Mapio Sir Ddinbych: Prosiect Cau Tiroedd

gan Margaret Owen (Gwirfoddolwr Mawrth-Ebrill 2016)

QSD-DE-18 Gwern y Pennant Common

Rwy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Am dri mis cefais y pleser o fod yn gysylltiedig â Phrosiect Mapiau Cau Tiroedd, Gwasanaeth Archifau Sir Ddinbych, ynghyd â’m cyd-fyfyrwyr, Phil Cooper. Cawsom fod yn rhan o’r prosiect diolch i Sarah Roberts, yr Archifydd Arweiniol sy’n gyfrifol am Wasanaethau Digidol ac Allgymorth. Fel rhan o’n cwrs gradd yn y Brifysgol roedd yn ofynnol i ni fynd ar leoliad gwaith. Ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae gan bob myfyriwr sy’n dilyn Gradd Hanes y cyfle i wneud profiad gwaith mewn gweithle sy’n gysylltiedig â hanes. Gofynnodd Phil a minnau am gael gweithio yng Ngwasanaeth Archifau Sir Ddinbych oherwydd bod gan y ddau ohonom ddiddordeb gweithio mewn archifdy yn y dyfodol, ar ôl cwblhau ein cwrs gradd, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y cyfle a gawsom gan Sarah i weithio ar y prosiect heriol a chyffrous hwn.

Mapiau Cau Tiroedd

Mae’r mapiau’n cwmpasu ardal eang, sydd yn fras o fewn ffiniau presennol Sir Ddinbych, er bod rhaid cofio bod ffiniau’r ardal wedi newid sawl gwaith ers i’r mapiau hyn gael eu comisiynu. Mae’r mapiau’n cofnodi cau tiroedd rhwng 1801 a 1877 ac yn cwmpasu’r ardaloedd canlynol:

Cau Tiroedd yng Nghymru

Mae hanes hir i gau tiroedd a sawl cyfnod gwahanol. Cau tiroedd, yn syml, yw cau ardaloedd o dir yn ffisegol ond mae’r broses o’u cau hefyd yn cynnwys proses gyfreithiol sy’n newid ar ba sail y caiff y tir ei ddal. Ar ôl cau’r tir nid tir deiliadaeth gyffredin mohono mwyach ond tir deiliadaeth unigol.

Er i gau tiroedd ddechrau yn y canol oesoedd parodd yr arfer, mewn amrywiol ffurfiau, tan ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae’n un o’r pynciau mwyaf cynhennus ymhlith haneswyr ac mae llawer o honiadau a gwrth-honiadau  am yr effeithiau cymdeithasol ac economaidd a gafodd ar y boblogaeth wledig, yng Nghymru a Lloegr, ar hyd yr oesoedd. Mae llawer o haneswyr o’r farn mai cau tiroedd roddodd ddiwedd ar fodolaeth dosbarth y gwerinwr yng nghefn gwlad, tra bo eraill yn ei weld fel rhan angenrheidiol o’r ymgyrch i wella amaethyddiaeth. Un peth na ellir ei wadu am gau’r tiroedd, fodd bynnag, yw’r marc y mae wedi ei adael ar y dirwedd. ‘So much of the landscape of England and Wales has been fashioned by enclosure. Many of the hedges, country lanes and public footpaths owe their existence to the enclosures of old. Enclosure in one form or another, and at different times in history, has visited and left its mark on most parts of the British Isles’ [1]

Mae’r dyfarniadau a’r mapiau a gadwir gan Wasanaeth Archifau Sir Ddinbych yn dystiolaeth o ffurf derfynol y cau tiroedd, sef y Deddfau Cau Tiroedd, a ddigwyddodd yn Sir Ddinbych yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yng Nghymru digwyddodd y Deddfau Cau Tiroedd yn llawer hwyrach nag yn Lloegr. ‘For whatever reason, although there was a Welsh Parliamentary enclosure as early as 1752…over 50 per cent took place after 1840.’[2] Tan 1801 bu hyn yn digwydd trwy basio deddfau preifat unigol i gau tiroedd ar gyfer pob achos o gau tiroedd ond o 1801, o dan y Ddeddf Cau Tiroedd Gyffredinol, newidiodd hyn a gellid gwneud y broses yn llawer haws ac yn rhatach. Cafodd y broses ei symleiddio ymhellach gan Ddeddf Cau Tiroedd Gyffredinol 1845 a sefydlodd bwyllgor cau tiroedd cenedlaethol, wedi ei gefnogi gan ‘…local assistant commissioners and surveyors, who acted as valuers and held local enquiries into each proposed new enclosure project’ [3] Mae’r mapiau cau tiroedd cynharaf yn archifdy Sir Ddinbych yn cwmpasu cau tiroedd yng Nghilcain a Llanferres yn 1801, tra bod y map diweddaraf yn cwmpasu’r ddau achos o gau tiroedd yn Nhrefgordd Tir yr Abad Uchaf yn 1872 ac yn 1877.

Beth yw diben y mapiau cau tiroedd hyn bellach? Weithiau defnyddid cau tiroedd fel modd o ddatrys anghydfod ynglŷn â ffiniau ac mae pobl yn parhau i edrych ar y mapiau cau tiroedd at y diben hwnnw heddiw. Maent yn darparu ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i haneswyr am bwy oedd yn dal tir yn Sir Ddinbych yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd pobl sy’n ymchwilio i hanes eu tŷ hefyd yn edrych arnynt. Maent yn rhoi cipolwg diddorol ar gyfnod mewn hanes ac yn cynnig cyfoeth o dystiolaeth i haneswyr ynglŷn â chanlyniadau’r broses o gau tiroedd yn y rhan hon o Gymru. Maent yn amrywio o ran arddull yn dibynnu ar y drafftsmon ac er bod rhai ohonynt bron â bod yn weithiau celf, mae eraill yn llawer mwy elfennol. Mae’r mapiau a’r dyfarniadau cau tiroedd a geir yn yr archifdy yn gofnod o ganlyniad terfynol y broses o gau tiroedd ac maent yn gofnod o hyd a lled cau tiroedd ac o sut yr oedd perchnogaeth tir wedi cael ei ddyrannu. Fodd bynnag, efallai mai Kain et al sydd yn llwyddo orau i grynhoi perthnasedd mapiau cau tiroedd ‘Enclosure maps, like many other genres of cadastral maps, were instruments of land organisation and control which both reflected and consolidated the power of those who commissioned them.’[4]

Y Prosiect

Mae’r prosiect hwn yn rhannu llawer o nodweddion Prosiect Cynefin. Nod prosiect Cynefin yw bod mapiau Degwm Cymru gyfan ar gael ar-lein a nod y prosiect hwn yw bod mapiau cau tiroedd ardal lai ei maint yn Sir Ddinbych ar gael ar-lein mewn ffordd debyg.

Cafodd y prosiect ei rannu’n dri cham a chawsant eu cynnal mewn partneriaeth ag Archifdy Sir y Fflint a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Cafodd ei ariannu gan CyMAL (Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Cymru, a elwir erbyn hyn yn MALD).

Yn y cam cyntaf, anfonwyd y mapiau cau tiroedd, a gâi eu cadw yn Archifdy Sir Ddinbych, yn rhan o gofnodion y Sesiynau Chwarter, i Archifdy Sir y Fflint i gael eu hatgyweirio a’u gwarchod. Unwaith yr oedd y dasg hon wedi ei chwblhau cafodd y mapiau eu hanfon wedyn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle cynhyrchwyd delweddau digidol, ansawdd uchel o’r mapiau yn defnyddio’r cyfleusterau diweddaraf sydd ar gael yno. Yna cafodd y mapiau eu dychwelyd i Ruthun, lle dechreuodd cam olaf y prosiect, a dyma pryd y dechreuodd Phil a finnau gymryd rhan yn y prosiect. Roedd cam olaf y prosiect yn cynnwys ymgorffori’r delweddau digidol yn rhan o wefan newydd yr archifdy ac wrth i ni ddechrau ar y gwaith roedd y wefan newydd bron â bod yn barod i fynd ar-lein. Ein prif dasg oedd paru’r mapiau cau tiroedd â mapiau hanesyddol diweddarach a mapiau modern er mwyn gallu adnabod yr ardal sydd wedi ei chynnwys ar y mapiau.

Ein tasg gyntaf, fodd bynnag, oedd archwilio pob map a nodi enwau unrhyw eiddo a oedd wedi’u marcio arnynt. Ein gobaith yw y bydd hyn yn ddefnyddiol i unigolion sy’n ymchwilio i hanes eu tŷ. Unwaith yr oedd hyn wedi ei orffen gallem symud ymlaen at ein prif dasg, a oedd ychydig yn fwy cymhleth, er i’r gwaith yn sicr roi cipolwg i ni o natur trylwyr a heriol gweithio mewn archifdy. Proses ac iddi ddau gam oedd hon lle câi ardal pob map cau tiroedd ei dynodi yn defnyddio mapiau sydd ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru. Yna, roedd hyn yn ein galluogi i ddod o hyd i godau daearyddol ar gyfer pob map drwy ddefnyddio gridreferencefinder.com. Yna cafodd yr wybodaeth hon ei hychwanegu at gofnod y catalog. Cafodd ei defnyddio hefyd i greu pwynt dynodi ar fap chwilio Sir Ddinbych ar-lein ar wefan newydd yr archifdy. Roedd y broses hon felly yn cysylltu mapiau dros dair canrif.

Yn achos rhai mapiau roedd yn hawdd dynodi’r ardal y mae’r map cau tiroedd yn ei chwmpasu, a dod o hyd i bwynt cyffredin sydd yno o hyd. Roedd gan rai mapiau farcwyr hawdd eu hadnabod i helpu’r broses o ddynodi’r ardal: afon, eiddo, mynydd neu fryn ac iddynt enw, ac roedd yn hawdd gweld tebygrwydd rhwng y mapiau cau tiroedd a mapiau hanesyddol diweddarach, a mapiau’r cyfnod modern. Fodd bynnag, yn achos mapiau eraill, mapiau heb gynifer o nodweddion, roedd y broses yn llawer mwy cymhleth, yn cymryd llawer mwy o amser ac yn llawer mwy rhwystredig ac roedd angen gwneud ychydig mwy o waith ditectif cyn y gellid dynodi eu lleoliad a chanfod pwynt chwilio cyffredin.

Canfod pwynt cyffredin, sydd yno o hyd, yn aml oedd agwedd fwyaf problemus ein tasg. Roedd meddwl bod angen i ni ddynodi pwynt cyffredin a oedd wedi bodoli am ganrif a hanner o leiaf yn ddigon i’n sobreiddio a dyna pam mai dyma un o rannau mwyaf rhwystredig ac eto mwyaf gwerth chweil y prosiect. Nid yw’n hawdd dod o hyd i rywbeth sydd wedi bodoli, ac wedi’i fapio, am gyhyd â hynny. Gellid meddwl bod tai neu enwau tai yn para ond nid hynny oedd ein profiad ni gyda’r mapiau cau tiroedd. Mae sawl eiddo unigol sydd wedi’u marcio ar y mapiau cau tiroedd yn syml wedi diflannu erbyn adeg y mapio nesaf, yn 1868. Ai effaith y broses o gau tiroedd oedd hyn? Efallai bod hyn yn faes ymchwil i rywun yn y dyfodol.

Er mawr syndod, i mi o leiaf, un o’r nodweddion mwyaf parhaol ar y mapiau, ar wahân i nodweddion daearyddol, oedd y ffyrdd a phatrymau’r ffyrdd. Yn aml dyma’r unig bwyntiau mapio cyffredin y gellid eu nodi ar draws y canrifoedd, ond nid oedd eu hadnabod yn fater syml bob amser. Yn aml roedd yn golygu llawer o fflicio, yn ôl ac ymlaen, rhwng delweddau’r mapiau cau tiroedd, a’r mapiau diweddarach, i ddirnad a oedd y ddau batrwm ffordd mewn gwirionedd yr un fath yn union â’i gilydd, neu a oedd y tebygrwydd yn ddim byd ond breuddwyd gwrach, neu rwystredigaeth, ar ein rhan ni. Er gwaethaf hynny fe gawson ni sawl ‘eiliad Eureka’ wrth lwyddo ymhen yr hir a’r rhawg i wneud pariad.

Roedd rhai mapiau yn arbennig o drafferthus ac mae un map penodol yn sefyll allan yn hyn o beth. Y map hwnnw yw QSD / DE / 16E sy’n cwmpasu ardal Bryniau Gleision, ger Trofarth. Nid oes arno unrhyw eiddo ac iddynt enw, dim ond un ffordd, a dim nodweddion penodol o gwbl. Roeddwn i wedi anobeithio ac yn meddwl na fyddwn i byth yn adnabod yr ardal, heb sôn am ddod o hyd i bwynt cyffredin. Ond fe lwyddais i wneud y ddau beth yn y diwedd a gwneud hynny drwy ddefnyddio siâp anarferol y caeau ar y map cau tiroedd. Llwyddais i’w paru â chaeau modern, sydd wedi cadw eu siâp anarferol, a llwyddom i weld hynny yn defnyddio map lloeren modern Bing.

Cefais foddhad mawr ar yr adegau hynny yn ystod y prosiect, ond roeddem hefyd yn ffodus iawn bod diwedd ein lleoliad gwaith wedi cyd-daro â diwedd y prosiect hir hwn. Ar ein diwrnod olaf yn yr archifdy cawsom weld ffrwyth ein llafur, a llafur pawb arall a fu’n gysylltiedig â’r prosiect hwn. Cawsom gipolwg o wefan newydd yr archifdy sy’n cynnwys y delweddau digidol eu hunain a map chwilio sy’n seiliedig ar y pwyntiau cyfeirio grid y buom wrthi’n amyneddgar yn eu plotio. Roeddem yn teimlo’n ostyngedig iawn wrth sylweddoli cymaint o amser ac ymdrech sydd wedi’i roi i’r rhan hon o’r prosiect, ac eto yr unig dystiolaeth uniongyrchol sydd o’r holl ymdrech, yn ystod y profiad gwaith cyfan, yw ychydig ddotiau ar fap. Serch hynny, bydd y dotiau hyn yn help mawr i’r rhai sy’n chwilio’r wefan am wybodaeth am y mapiau cau tiroedd ac wrth edrych ar y wefan cawsom deimlad rhyfedd o fod wedi cyflawni rhywbeth ar ddiwedd ein cyfraniad ni i’r prosiect. Roeddem yn teimlo’n falch o fod wedi bod yn rhan o’r prosiect cau tiroedd, er mai bach iawn mewn gwirionedd oedd ein cyfraniad.

enclosure maps

Pwyntiau a godwyd yn ddaearyddol yn dangos lleoliadau Cynllun Cau Tiroedd Sir Ddinbych

Felly, beth mae’r prosiect wedi ei gyflawni? Wel, bydd edrych ar y mapiau cau tiroedd yn llawer haws yn y dyfodol. Mae rhai o’r mapiau hyn yn enfawr, ac yn fwy na’r byrddau yn yr ystafell chwilio. Byddai edrych ar y mapiau hyn yn ddi-os yn beryglus i’r mapiau, ac yn anodd i’r sawl sy’n edrych arnynt. Ffynhonnell o wybodaeth yw mapiau yn y bôn a bydd y delweddau digidol ansawdd uchel hyn yn gwneud archwilio’r mapiau cau tiroedd yn llawer haws. Bydd y mapiau hefyd yn awr yn hygyrch, hyd yn oed os na fyddwch yn gallu ymweld â’r archifdy eich hun. Gobeithio y bydd hyn yn golygu y bydd rhagor o bobl yn dod i gysylltiad â’r mapiau diddorol hyn, sy’n cynrychioli ac yn rhoi tystiolaeth am ran bwysig o orffennol Cymru.

[1] Steven Hollowell, Enclosure Records for Historians, (Chichester: Phillimore &Co. Ltd, 2000), t xiii

[2] John Chapman, A Guide to Parliamentary Enclosures in Wales, (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1992), t5

[3] Steven Hollowell, Enclosure Records for Historians, (Chichester: Phillimore &Co. Ltd, 2000), t61

[4] Roger Kain, John Chapman, Richard Oliver, ‘The Enclosure Maps of England and Wales 1595-1918’ , (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2004), Preface

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s


%d bloggers like this: