Diwrnod Agored yn Archifdy Sir Ddinbych!

Mai 8, 2012

Rydyn ni’n cynnal Diwrnod Agored yr Haf ar ddydd Sadwrn, Mehefin 9fed (10am-2pm) i lansio arddangosfa deithiol ‘Cymru’n Pweru’r Byd’.

Fe grëwyd yr arddangosfa wedi i brosiect catalogio Cymru gyfan o’r enw ‘Pweru’r Byd: Edrych ar Ddiwydiant Cymreig drwy Archifau’ wneud rhai o’r casgliadau busnes mwyaf arbennig a ddelir gan wasanaethau archifau ledled Cymru yn hygyrch am y tro cyntaf. 

Mae’r arddangosfa yma’n dangos rhai o’r dogfennau mwyaf diddorol o’r casgliadau, yn adlewyrchu cynnydd a chyflawniadau Cymru mewn cloddio glo, chwarelu llechi, mwyndoddi copr, peirianneg, llongau a bragu.  Mae’r casgliadau hyn â chyfoeth o ddeunydd gyda photensial ymchwil ffantastig i hanes teuluol a hanes lleol.

Dewch i gael taith tywys o’r archifau i weld pa wasanaethau y gallwn eu cynnig a gweld rhai o’n casgliadau mwyaf nodedig a diddorol.

Mae’r arddangosfa i’w gweld am ddim a bydd efo ni tan ddydd Gwener, Gorffennaf 27ain.

Yr wythnos hon yn y wasg – 27 Ebrill 1912

Ebrill 26, 2012

  • YMWELIAD ARCHESGOB  Ymweliad yr Archesgob â Llanelwy a Gogledd Cymru – oherwydd yr ymosodiad a fygythir ar yr Eglwys Gymreig.                            
  • GWARTHEG YN CRWYDRO  Mr Jones, Saron yn cael ei alw i’r llys, am ganiatáu i ddwy fuwch grwydro ar y briffordd yng Ngherrig y Drudion.
  • CALAN  MAI Y RHYL  Manylion Calan Mai y Rhyl, i’w gynnal ar ddydd Iau, Mai 2il.
  • PRIODAS  Manylion priodas Miss E G Williams o Lewesog, â’r Parch. E M Richards BA, rheithor Llangystennin, fel y’i hadroddwyd yn rhifyn yr wythnos diwethaf
  • CROGI YN HENLLAN  Rhoddwyd dyfarniad o ddynladdiad gan y Crwner, yn yr ymchwiliad i farwolaeth ar fferm yn Henllan.
  • ANFON NAFI MEDDW I’R CARCHAR  Mr McCarthy, brodor o Iwerddon a oedd yn gweithio yng ngwaith Dŵr Birkenhead, Cerrig y Drudion yn cael ei anfon i’r carchar am 21 o ddyddiau, am fod yn feddw ac yn afreolus.
  • TÂN LLANBEDR  Bu’r frigâd dân dan reolaeth yr Is-gapten Joyce, yn gwasanaethu mewn tân ysgubor yn Llanbedr.  Fe ddinistriwyd y das wair gyfan.
  • ANGLADD  Manylion angladd Mrs Hughes, Stryd y Dyffryn, Dinbych.  Un o’r angladdau mwyaf a welwyd ers llawer blwyddyn, a gwraig yr oedd parch mawr iddi yn y dref.

 ARBENNIG – YMHOLIAD Y TITANIC

Denbighshire Free Press, Ebrill 27 1912.

Denbighshire Free Press, Ebrill 27 1912. Ar gael i’w weld yn Archifdy Sir Ddinbych.

Denbighshire Free Press, Ebrill 27 1912.

Denbighshire Free Press, Ebrill 27 1912. Ar gael i’w weld yn Archifdy Sir Ddinbych.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Archifdy Sir Ddinbych yn y newyddion!

Ebrill 18, 2012

Mae’n gwasaneth yn ymddangos yn rhifyn diweddar cylchgrawn CyMAL.  Gallwch ddarllen copi ar wefan Llywodraeth Cymru, rydym ar dudalen 11 – gyda manylion ein gwaith cadwraeth ariannol, ac ein prosiect addysg, wedi’i gwblhau yn ddiweddar, i greu blychau addysgol i ysgolion!

Cliciwch yma i ddarllen

Gwesty’r Castell, Rhuthun

Mawrth 29, 2012

Mae’r post yma i gyd fynd gyda’n arddangosfa fewnol bresennol, wedi ei seilio ar Gwesty’r Castell, Rhuthun, yn dilyn ei adnewyddiad diweddar gan y cadwyn dafarn ‘Wetherspoons’.  Efallai y gellid disgrifio Gwesty’r Castell unwiath eto fel y ‘principal hostelry, occupying the most important position in St. Peter’s Square’.

This slideshow requires JavaScript.

Roedd yn adnabyddus fel y White Lion, a dywedir ei fod yn dyddio o ddechrau i ganol y ddeunawfed ganrif.  Efallai iddo gael ei adeiladu ar safle adeilad cynharach ac yn wir, yn y cefn mae yna adeiladau allan o ffrâm bren o’r 16/17g.  Gyda datblygiad y cwmnïau tyrpeg a gwelliant y system ffyrdd, fe ddaeth y White Lion yn dafarn coets fawr ac ebrandy.

Yn dilyn dyfodiad y gwasanaeth rheilffordd i Ruthun, fe anfonid ceir a cheffyl i gyfarfod â phob trên I gludo darpar noddwyr i’r gwesty.  Tua diwedd y 19g fe ddaeth yn fwy adnabyddus fel Gwesty’r Castell.

Ar droad y ganrif diwethaf roedd yn westy mawr, gydag ystafelloedd derbyn, 15 o lofftydd, stablau ar gyfer o leiaf 20 o geffylau a garej.  Cafodd ei adnewyddu yn y 1930au gan y ‘Trust House Group’, ac fe’i gwerthwyd ganddyn nhw fel gwesty unigryw yn 1971; mae wedi parhau I fasnachu fel gwesty byth ers hynny.

Mae gwybodaeth ar ein daliadau ar gael ar http://www.denbighshire.gov.uk/cy-gb/dnap-6zqktq?opendocument&lang=cy-gb

Cadwraeth

Mawrth 15, 2012

Does gennym ni ddim gwarchodwr yn ein gwasanaeth a byddwn yn dibynnu ar grantiau allanol i ariannu’r rhan fwyaf o waith cadwraeth sydd ei angen.  Eleni, rydyn ni wedi derbyn cyllid gan CyMAL a’r NMCT i adfer dwy gyfrol o’n Casgliad Heddlu Sir Ddinbych.

This slideshow requires JavaScript.

Mae’r grant yma wedi ein galluogi i ariannu gwaith cadwraeth ar ddau lyfr prin o ddisgrifiadau troseddol, yn cynnwys dwy gyfrol fechan mewn rhwymiad lledr.  Mae’r cyfrolau hyn yn cynnwys ffotograffau ‘carte de visite’, gyda disgrifiadau llawysgrif ychwanegol o wahanol ffeloniaid a oedd wedi eu rhyddhau o garchardai yn Lloegr a Chymru, ac a oedd â chysylltiadau ag ardal Sir Ddinbych. 

Mae’r disgrifiadau o’r unigolion a bortreadir yn cynnwys manylion byr o’u hymddangosiad corfforol, eu cofnod troseddol, eu heuogfarn, a’r ddedfryd. Mae ffotograffau cynnar o droseddwyr yn anarferol ac mae’r albymau hyn yn cynnwys ffotograffau sy’n dyddio o’r 1860au i’r 1880au.  Mae’r albymau’n bwysig ac yn arwyddocaol i hanes cymdeithasol Prydain, a hanes plismona’n arbennig.

Archifau – Atebion i’ch cwestiynau

Chwefror 9, 2012

Beth ydi pwrpas yr Archifdy?

Fe allech ddweud mai ein prif bwrpas ydi bod yn gof i Sir Ddinbych.  Rydyn ni’n casglu, yn diogelu cymaint ag sy’n bosib o ddeunydd dogfennol sy’n ymwneud â hanes Sir Ddinbych.  Rydyn ni’n dal â lot o ddeunydd ar siroedd newydd Conwy a Wrecsam yn ogystal â’r ardal gyfredol sy’n dod dan Sir Ddinbych oherwydd yr hen ffiniau sirol hanesyddol.

This slideshow requires JavaScript.

A all unrhyw un ddod i mewn i weld y dogfennau?

Mae’r Archifdy ar agor i unrhyw un, ond gan fod pob un o’r eitemau’n unigryw, ac mewn rhai achosion yn werthfawr, mae yna rai rheolau: mae angen bocyn darllenwr arnoch chi, a dim on pensiliau a ganiateir, chech chi ddim defnyddio pen neu feiro, ond rydyn ni’n caniatáu i chi ddod â gliniadur.  Bydd angen i chi ddod â rhyw fath o ddull adnabod sydd â’ch enw, eich cyfeiriad a’ch llofnodarnoi gael tocyn darllenwr – mae trwydded yrru’n ddelfrydol gan fod y tri ar honneu gallwch ddod â cerdyn banc a bil gwasanaeth.

Beth fydd archifydd yn ei wneud?

Swydd archifydd ydi didoli’r casgliadau a’u paratoi ar gyfer eu defnyddio gan ymchwilwyr i’w gwneud yn hawdd I bobl eu ffeindio a’u defnyddio Mae mynegeion i’w cael ar

www.sirddinbych.gov.uk/archifau

Pa adnoddau eraill sydd gennych?

Ar wahân i ddogfennau gwreiddiol mae gennym ni adnoddau fel cofrestrau plwyf a hen bapuraru newydd ar ficroffilm; mae gennym ni gyrchiad am ddim i wahanol adnoddau achyddol fel ancestry.co.uk a findmypast.com ac mae gennym ni lyfgell fechan o gyfeirlyfrau hanes lleol.

Pa fathau o bobl fydd yn defnyddio’r gwasanaeth?

Mae’r rhan fwyaf o’n defnyddwyr yn bobl leal, on fe fyddwn yn cael ymweleyr o gyn belled i ffwrdd ag Awstralia, Seland Newydd ac Unol Daleithiau America.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gais am wasanaeth ymchwil, gadewch sylw isod, neu ewch i’n gwefan

http://www.denbighshire.gov.uk/cy-gb/dnap-6zqktq?opendocument&lang=cy-gb

Ychydig o’n hoff bethau!

Chwefror 8, 2012

Mae Gwasanaeth Archifau Sir Ddinbych yn cynnig cyfle i chi gael golwg ar gyfoeth o ddogfennau a chofnodion, ar gael yn Archifdy Rhuthun.  Ceir Archifau o bob siap a ffurf yn cynnwys mapiau a chynlluniau, cofrestrau, rholiau o bapur, ffeiliau a bwndeli a gallant fod yn ddeunydd wedi ei argraffu neu menw llawysgrifen, o archifau personol neu swyddogol.  Yn y post yma, rydym yn uchelbwyntio ar ein hoff gofnodion.

This slideshow requires JavaScript.

Siartr Dinbych

Yr eitem hynaf o Sir Ddinbych ydi un o Siartiau Bwrdeistref Dinbych, sy’n ddyddiedig oddeutu 1290.  Mae’n anarferol oherwydd dyma’r unig ddogfen sydd gennym ni sydd wedi ei hysgrifennu mewn Ffrangeg Normanaidd.  Mae’r rhan fwyaf o gofnodion un ai mewn Lladin, cyn canol yr 16g, neu mewn Saesneg.

Rholiau’r Sesiwn Chwarter

Mae rholiau’r Sesiwn Chwarter o’r 18g yn cynnwys swm enfawr o wybodaeth am fywyd, trosedd yn arbennig, yn Sir Ddinbych bryd hynny, a hynny’n datgelu fod yr ynadon yn delio â llawer o’r un problemau ag sy’n ein poeni ni’n awr, yn cynnwys cam-drim plant, trais domestig, tadau absennol, yfed mewn pyliau a’r trais o ganlyniad gan ddynion a marched twyllwyr, fandaliaeth a difrodi eiddo.

Ysbytu Gogledd Cymru

Mae cofnodion Ysbytu Gogledd Cymru yn Ninbych yn gyflawn, fwy neu lai, o amser ei hagor yn 1848 hyd ei chau yn 1995.  Y casgliad yma yw’r gorau yn Ngymru, ac un o’r goreuon ym Mhrydain gyfan, am ymchwil i hanes meddyginiaeth seiciatrig.  Mae cofnodion y cleifion yn arbennig yn llawn o wybodaeth hudol a thrasig yn aml.

‘The Painted Book’

Mae’r ‘Painted Book’ yn gyfrol o dariannau herodol teuluoedd lleol, wedi eu paentio â llaw, ac wedi eu casglu yng nghanol yr 17g gan John Salisbury o Erbistog, a oedd yn achydd adnabyddus yr adeg honno.  Mae’n un o’r eitemau mwyaf lliwgar, deniadol a nodedig sydd gennym ni.

Mae gwybodaeth ar ein daliadau ar gael ar
http://www.denbighshire.gov.uk/cy-gb/dnap-6zqktq?opendocument&lang=cy-gb
 
Mae amrywiaeth o’n cofnodion hefyd ar gael ar wefan’Casglu’r tlysau’
http://www.gtj.org.uk/

Swyddfa ar gau dros dro

Chwefror 2, 2012

Yr wythnos yma mae ein swyddfa wedi bod ar gau ar gyfer gwaith adeiladu hanfodol.  Fel y gwelwch o’n llun, rydym yn defnyddio ein ystafell ymchwil fel stordy dros dro, tra mae’n ffenestri yn ein ystafelli diogel yn cael ei inswleiddio.  Mae’r staff yn brysyr yn gwario’r wythnos yn symud ac ail leoi ein casgliadau.  Rydym yn gobeithio gan insiwleiddio’r ffenestri, fydd y cyflwr amgylcheddol yn fwy sefydlog.  Ymddiheurwn i’n ymchwilwyr am unrhyw anghyfleuster, mi fyddwn ar agor fel arfer Dydd Mawrth nesaf y 7fed o Chwefror.

Ystafell ymchwil

 

Gwirfoddoli yn Archifdy Sir Ddinbych

Ionawr 12, 2012

Yma yng Ngwasanaeth Archifau Sir Ddinbych mae gennym ni nifer o wirfoddolwyr yn ein helpu ag amrywiaeth o dasgau na fyddem yn gallu eu gwneud hebddyn nhw!

Ein grŵp o wirfoddolwyr (grŵp y bore) yn gweithio ar gofnodion cofrestri plwyf y Waun, a chasgliad sydd yn cynnwys amrywiaeth o gofnodion yn ymwneud a bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau.

Y llynedd, cafodd ein gwasanaeth grant CyMAL i’n galluogi i brynu cyflenwadau cadwraeth arbenigol, yn cynnwys amrywiaeth o frwshys, papur blotio a sbyngau.  Mae’r offer newydd yma wedi golygu ein bod yn gallu defnyddio grŵp o wirfoddolwyr i helpu i lanhau eitemau yn ein casgliadau.  Bydd y grŵp yn cyfarfod ddwywaith y mis ac maen nhw wedi glanhau 245 o gyfrolau hyd yma ac wedi bod wrthi am gyfanswm cyfunol o 238 o oriau o amser gwirfoddoli.  Mae angen person amyneddgar a gofalus iawn sydd â dwylo pwyllog i lanhau dogfennau ac mae’n golygu glanhau arwyneb  y dogfennau’n ofalus â brwshys arbenigol.  Mae’r gwirfoddolwyr wedi dod atom ni gydag angerdd tuag at hanes a hanes lleol yn arbennig, a brwdfrydedd i weithio ag archifau gwreiddiol.

This slideshow requires JavaScript.

Mae yna nifer o wirfoddolwyr eraill wedi bod yn gweithio â ni hefyd, yn cynnwys disgyblion ysgol ar brofiad gwaith, myfyrwyr prifysgol, y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn archifau a phobl sydd wedi ymddeol sydd â diddordeb mewn archifau a’u hanes lleol.

Mae’r staff yn Archifau Sir Ddinbych yn ddiolchgar iawn am yr amser y mae ein gwirfoddolwyr yn ei gyfrannu a gobeithio y bydd ein prosiectau gwirfoddoli’n parhau i fod yn llwyddiannus yn y dyfodol.

Os hoffech chi wirfoddoli yma, cysylltwch â ni ar y ffôn neu ar e-bost.  Mae ein manylion cyswllt ar gael drwy’r ddolen i’r ‘gwasanaeth archifau’ ar yr ochr dde i’ch sgrin.

Golygfeydd Gaeafol

Ionawr 3, 2012

Pob 6 i 8 wythnos mae’r staff yng Ngwasaneth Archifau Sir Ddinbych, yn llunio arddangosfa fewnol newydd.  Rydym yn gobeithio’i ddarpau i’n cynilleidfa ar-lein, rhai o’n hoff agweddau o’r arddangosfeydd hyn.  Mae’r post hwn i gyd-fynd gyda’n arddangosfa bresennol ‘Golygfeydd Gaeafol’. 

Trefor Hall yn yr eira, tua 1890

DD/DM/146/19 - Trefor Hall, ger Llangollen, tua 1890

 
Gweithwyr yn clirio eira ger Coedwig Clawddnewydd, tua 1936/37

PPD/25/14 - Gweithwyr yn clirio eira ger Coedwig Clawddnewydd, tua 1936/37

 

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn