Gŵyl Gerdded Corwen

Bydd Gŵyl Gerdded Corwen yn dychwelyd dros benwythnos cyntaf mis Medi. Mae’r digwyddiad poblogaidd hwn yn rhoi cyfle i gerddwyr grwydro pen deheuol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae teithiau cerdded wedi’u trefnu o amgylch y dref, ar hyd yr Afon Dyfrdwy ac i fyny i bwyntiau uchaf y Berwyn. Bydd cyfle hefyd i wella eich sgiliau canfod ffordd, a bydd darlith ar ‘Sgiliau Cwmpas a Map a Chanfod Ffordd Sylfaenol’ ar y nos Sadwrn.

Mae Sir Ddinbych yn lwcus iawn i fod â llawer o ardaloedd perffaith i gerdded. Yn ogystal â Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, mae Coedwig Clocaenog a Mynydd Hiraethog hefyd yn Sir Ddinbych. I’r rheiny sy’n mwynhau mynd i rannau mwy gwyllt yn y sir, efallai y bydd o ddiddordeb i chi bod gan Archifau Sir Ddinbych lawer o bethau fyddai’n gallu cyfoethogi profiad cerdded.

Mae ein mapiau hanesyddol o’r sir yn arbennig o ddefnyddiol oherwydd eu bod yn darparu ffenestr i’r gorffennol. Gallant roi’r cyfle i chi weld a oedd lle neu nodwedd benodol o’r dirwedd yn bodoli ar ddyddiad penodol, a chaniatáu i chi gyferbynnu’r olygfa bresennol â sut yr edrychai yn y gorffennol.

 

Map AO argraffiad cyntaf, Llandyrnog

Y gyfres hynaf o fapiau a gedwir yn Archifau Sir Ddinbych yw’r Mapiau Degwm, sy’n cynrychioli un o’r arolygon mapio systematig, ar raddfa fawr cyntaf yn Lloegr a Chymru. Fe’u cynhyrchwyd rhwng 1838 a 1850 o ganlyniad uniongyrchol i Ddeddf Cymudo’r Degwm 1836, a ddisodlodd y system hynafol o dalu mewn nwyddau â thaliad ariannol. Ynghyd â’r dosbarthiad, sy’n atodiad ysgrifenedig i’r map, maent yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth gan gynnwys manylion yn ymwneud â pherchennog tir, tenantiaid, eiddo neu enwau caeau, aceri o dir a defnydd tir. Caiff bob map ei rannu fesul plwyf. Mapiau Arolwg Ordnans yw cydymaith ffyddlon selogion yr awyr agored yn y wlad hon erbyn hyn. Yma yn yr archifdy, mae gennym y 3 argraffiad cyntaf o Gyfres y Sir, a gynhyrchwyd rhwng y 1870au hwyr a’r 1920au. Mae rhain ar gael ar gais yn yr ystafell chwilio.

Yn ogystal â’n mapiau hanesyddol, mae gennym hefyd sawl llyfr cyhoeddedig ar y silffoedd yn ein hystafell chwilio, sydd hefyd yn gallu darparu gwybodaeth ddefnyddiol i gerddwyr. Yn arbennig, ‘The Drovers’ Roads of Wales’, gan Fay Godwin a Shirley Toulson. Am gannoedd o flynyddoedd cyn cyflwyno’r rheilffyrdd, roedd porthmyn yn gwneud bywoliaeth drwy gerdded gwartheg, defaid, moch a gwyddau o gadarnleoedd cefn gwlad Cymru i farchnadoedd mawr Lloegr. Mae’r llyfr hynod ddiddorol hwn yn ganllaw modern i’r llwybrau hanesyddol hyn, ac yn darparu mapiau a disgrifiadau manwl, gan eich galluogi i gerdded yn olion traed y werin bobl wydn hyn.

Roedd dau lwybr yn pasio drwy Sir Ddinbych. Roedd un llwybr tua’r gogledd yn anelu at Wrecsam a Chaer yn pasio drwy Ruthun, Llanarmon-Yn-Iâl a Llandegla. Roedd y llwybr arall yn teithio drwy ran ddeheuol y sir, yn mynd i mewn i Gorwen o’r Bala, a thrwy Fynyddoedd y Berwyn tua Llangollen.

Mae Shirley Toulson yn amlygu pwysigrwydd Corwen i’r Porthmyn, gan nodi mai dyma’r pwynt lle’r oedd llawer o lwybrau gogleddol y porthmyn yn cyfarfod wrth iddynt deithio tua’r dwyrain. Roedd y dref hefyd yn strategol bwysig i lwybr hanesyddol yr A5 o Lundain i Ddulyn, a oedd yn mynd drwy’r dref ar ei ffordd i Gaergybi. Mae tystiolaeth o hyn mewn Cyfeirlyfrau Masnach amrywiol sydd ar gael yn ein hystafell chwilio. Mae’r cofnodion Ffyrdd Tollborth (QSD/DT) sydd wedi’u cynnwys o fewn ein cofnodion Llysoedd Chwarter, yn dangos datblygiad y ffordd hon a llawer o ffyrdd eraill.

 

Tagiau: , ,

Gadael sylw