‘Datgloi’r Seilam’- Therapi Electrogynhyrfol yn Ysbyty Gogledd Cymru

Ddydd Sul diwethaf (9 Medi 2018), cynhaliwyd gennym ddigwyddiad Drysau Agored llwyddiannus dros ben, lle ddaeth 300 o ymwelwyr i swyddfa  Archifau Sir Ddinbych. Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar brosiect ‘Datgloi’r Seilam’, a chafwyd sgyrsiau byrion yn ymwneud â sefydlu’r ysbyty a’r cleifion cyntaf. Cafwyd arddangosfa o ddogfennau gwreiddiol o gasgliad yr ysbyty, ynghyd ag arteffactau o gasgliad Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Ddinbych. Un o’r arteffactau hyn oedd peiriant therapi electrogynhyrfol a ddefnyddiwyd yn yr ysbyty ei hun. Roedd hefyd arddangosfa o bortreadau gan Same but Different o’r enw ‘Beauty of Rare’.

Lluniau sioe sleidiau gan Ceriwen Hughes, Beauty of Rare

This slideshow requires JavaScript.

Hyd yn hyn, mae 12,600 o ffeiliau cleifion a fu yn yr ysbyty ar ôl 1948 wedi eu rhestru a’u hailbecynnu fel rhan o’r prosiect. O’r 12,600 claf, derbyniodd 2,193 ohonynt driniaeth therapi electrogynhyrfol ar gyfer eu salwch. O’r 2,193 yma, bu i 2072 ohonynt wella a chael eu rhyddhau o’r ysbyty maes o law, gan awgrymu fod gan therapi electrogynhyrfol (o’i ddefnyddio law yn llaw â meddyginiaethau eraill) gyfradd llwyddiant uchel iawn.

Felly pam – â’r gyfradd llwyddiant mor uchel – fod cymaint yn credu mai triniaeth greulon a brawychus oedd therapi electrogynhyrfol? Mae’n bosib mai’r modd barbaraidd y portreadwyd y driniaeth yn y cyfryngau mewn ffilmiau fel ‘The Snake Pit’, ‘One flew over the Cuckoo’s Nest’ ac ‘A Beautiful Mind’ a roddodd gamargraff i bobl. Mae’n bosib hefyd mai’r ffaith y defnyddiwyd therapi electrogynhyrfol mor aml o’r 1950au hyd y 1970au (weithiau heb anesthetig) a achosodd i lawer o bobl ei ystyried yn fwy o gosb na thriniaeth.

Er hynny, mae’n amlwg, o restru ffeiliau’r cleifion, y defnyddiwyd therapi electrogynhyrfol yn yr ysbyty hyd adeg ei gau ym 1995. Mae therapi electrogynhyrfol mewn gwirionedd yn therapi a ddefnyddir hyd heddiw, gyda seiciatryddion a chleifion yn ei ystyried yn driniaeth ddiogel ac effeithiol i frwydro iselder difrifol ac anhwylder deubegynol. Mae’r dull cyfredol, sy’n cael ei adnabod fel therapi electrogynhyrfol wedi’i addasu (modified ECT) yn defnyddio ymlacwyr cyhyrol er mwyn osgoi peryglon corfforol trawiad, ac yn cael ei gynnal dan anesthetig i osgoi poen o ganlyniad i’r trydan.

Cyn dyfodiad triniaethau therapi electrogynhyrfol, y prif driniaeth ar gyfer Sgitsoffrenia a salwch iselhaol yn Ysbyty Gogledd Cymru oedd siocdriniaeth Inswlin.  Galli’r driniaeth hon fod yn beryglus ac roedd yn gofyn am ofal nyrsio medrus. Yn Rhufain yn ystod y 1930au, dechreuodd yr Athro Ugo Cerletti ymchwilio i ddefnyddio trydan er mwyn rhoi sioc i’r ymennydd yn uniongyrchol trwy’r penglog. Gyda Lucio Bini, dyfeisiodd ddull o gyflenwi dos diogel o gerrynt trydanol a fyddai’n cymell confylsiwn, gan ddefnyddio peiriant a allai ddarparu foltedd rheoledig am ffracsiwn o eiliad. Defnyddiwyd y dechneg yn llwyddiannus ym y tro cyntaf ym 1938.

Cafodd y dull ei fabwysiadu yn Ysbyty Gogledd Cymru ym mis Gorffennaf 1941, pan awdurdodwyd prynu cyfarpar confylsiwn trydanol ‘Ediswan’ gan y pwyllgor ymwelwyr. Er mai mewn achosion sgitsoffrenia y defnyddiwyd therapi electrogynhyrfol yn wreiddiol, o fewn blwyddyn nododd uwcharolygydd meddygol Dinbych fod profiad o’i ddefnyddio wedi dangos yn gyflym iawn mai ym maes yr Iselderau yr oedd ei brif ddefnyddioldeb. Defnyddiwyd y driniaeth yn amlach yn ystod blynyddoedd y rhyfel – derbyniodd 47 claf therapi electrogynhyrfol ym 1941, ac erbyn 1943 roedd y nifer yma wedi cyrraedd 158.

Mae’r duedd hon yn parhau yn ffeiliau’r cleifion, gyda’r defnydd o therapi electrogynhyrfol yn cynyddu yn gyson yn ystod yr 1950au hyd at y 1970au. O gwmpas yr un adeg, dechreuodd chwyldro mewn triniaethau wrth i gyffuriau gwrth iselder gael eu cyflwyno am y tro cyntaf. Mae ‘Largactil’ – ffurf gynnar ar gyffur gwrth iselder – i’w weld yn cael ei ddefnyddio yn rheolaidd ar draws ffeiliau cleifion yn ystod yr un cyfnod. Achosodd datblygiadau pellach mewn cyffuriau gwrth iselder chwyldro yn y modd y rheolwyd cleifion yr ysbyty. Roedd mwy o achosion o dderbyn cleifion i’r ysbyty i dderbyn meddyginiaeth, ac unwaith eu bod mewn cyflwr sefydlog, eu rhyddhau i barhau ar y feddyginiaeth yn eu cartrefi eu hunain. O ganlyniad i hyn, daeth y defnydd o therapi electrogynhyrfol yn yr ysbyty yn llai cyffredin erbyn y 1970au hwyr.

Beth bynnag ein barn am y driniaeth hon, roedd yn rhan bwysig iawn o ddatblygiadau mewn triniaethau iechyd meddwl yn ysod yr 20fed ganrif.

Mae rhan o gasgliad Ysbyty Gogledd Cymru eisoes wedi ei gatalogio ac ar gael. Fodd bynnag, nid yw rhai o’r cofnodion y soniwyd amdanynt yn y blog hwn wedi eu catalogio eto. Bydd y cofnodion ar gael i’w gweld ar ddiwedd y prosiect ‘Datgloi’r Seilam’ ym mis Hydref 2019. Sylwer yn ogystal fod cofnodion cleifion a staff sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif ynghau am rhwng 75 a 100 mlynedd oherwydd rheoliadau GIG.

Rhian Evans
Swyddog Cefnogi Prosiect
Datgloi’r Seilam

Tagiau: , ,

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s


%d bloggers like this: