Prosiect  Datgloi’r Seilam: Cyfarfod y Tîm

Byddwn yn dechrau ar Brosiect Datgloi’r Seliam yn swyddogol y mis hwn, a fydd yn parhau wedyn dros y ddwy flynedd nesaf. I’r rhai ohonoch sy’n ymweld â’r swyddfa, efallai eich bod wedi sylwi ar wynebau newydd wrth i’r tîm prosiect ddechrau ar y dasg mewn llaw.

IMG_6162Archifydd y Prosiect – Lindsey Sutton

Mae Lindsey wedi cwblhau prosiect yn ddiweddar gyda Swyddfa Gofnodion Sir Gaerhirfryn yn catalogio cofnodion Horrockses, Crewdson a ‘Company Limited’, cwmni tecstilau wedi’i leoli yn Sir Gaerhirfryn. Cyn y swydd hon, roedd hi’n gweithio ar sawl prosiect catalogio yn Swyddfa Gofnodion Sir Gaerhirfryn a Phrifysgol John Moores, Lerpwl. Bydd Lindsey gyda ni drwy gydol y prosiect ac yn gyfrifol am greu catalog o’r casgliad.

 

Cadwraethydd Prosiect – Joanna ShukerIMG_6163.JPG

Mae Joanna newydd raddio o Brifysgol y Celfyddydau yn Llundain mewn MA Cadwraeth Celf ar Bapur ac wedi cael profiad o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Amgueddfa Clwb Tennis Gwair Wimbledon. Bydd Joanna gyda ni am 3 mis ac yn gyfrifol am gadw golwg ar y casgliad a darparu adroddiad manwl ar gyflwr y cofnodion.

 

Rhian profile imageSwyddog Cymorth Prosiect – Rhian Evans

Mae Rhian wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd archifau am 9 mlynedd ac yn cael secondiad i’r tîm prosiect. Mae Rhian wedi bod yn rhan o sawl tasg dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys rhestru casgliad mawr o gofnodion crwner a throsglwyddo miloedd o gofnodion catalog i mewn i’n cronfa ddata. Bydd Rhian yn gyfrifol am greu rhestr gynhwysfawr o ffeiliau achos cleifion.

Ar ôl cwblhau’r prosiect bydd y canlynol wedi’u gwneud:

  • Catalog wedi’i eitemeiddio o dderbynion presennol a’u hail-gatalogio i safonau cyfredol.
  • Catalog wedi’i eitemeiddio o dderbynion diweddarach o gofnodion gweinyddu.
  • Bydd derbyniad diweddarach o ffeiliau achos cleifion yn cael eu rhestru a’u hail-becynnu.
  • Bydd y casgliad yn cael ei asesu ar gyfer anghenion gwarchod a mesuryddion gwarchod ataliol wedi’u hamlygu a’u rhoi mewn lle.
  • Bydd y casgliad yn cael ei asesu ar gyfer prosiectau digidol/ adnoddau digidol posibl.

Byddwn yn rhoi diweddariadau prosiect rheolaidd ac uchafbwyntiau’r dogfennau ar ein blog a thudalen Facebook.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s


%d bloggers like this: