Epilepsi yn Ysbyty Gogledd Cymru

Mae epilepsi ers nifer o ganrifoedd wedi’i gysylltu ag anhwylder meddwl, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif roedd pobl oedd yn dioddef gydag epilepsi yn cael eu derbyn mewn sefydliadau iechyd meddwl. Y dyddiau hyn, yn ffodus, nid yw’n cael ei ystyried fel cyflwr seiciatrig, ac nid yw unigolyn ag epilepsi yn debyg o gael ei drin gan uned iechyd meddwl.

Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu datblygiadau mewn meddygaeth i drin epilepsi a ffitiau epileptig. Y ddau sylwedd cyntaf a brofwyd i gael effaith gwrth-epileptig ac sy’n parhau i gael eu defnyddio heddiw yw bromine (defnyddiwyd gyntaf ym 1857) a phenobarbitone (defnyddiwyd gyntaf yn 1912). Gellir gweld tystiolaeth cyffuriau hyn yn cael ei defnyddio i drin cleifion gydag epilepsi yn Ysbyty yng Ngogledd Cymru, yn y ffeiliau achos cleifion a chofnodlyfr epileptig.

Roedd cleifion oedd yn cael eu derbyn gydag epilepsi yn cael eu cadw ar wahân yn yr ystafell gysgu Epileptig a Hunanladdiad. Roedd yr ystafell gysgu hon yn cael ei rhannu gyda chleifion oedd yn risg hunanladdiad uchel, mae’n debyg ar gyfer cael eu harsylwi’n well.

Mae’n amlwg o astudio ffeiliau achos y cleifion, bod epilepsi yn aml yn cael ei nodi fel cyflwr eilaidd, y prif ddiagnosis yn gyffredinol oedd dementia neu ‘gwiriondeb’ (gair amhleserus i’r glust ond un a ystyriwyd yn derm meddygol ar y pryd). Eto, roedd llawer o’r symptomau a gofnodwyd, gan gynnwys bod yn anghofus, ymosodedd a dryswch yn symptomau’n gysylltiedig ag epilepsi.

Yn ôl y gymdeithas Epilepsi mae dros hanner miliwn o bobl ac 1 ym mhob 200 o blant a phobl ifanc o dan 18 oed gyda epilepsi. Mae adroddiad blynyddol 1849 (blwyddyn ar ôl i’r ysbyty agor), yn cofnodi o’r 142 o gleifion a dderbyniwyd, bod 6 gydag epilepsi. Erbyn 1885, roedd y nifer o gleifion i fyny i 526, gyda 4 marwolaeth wedi eu hachosi gan epilepsi.

Roedd William Owen, 58 oed, yn un o’r cleifion hynny, cafodd ei dderbyn yn yr ysbyty ar 7 Gorffennaf 1885. Ar ôl cael ei dderbyn, cafodd ddiagnosis ‘dementia ac epilepsi’, ar ôl anafu ei ben yn ystod ffit epileptig 12 mis yn gynharach. Bu farw William bedwar mis yn ddiweddarach yn yr ysbyty, achos y farwolaeth oedd ‘lludded epilepsi’.

 

Erbyn 1918, roedd 192 claf wedi eu derbyn yn yr ysbyty, 13 wedi cael diagnosis epilepsi. Roedd plant mor ifanc â 6 oed yn cael eu derbyn, ac yn aml o ganlyniad i epilepsi, gan nad oedd gwasanaethau arbenigol plant yn bodoli fel maent heddiw.

Ar 29 Rhagfyr 1904, cafodd Edward Jones, 9 oed ei dderbyn yn yr ysbyty. Ar ôl cael ei dderbyn, cafodd Edward ddiagnosis o ‘wiriondeb gydag epilepsi’ ar ôl ‘ceisio rhoi ei chwaer yn y tân’. Byddai’n aros yn yr ysbyty tan ei farwolaeth ar 7 Mai 1918, yn 22 oed.

 

Yn anffodus, nid yw straeon Edward a William yn anghyffredin, ac mae llawer o achosion tebyg i’w gweld yn y cofnodion.

Mae rhan o gasgliad Ysbyty Gogledd Cymru eisoes wedi ei gatalogio ac ar gael, fodd bynnag nid yw rhai cofnodion y soniwyd amdanynt yn y blog hwn wedi eu catalogio eto. Bydd y cofnodion ar gael i’w gweld ar ddiwedd y prosiect ‘Datgloi’r Seilam’ ym mis Hydref 2019. Yn ogystal, sylwer oherwydd rheoliadau GIG bod cofnodion cleifion a staff sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif ynghau am rhwng 75 a 100 mlynedd.

Rhian Evans
Swyddog Cefnogi Prosiect (Datgloi’r Seilam)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s


%d bloggers like this: