Posts Tagged ‘Cwmni Brymbo Steel’

Casgliad Neuadd Llantysilio

Ionawr 10, 2013

Mae Archifau Sir Ddinbych yn gartref i nifer o gasgliadau preifat, a mae Casgliad Neuadd Llantysilio yn un ohonynt. Mae ein arddanghosfa fewnol bresenol yn uchelbwyntio’r casgliad yma, sydd yn cynnwys cofnodion yn ymwneud â Henry Roberston (1816-1888) y peirianydd rheilffyrdd nodedig, a’i fab, Sir Henry Beyer Robertson (1862-1948).  Maent yn cynnwys cofnodion sydd yn ymwneud â eu hystadau yn Sir Ddinbych a Meirionydd, ac eu buddianau busnes eang yn amrywio o byllau glo, y diwydiannau hearn a dur a rheilffyrdd, i bysgodfeydd eog a gwarchod helwriaeth.

Daeth yr Albanwr, Henry Robertson (1816-1888), i Ogledd Cymru y tro cyntaf i asesu’r potensial ar gyfer datblygu mwynau yn ardal Brymbo ar ran banc Albanaidd.  Yn dilyn ei asesiad fe gynigiodd y banc roi benthyg y cyfalaf iddo i gymryd rhan mewn datblygu’r mwyngloddiau ei hun.

Fe ymunodd sawl Albanwr ifanc arall ag o a ffurfio’r ‘Brymbo Mineral Railway Company’, a brynodd stad Neuadd Brymbo, yn cynnwys gwaith haearn Brymbo.

DD/LH/239 - Prosbectws y 'Brymbo Company', tua 1900

DD/LH/239 – Prosbectws y ‘Brymbo Company’, tua 1900

Yn 1846 fe ail-enwyd y cwmni’n ‘Brymbo Company’, ac fe ymrestrwyd W. H. ac C. E. Darby i ofalu am y pyllau a’r gwaith haearn fel y gallai Henry Robertson roi ei sylw i’r rheilffyrdd pan oedd yn gweithio ar gwblhau rheilffordd fwynau Gogledd Cymru.

Cymerodd ran mewn nifer o brosiectau rheilffyrdd ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru a hefyd yn Nghanolbarth Lloegr.  Tynnodd gynlluniau ar gyfer y draphont ar draws yr Afon Dyfrdwy yn Ngefn, fel rhan o’i waith yn gysylltiedig gyda’r linell drwodd o Gaer i’r Amwythig.  Roedd hwn yn ymarfer hynod o anodd mewn peirianeg, ac roedd yn ffodus i sicrhau Thomas Brassey fel y contractwr. Agorwyd y linell ar 14eg Hydref, 1848.

Erbyn 1880 roedd wedi troi ei sylw at y posibilrwydd o gynhyrchu dur ym Mrymbo ac fe ddechreuodd y ffwrnais doddi dur 10 tunnell gynhyrchu yn 1885.

Rhwng 1862 ac 1885 fe’i hetholwyd dair gwaith yn A.S. Rhyddfrydol dros yr Amwythig.  Ar ei etholiad i’r senedd fe brynodd dŷ yn Llundain a phreswylfa wledig o’r enw Crogen, tŷ ar y Ddyfrdwy rhwng y Bala a Chorwen.  Yn 1869 fe ddaeth plasty a stad y Palé yng Nghorwen i’w feddiant.  Fe ailadeiladodd y plasty a bu’n byw yno o 1871. Fe’i hetholwyd yn A.S. dros Feirionnydd yn 1885 ond fe ymddiswyddodd ac ymddiswyddo o’r blaid Ryddfrydol pan gyflwynodd Gladstone y Mesur Ymreolaeth.

Fe’i holynwyd gan ei unig fab, Syr Henry Beyer Robertson (1862-1948), a enwyd ar ôl ffrind i’w dad, Charles Frederick Beyer (1813-1876). Ef oedd tad bedydd Syr Henry ac ar ei farwolaeth fe adawodd Neuadd Llandysilio, a brynodd yn 1867, i’w fab bedydd.

Fe dreuliodd Syr Henry beth amser yn cynorthwyo ei dad yn ei wahanol faterion busnes.  Roedd yn gyfrifol am lawer o ddatblygiadau newydd yng ngwaith dur Brymbo yn cynnwys gosod cyfarpar newydd.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe sicrhaodd y cynhyrchiad uchaf o haearn a dur ar gyfer arfau rhyfel  ac fe drowyd Palé yn ysbyty milwrol.   Roedd yn gyfarwyddwr sawl cwmni, yn cynnwys y ‘Great Western Railway Company’, ac yn aelod o Fwrdd Pysgodfeydd Afon Dyfrdwy.  Yn 1890 cafodd ei urddo’n farchog.  Ei etifedd oedd ei fab, Duncan Robertson, Neuadd Llandysilio.

Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud a Palé Hall ar gael ar wefan Archifau Cymru

http://www.archiveswales.org.uk/anw/get_collection.php?coll_id=825&inst_id=1&term=Pale%20Estate%20%28Wales%29

Mae gwybodaeth ar ein daliadau ar gael ar http://www.denbighshire.gov.uk/cy-gb/dnap-6zqktq?opendocument&lang=cy-gb