Yn 2017, cafodd Archifau Sir Ddinbych grant £130,000 gan Wellcome, i ariannu ein prosiect dwy flynedd ‘Datgloi’r Seilam’. Nod y prosiect yw catalogio holl gofnodion Ysbyty Gogledd Cymru, rhestru ac ail-becynnu ffeiliau achosion cleifion diweddarach, ac asesu’r casgliad ar gyfer anghenion cadwraeth.
Rydym flwyddyn i mewn i’r prosiect bellach, ac rydym yn gwneud cynnydd ardderchog at ei gwblhau ym mis Hydref 2019. Ym mis Chwefror eleni, gwnaethom gyhoeddi lansiad catalog dros dro ar gyfer rhan gyntaf y casgliad, mae hwn ar gael ar-lein drwy wefan Archifau Sir Ddinbych ac mae’n disodli’r catalog papur blaenorol. Roedd ein Gwarchodwr Prosiect, Joanna, gyda ni am dri mis, a chynhaliodd arolwg cadwraeth i nodi cyflwr y casgliad heb ei gatalogio ac mae wedi gwneud argymhellion o ran ei ofynion cadwraeth.
Mae ein Swyddog Cymorth Prosiect, Rhian, yn parhau i weithio’n galed i fynegeio’r gyfres ddiweddarach o ffeiliau cleifion, ac mae 13,000 o amcangyfrif o 23,000 wedi’u cwblhau eisoes. Mae gwaith yn parhau i gatalogio ac ail-becynnu gweddill y casgliad. Hyd yma, mae rhai o’r cofnodion a ddatgelwyd ymhlith y deunydd wedi’i gatalogio wedi cynnwys cofnodion gweinyddol fel adroddiadau a chofnodion pwyllgorau, cofnodion cleifion gan gynnwys cofrestrau derbyn a rhyddhau, cofnodion staff gan gynnwys cardiau mynegai staff a cheisiadau swyddi, a chofnodion sy’n ymwneud ag ochr gymdeithasol bywyd ysbyty gan gynnwys gemau hamdden, amserlenni gweithgareddau, rhaglenni digwyddiadau a thaflenni cerddoriaeth.

Amserlen gweithgareddau wythnosol o’r ysbyty yn dyddio o 1966, sy’n dangos yr amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol a hamdden a oedd ar gael i gleifion a staff.
Dros y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi cynnal dau ddigwyddiad yn Archifau Sir Ddinbych. Ym mis Tachwedd 2017, cynhaliwyd ein digwyddiad lansio prosiect ar gyfer Archwilio Eich Archifau ac ym mis Medi 2018, cynhaliwyd digwyddiad ar gyfer Drysau Agored, a chafwyd sgyrsiau am yr ysbyty yn y ddau ddigwyddiad, ac arddangosfeydd bach o gofnodion o’r casgliad. Rydym hefyd wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau allanol i hyrwyddo’r prosiect a’r casgliad, gan gynnwys cynhadledd Cymdeithas Hanes Cymdeithasol Meddygaeth, Fforwm Cyngor Archifau Cymru a digwyddiad ‘Dathlu Merched Sir y Fflint Ddoe a Heddiw’ yn Swyddfa Cofnodion Sir y Fflint.

Archifydd y Prosiect yn siarad â chynrychiolwyr yng nghynhadledd Cymdeithas Hanes Cymdeithasol Meddygaeth yn Lerpwl.
Rydym wedi ysgrifennu nifer o flogiau am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys llyfrau achosion cleifion, mapiau a chynlluniau, cofrestrau’r Comisiwn Gwallgofrwydd, epilepsi, parlys cyffredinol, ECT a’r ysbyty dan y GIG. Cofiwch wirio ein blog a’n tudalen Facebook i weld negeseuon newydd a newyddion am ddigwyddiadau sydd i ddod.
Nodwch os gwelwch yn dda fod cofnodion cleifion a staff sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif ar gau am rhwng 75 a 100 mlynedd o ganlyniad i reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd.
Lindsey Sutton
Archifydd y Prosiect (Datgloi’r Seilam)
Tagiau: Datgloi'r Seilam, Ysbyty Gogledd Cymru
Gadael Ymateb