Datgloi’r Seilam: Rhywioldeb a Seiciatreg

Mae mis Chwefror yn nodi dechrau Mis Hanes LGBT, sef mis i ddathlu hanes pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsryweddol (LGBT). Cyn diwedd yr 20fed ganrif, roedd pobl a oedd yn galw eu hunain yn LGBT yn aml yn cael eu hystyried fel rhai a oedd yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl. Nid yw’n syndod felly bod staff sy’n gweithio ar y prosiect Datgloi’r Seilam, sy’n ceisio catalogio cofnodion Ysbyty Gogledd Cymru, wedi dod ar draws nifer o gyfeiriadau at gleifion LGBT a gafodd eu derbyn i’r ysbyty oherwydd eu rhywioldeb.

HD-1-44

Ysbyty Gogledd Cymru fel y byddai wedi bod yn y 1950au, ffotograff gan Ronald Thompson.

Mae’r gyfres o gofnodion cleifion cyn 1948 yn cynnwys nifer o gleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty gyda diagnosis o gyfunrhywiaeth. Roedd rhai o’r cleifion hyn yn mynd i’r ysbyty o’u gwirfodd i chwilio am ‘iachâd’ i’w cyflwr. Gan fod gweithgarwch gyfunrhywiol yn anghyfreithiol tan 1967, roedd gan lawer o bobl ofn canlyniadau cyfreithiol eu hymddygiad, a allai arwain at hyd at saith mlynedd o garchar. Dywedodd un claf a dderbyniwyd yn y 1950au nad oedd yn poeni am roi’r gorau i’w weithgareddau cyfunrhywiol oherwydd yr anawsterau y byddai hynny’n ei achosi o safbwynt cyfreithiol.

Y brif ‘driniaeth’ a oedd yn cael ei chynnig i gleifion yr ysbyty yn ystod y cyfnod hwn oedd Stilboestrol, math o ysbaddu cemegol. Yn ôl y meddygon byddai’r ‘driniaeth’ hon yn cael gwared ar chwantau rhywiol ac yn galluogi cleifion i fyw o fewn y gyfraith. Cynigwyd tri dewis i un claf a dderbyniwyd ar ddechrau’r 1950au, sef dewis ei gyfunrhywioldeb a wynebu’r canlyniadau cyfreithiol; bod yn anghydweddog; neu cael gwared ar ei chwantau rhywiol yn gemegol trwy ddefnyddio Stilboestrol. Nid oedd pob claf yn dymuno cael ‘iachâd’ i’w cyfunrhywioldeb ac aeth un claf i’r ysbyty o’i wirfodd er mwyn dianc oddi wrth yr heddlu wrth aros am ddedfryd. Rhagnododd y meddyg a oedd yn ‘trin’ y claf gwrs o Stilboestrol iddo er iddo ddweud nad oedd yn teimlo’n ffyddiog ynghylch canlyniad y driniaeth honno yn yr achos penodol hwn.

Mae cofnodion hefyd yn ymwneud â chleifion a oedd yn galw eu hunain yn lesbiaid, deurywiol a thrawsrywiol. Datganodd nifer o gleifion eu bod yn ddeurywiol, ac mae nifer o gofnodion o gleifion a ddywedodd eu bod yn lesbiaid. Roedd nifer o gleifion hefyd yn dweud eu bod yn drawsrywiol. Roedd un claf yn dymuno bod yn ferch ac eisiau cael ei chydnabod am ei gwir ryw a hunaniaeth, tra bod un arall yn dymuno cael newidiadau corfforol i’w droi o ddyn i ddynes. Roedd un claf yn teimlo fel pe na bai’n perthyn i’r naill ryw na’r llall.

Mae casgliad Ysbyty Gogledd Cymru yn adnodd hanfodol i daflu goleuni ar brofiadau a hanesion y rheiny a oedd yn galw eu hunain yn LGBT, mewn cyfnod pan oedd hunaniaethau fel hyn yn cael eu hystyried yn anhwylderau seiciatryddol. I ganfod mwy am fis hanes LGBT a digwyddiadau a gynhelir yng ngogledd Cymru, edrychwch ar wefan Mis Hanes LGBT.

LGBT Outing the Past Calendar

Gellir gweld calendr o ddigwyddiadau sy’n cymryd lle yn ystod y mis, ar wefan Mis Hanes LGBT.

O ganlyniad i reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd, sylwch fod cofnodion cleifion sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif ar gau i’r cyhoedd am 100 mlynedd. Efallai y bydd y cofnodion hyn ar gael i ymchwilwyr sy’n perthyn i sefydliad academaidd ar gais. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio casgliad Ysbyty Gogledd Cymru ar gyfer gwaith ymchwil academaidd, cysylltwch â ni.

Lindsey Sutton

Archifydd y Prosiect (Datgloi’r Seilam)

Tagiau: , ,

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s


%d bloggers like this: