a’r gwasanaeth sifil. Dim ots a oedd hyn oherwydd anghenraid i ddarparu ar gyfer eu teuluoedd neu’n gyfle i gael mwy o annibyniaeth, roedd yn newid enfawr i fywydau cartref Prydain.

Nid goblygiadau ariannol oedd unig effaith y gwahanu ar y rhai oedd gartref. Roedd rhaid i deuluoedd milwyr hefyd ymdrin â’r cythrwfl emosiynol o gael eu gwahanu oddi wrth eu hanwyliaid. Mae pobl yn tueddu i fod yn gyfarwydd â’r anhwylder pryder sef anhwylder straen ôl-drawmatig neu “shell shock” a arweiniodd at nifer yn dychwelyd o’r rheng flaen yn arddangos symptomau o salwch meddwl. Ond, prin y mae’r modd yr effeithiodd y rhyfel ar gyflwr meddyliol y rhai oedd gartref yn cael ei ystyried. Yn ôl adroddiadau blynyddol Ysbyty Gogledd Cymru (Ysbyty Dinbych), erbyn 1916 roedd tri deg o bobl wedi cael eu derbyn i’r ysbyty ers ddechrau’r rhyfel oherwydd y rhyfel, a’r rheiny heb wasanaethu yn uniongyrchol.

Roedd merched yn cael eu targedu gan bropaganda i annog eu cariadon, gwŷr a meibion ​​i ymrestru ac mae cofnodion o wragedd a mamau yn cael eu derbyn i Ysbyty Dinbych oherwydd galar a phoeni am deulu coll neu farw. Roedd rhai o’r achosion tybiedig o wallgofrwydd a nodwyd mewn cofnodion cleifion newydd yn yr ysbyty yn cynnwys “colli brawd yn y rhyfel” a “phoeni am fab sy’n gwasanaethu”. Gallwn weld o’r cofnodion hyn bod y pryder a’r straen a ddioddefwyd gan y rhai gartref yn ganlyniad arall o ryfel sydd, efallai, heb gael sylw yn y gorffennol. Roedd cyfanswm y nifer o achosion sy’n cydnabod rhyfel fel achos gwallgofrwydd wedi codi i 148 erbyn 1919, gan gynnwys cleifion milwrol a sifil.

Roedd ysbytai fel Ysbyty Gogledd Cymru hefyd yn delio â cholli nifer o staff gwrywaidd wrth iddynt adael ar gyfer gwasanaeth yn y rhyfel. Yn adroddiad blynyddol yr ysbyty yn 1914-1915, nodwyd bod 19 o staff gwrywaidd (dros 20%) yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog a bod hyn yn dylanwadu ar drefniadau gweinyddol ac ariannol y sefydliad. O ganlyniad, galwyd ar nifer o staff oedd wedi ymddeol i wneud gwaith dros dro. Cododd hyn i 33 aelod o staff erbyn 1915/16.

Adroddiad Blynyddol, Ysbyty Gogledd Cymru- HD/1/8

Adroddiad Blynyddol, Ysbyty Gogledd Cymru- HD/1/8

Mae archifau yn hynod bwysig ar gyfer ymchwil i’r Rhyfel Byd Cyntaf a heb y cofnodion sydd wedi goroesi, byddai ein gwybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod 1914-1918 yn gyfyngedig iawn. Mae pob un o’r archifau a ddefnyddiwyd yn yr erthygl hon ar gael i’w gweld, am ddim, yn Archifdy Sir Ddinbych yn Rhuthun. Mae archifau yn llawn o eitemau diddorol y gallwch chi eu darllen, eu cyffwrdd neu eu harchwilio. Ac nid yw’r rhan fwyaf ar gael ar Google.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein casgliadau, chwiliwch yn ein mynegai o dan y pwnc “rhyfel”.

Os oes gennych ddiddordeb mewn edrych ar gofnodion ar gyfer y rhai a fu’n gwasanaethu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf neu’r Ail Ryfel Byd, mae gwefan yr Archifau Cenedlaethol yn lle da i ddechrau.

 

 

 

Archwiliwch eich Archif- Dyddiadur o’r Rhyfel Byd Cyntaf

Tachwedd 21, 2013

Bydd 2014 yn gweld canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.  Mae Archifau yn hynod o bwysig ar gyfer ymchwilio i mewn i’r Rhyfel Byd Cyntaf, a heb gofnodion fyddai’n amhosib gwybod beth a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod 1914-1918.

Yma yn yr Archifdy nid ydym yn gwybod pa fath o gofnodion y byddwn yn eu derbyn o ddydd i ddydd.  Yn fis Gorffennaf cawsom rodd, a chafodd ei ddarganfod mewn eiddo yn Rhuthun, sef dyddiadur a’i hysgrifennwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Mae’r dyddiadur yn dechrau ar y 25ain o fis Medi 1915 ac yn dod i ben ar y 21ain o Dachwedd 1916, mae wedi cael eu hysgrifennu gan Lt COL A.E. Jerman, a wasanaethodd gyda’r Royal Army Medical Corps.  Ni allai’r adneuwr roi llawer o wybodaeth i ni ynglŷn ar eitem, oni bai ei enw ai gatrawd, ychydig iawn a wyddom am yr awdur, a sut ddaeth y dyddiadur i ben i fynnu yn Rhuthun.

Wedi chwilio gwefannau hanes teulu fel ancestry.com a findmypast.co.uk, yr ydym wedi dod o hyd i gerdyn fedal A.E. Jerman, a’i fod yn byw yn Erith, Caint yn 1911, dim ond pedair blynedd cyn i’r Rhyfel Byd Cyntaf dorri allan. Nodir ei alwedigaeth fel ‘Medical Practitioner’, ac iddo gael ei eni yn Sir Ddinbych yn 1873.

Felly pwy oedd Arthur Edward Jerman?  Rydym yn croesawu ymchwilwyr (newydd ac “hen”!), i ddod i ymgynghori a’r dyddiadur i gael gwybod mwy am amser Arthur Jerman yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’i gefndir.

A oes gennych unrhyw gofnodion sy’n ymwneud â Sir Ddinbych yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf y byddech yn hoffi i ni gadw ar gyfer y genhedlaeth nesaf i’w hymchwil? Rydym yn apelio am lythyrau, dyddiaduron, ffotograffau, papurau personol a busnes yn ymwneud â phobl a lleoedd Sir Ddinbych yn ystod y cyfnod 1914-1918 i ychwanegu at ein casgliadau. Os oes gennych unrhyw beth yr hoffech gyfrannu, cysylltwch â ni ar 01824 708250 neu e-bostiwch archifau@sirddinbych.gov.uk i drafod.