Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr

Mae’n Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr yr wythnos hon (1-7 Mehefin 2018) ac mae llawer gennym i ddiolch amdano i’n gwirfoddolwyr eleni, gan gynnwys am ein catalogau sydd aeth gael ar yr Archives Hub!

Mae’r Archives Hub yn wasanaeth am ddim ar-lein sy’n cynnig mynediad i ddisgrifiadau catalog o archifau sy’n cael eu dal yn storfeydd y DU (fel prifysgolion, archifau cwmnïau a chanolfannau hanes lleol). Mae’r Archives Hub yn cynnwys casgliadau o dros 330 o sefydliadau ledled y wlad ac mae’n adnodd ymchwil hollbwysig i haneswyr ledled y byd. Nid yw’n dal unrhyw ddeunydd archif ei hun ond mae’n cynnig modd i groes-gyfeirio disgrifiadau archifau gan wahanol sefydliadau.

Rydym wedi derbyn grant Academi’r Colegau Brenhinol yng Nghymru eleni i drosglwyddo pob catalog i’r Archives Hub gan olygu fod ein catalogau bellach ar gael i chwilio drwyddynt ar safle arall ac felly bydd rhagor o ymchwilwyr yn gallu dod o hyd i adnoddau cynradd ymhlith ein casgliadau yn rhwydd.

Heb waith ein gwirfoddolwyr, sydd wrthi’n ddiflino yn trosglwyddo ein rhestrau papur i’n cronfa ddata archifau, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl. Amcangyfrifwn fod oddeutu 75% o’n catalogau papur bellach wedi eu hychwanegu at y gronfa ddata.

catalogues
Yn ddiweddar, ychwanegwyd catalogau pob cyngor tref a gwledig. Mae’r casgliadau hyn yn cynnwys cannoedd o gynlluniau rheoli adeiladu ar gyfer eiddo ledled Conwy a Sir Ddinbych, adroddiadau swyddogion meddygol ac iechyd y cyhoedd ar amodau byw a glanweithiol ledled y sir yn ystod yr 1930au a’r 1940au a nifer o fapiau a chynlluniau (a llawer mwy!).

Dilynwch y dolenni isod i’n catalog llawn (cofiwch ddewis y tab Pori yn ôl Hierarchaeth i agor rhestr estynnol).

UDD/A Cyngor Dosbarth Trefol Bae Colwyn a Cholwyn
UDD/B Cyngor Dosbarth Trefol Llangollen
UDD/C Cyngor Dosbarth Trefol Abergele a Phensarn
UDD/D Cyngor Dosbarth Trefol Abergele
UDD/E Cyngor Dosbarth Trefol y Rhyl
UDD/F Cyngor Dosbarth Trefol Prestatyn

RDD/A Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelwy (Dinbych)
RDD/B Cyngor Dosbarth Gwledig Aled
RDD/C Cyngor Dosbarth Gwledig y Waun
RDD/D Cyngor Dosbarth Gwledig Llansilin
RDD/E Cyngor Dosbarth Gwledig Ceiriog
RDD/F Cyngor Dosbarth Gwledig Llanrwst
RDD/G Cyngor Dosbarth Gwledig Uwchaled
RDD/H Cyngor Dosbarth Gwledig Hiraethog
RDD/I Cyngor Dosbarth Gwledig Rhuthun
RDD/J Cyngor Dosbarth Gwledig Llangollen
RDD/K Cyngor Dosbarth Gwledig Wrecsam
RDD/L Cyngor Dosbarth Gwledig Edeyrnion

Cewch wybod mwy am ein cyfleoedd gwirfoddoli yma

Cewch wybod mwy am The Archives Hub yma

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s


%d bloggers like this: