Archwilio eich Archif 2016

Dydd Gwener diwethaf, cynorthwyodd y cogydd enwog Bryn Williams i ddechrau ymgyrch Archwilio eich Archif yng Nghymru yma yn Archifau Sir Ddinbych.

 

Bydd yr ymgyrch ymlaen rhwng 19-27 Tachwedd mewn archifau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ac mae’n annog pawb i ddarganfod y storïau, y ffeithiau a’r bobl sydd wrth galon ein cymunedau, gyda llawer o archifau yn agor eu storfeydd a gwahodd y cyhoedd i brofi, deall ac ymfalchïo yng nghyfoeth ac amrywiaeth y deunyddiau sydd ar gael.

Un o Ddinbych yng Ngogledd Cymru yw Bryn Williams yn wreiddiol. Fe ddysgodd werthfawrogi bwyd a tharddiad bwyd yn ifanc iawn. Bu’n gweithio yn rhai o geginau amlycaf Llundain a bellach mae’n Chef Patron yn Odette’s, gan symud yno ym mis Hydref 2008. Yn ddiweddar hefyd fe agorodd Bryn Williams ym Mhorth Eirias, Bistro, Caffi a Bar yn wynebu’r môr ar Arfordir Gogledd Cymru.

Meddai Bryn: “Mae’n ddiddorol edrych ar ryseitiau o’r gorffennol a gweld beth oedd pobl yn arfer ei ddefnyddio i goginio a hefyd archwilio sut mae’r hen ffyrdd o goginio wedi dylanwadu ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud mewn ceginau heddiw. Roedd ryseitiau yn un o’r pethau hynny y byddai pawb yn eu rhoi ar bapur a’u trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. Felly, maen nhw’n rhoi cipolwg ar y bwyd oedd yn arfer cael ei weini yn y tai mwyaf cyfoethog a hefyd y rasiwns oedd yn cael eu rhoi i garcharorion neu i bobl yn y wyrcws.”

Fel rhan o ymgyrch eleni yma yng Nghymru byddwn yn canolbwyntio ar ‘fwyd’. Crewyd cyfres o ffilmiau byrion yn Saesneg ac yn Gymraeg gyda haneswyr ac archifwyr yn edrych ar faeth mewn carchardai a thlotai, meddyginiaethau ers talwm sy’n defnyddio cynhwysion rhyfedd ac ofnadwy a gwneud jam! Mae gennym hefyd arddangosfa fechan sy’n amlygu rhai o’r casgliadau a gedwir gan Sir Ddinbych.

Mae’r ffilmiau i’w gweld ar wefan archifau.cymru, ac ar Facebook, Twitter a YouTube.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s


%d bloggers like this: