Yma yng Ngwasanaeth Archifau Sir Ddinbych mae gennym ni nifer o wirfoddolwyr yn ein helpu ag amrywiaeth o dasgau na fyddem yn gallu eu gwneud hebddyn nhw!
Y llynedd, cafodd ein gwasanaeth grant CyMAL i’n galluogi i brynu cyflenwadau cadwraeth arbenigol, yn cynnwys amrywiaeth o frwshys, papur blotio a sbyngau. Mae’r offer newydd yma wedi golygu ein bod yn gallu defnyddio grŵp o wirfoddolwyr i helpu i lanhau eitemau yn ein casgliadau. Bydd y grŵp yn cyfarfod ddwywaith y mis ac maen nhw wedi glanhau 245 o gyfrolau hyd yma ac wedi bod wrthi am gyfanswm cyfunol o 238 o oriau o amser gwirfoddoli. Mae angen person amyneddgar a gofalus iawn sydd â dwylo pwyllog i lanhau dogfennau ac mae’n golygu glanhau arwyneb y dogfennau’n ofalus â brwshys arbenigol. Mae’r gwirfoddolwyr wedi dod atom ni gydag angerdd tuag at hanes a hanes lleol yn arbennig, a brwdfrydedd i weithio ag archifau gwreiddiol.
Mae yna nifer o wirfoddolwyr eraill wedi bod yn gweithio â ni hefyd, yn cynnwys disgyblion ysgol ar brofiad gwaith, myfyrwyr prifysgol, y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn archifau a phobl sydd wedi ymddeol sydd â diddordeb mewn archifau a’u hanes lleol.
Mae’r staff yn Archifau Sir Ddinbych yn ddiolchgar iawn am yr amser y mae ein gwirfoddolwyr yn ei gyfrannu a gobeithio y bydd ein prosiectau gwirfoddoli’n parhau i fod yn llwyddiannus yn y dyfodol.
Os hoffech chi wirfoddoli yma, cysylltwch â ni ar y ffôn neu ar e-bost. Mae ein manylion cyswllt ar gael drwy’r ddolen i’r ‘gwasanaeth archifau’ ar yr ochr dde i’ch sgrin.